Polisi Ansawdd Gwasanaeth Gwaed Cymru
"Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn ymrwymedig i system rheoli ansawdd effeithiol ar bob lefel o fewn y sefydliad a thrwy weithredu ein system ansawdd sy'n bodloni gofynion ISO 9001. Mae'n ymroddedig i system rheoli ansawdd a fydd yn sicrhau y bydd yn darparu cynnyrch gwaed a gwasanaethau diogel, effeithiol ac amserol ac yn ceisio cwrdd â disgwyliadau ac anghenion ei gwsmeriaid (rhoddwyr, ysbytai, cleifion a labordai cyfrannol) yn llawn".
Ein diffiniad o Ansawdd yw "Cwrdd â gofynion ein cwsmeriaid a gwella boddhad cwsmeriaid " wrth i'r uwch dîm rheoli adolygu'n system ansawdd yn rheolaidd. Byddwn yn nodi'n ofalus y gofynion ar gyfer ein cyflenwyr a'n prosesau, sy'n bodloni'r holl ofynion cyfreithiol a rheoleiddiol cymwys ym mhob agwedd ar ansawdd, cost, perfformiad, diogelwch a dibynadwyedd. Rydym yn ymrwymedig i gydymffurfio â gofynion defnyddwyr ein cynnyrch.
Byddwn yn gweithio'n barhaus i wella effeithiolrwydd ein system rheoli ansawdd drwy fesur boddhad cwsmeriaid yn gyson yn ôl y prosesau canlynol - adolygu cwynion, arolygon rhoddwyr, cyfarfodydd adolygu contractau ac unrhyw ddulliau priodol eraill.
Byddwn yn gwella a chynnal ansawdd trwy system wedi'i chynllunio o reoli sicrwydd ansawdd a fydd yn cwmpasu pob rhan o'n gweithgaredd.
Byddwn yn darparu yr addysg, hyfforddiant a'r system gynnal angenrheidiol i'n staff fel y gallant, bob amser, sicrhau ein bod yn cwrdd â gofynion ein cwsmeriaid. Bydd hyn yn cynnwys gwerthusiadau staff, cynlluniau datblygu personol a chynlluniau hyfforddi.
Byddwn yn sicrhau bod pob aelod o'r staff yn cydnabod eu dyletswydd o ran rheoli ansawdd.
Gweithredu
Bydd Gwasanaethau Gwaed Cymru yn sicrhau fod bob aelod o'r staff yn ymwybodol o'r Polisi Ansawdd.
Arolwg
Bydd cyfres rheolaidd o archwiliadau mewnol, archwiliadau allanol annibynnol gan gyrff cydnabyddedig, ac adolygiad rheoli, yn rhan hanfodol o'r system hon. Bydd addasrwydd parhaus y Datganiad Polisi Ansawdd hwn yn rhan o'r adolygiad hwn.