Beth yw ein gwaith?
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru [G.G.C.] yn darparu gwaed i Dde, Dwyrain, Gorllewin a Chanolbarth Cymru. O fewn yr ardal hon rydym yn casglu cyfraniadau gwaed, a hynny am ddim ac o'u gwirfodd. Mae'r cyfraniadau hyn yn cael eu prosesu a'u profi cyn cael eu dosbarthu i gynnal y gwaith o ofalu am gleifion. Rydym hefyd yn dal cynnyrch gwaed (o'r G.I.G. neu o ffynonellau masnachol) i'w prynu gan yr ysbytai sy'n gwsmeriaid i ni.
Rydym yn darparu gwasanaethau cyfeirio arbennig a gwasanaethau profion gwaed cyn geni i nifer o ysbytai, ac rydym yn cynnig gwasanaethau labordy cyfeirio i bob ysbyty y cyflenwir gwasanaeth iddo i'w cynorthwyo gydag ymchwilio problemau serolegol cymhleth.
Mae Labordy Trawsblaniadau ac Imiwnogenetig Cymru, o fewn G.G.C., yn cynnig cymorth uniongyrchol i ddarparwyr Gwasanaethau Trawsblannu Arennol a Chelloedd Bonyn. Hefyd, daliai'r Labordy Gofrestrfa Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru, sef panel cenedlaethol o roddwyr posib o fôn- gelloedd gwaed.
Darperir cymorth Ymgynghorydd Meddygol i'r Pwyllgorau Trallwyso Gwaed Ysbyty, sy'n cynnwys cymorth wrth gyrraedd amcanion WHC(2002)137 - Trallwyso Gwaed Gwell. Darperir cyngor clinigol i'r ysbytai sy'n gwsmeriaid yn ôl y galw.
Rydym yn cyfrannu at gynnal safonau ansawdd o fewn y gymuned trallwyso a thrawsblaniadau drwy redeg y canlynol:
- Cynllun allanol i asesu safonau NEQAS ar gyfer Histogydnawsedd ac Imiwnogenetig y Deyrnas Unedig;
- Cynllun Asesiad Hyfedredd Serolegol Cymru (WASPS).
Mae G.C.G. yn rhan o Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Felindre. Cynorthwyid Cyfarwyddwr y Cyfadran gan Dîm Rheoli Uwch sydd hefyd yn Weithredwyr ar ran G.G.C., yn monitro a rheoli prif faterion gweithredol a chyllidol y Gwasanaeth. Gosodwyd Dangosyddion Perfformiad ar gyfer y G.G.C. gan y Grwp Safonau ac Ansawdd Gwaed (cadeirydd - Prif Swyddog Meddygol).
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn ymrwymedig i system rheoli ansawdd effeithiol ar bob lefel o fewn y sefydliad a thrwy weithredu ein system ansawdd sy'n bodloni gofynion ISO 9001. Mae gennym achrediad CPA, ac rydym yn Fuddsoddwr mewn Pobl. Rydym yn cael ein trwyddedu gan Asiantaeth Rheoli Cynnyrch Meddyginiaethol ac Iechyd, ac rydym yn cael ein harchwilio gan yr Asiantaeth yn rheolaidd.
Hadroddiad Blynyddol 2008
Llwythwch ein Hadroddiad Blynyddol i lawr yma.