Gwasanaeth Gwaed Cymru - Beth Sy'n Digwydd Wrth Roi Gwaed?

Gwasanaeth Gwaed Cymru - Rhowch waed arbedwch fywyd...

Syth i'r cynnwys

Llam Mordwyaeth

1 - Hafan, 4 - Chwiliad, 0 - Gosodiad Hygyrchedd

Options

Chwilio

Chwiliwch:
Dewiswch y map am fanylion sesiynau lleol sydd ar ddod.
Map of Wales

Newyddion

Fy Ail Gartref

A allech ddychmygu cael diagnosis o gyflwr anwelladwy a gorfod dibynnu'n llwyr ar drallwysiadau gwaed i gadw'n fyw?

Cofrestru Arlein

Ffoniwch 0800 252266 rhwng 9am a 9pm Ddydd Llun i Ddydd Iau neu 9am i 5pm Ddydd Gwener, neu gofrestrwch ar-lein.

Prif Gynnwys:

Cwestiynau A Ofynnwyd Yn Aml

Rhoi Gwaed

Pa mor hir y mae'n gymryd? - Ni ddylai gymryd mwy na 15 munud i gymryd eich gwaed unwaith y byddwch ar y gwely rhoi gwaed. Ni ddylai'r holl broses gan gynnwys Gwiriad Iechyd y Rhoddwr a chael lluniaeth ysgafn ar ôl rhoi gwaed gymryd mwy na 60 munud.

A yw'r broses yn boenus? - I'r rhan fwyaf o bobl mae rhoi gwaed yn brofiad syml a didrafferth ac mae'r staff yn ceisio lleihau unrhyw boen. Mae cleisio'n bosibl ond gallwch helpu i leihau'r posibilrwydd o gleisio.

A wnaf lewygu? - Mae ambell i berson yn teimlo'n ben ysgafn ar ôl rhoi gwaed ond mae ein staff wedi'u hyfforddi i ddelio â hyn. Mae'n bwysig eich bod wedi yfed digon ac wedi bwyta eich prydau arferol cyn cynnig rhoi gwaed. Mae hefyd yn bwysig iawn yfed llawer (dim alcohol) ar ôl rhoi gwaed. Argymhellwn i chi beidio â gwneud unrhyw ymarfer corff anghyfarwydd yn yr oriau cyntaf ar ôl rhoi gwaed, ac osgoi unrhyw weithgaredd a all fod yn beryglus i chi neu i eraill os byddwch yn teimlo'n wan neu'n ben ysgafn ar ôl i chi roi gwaed. Os ydych yn ysmygu dylech aros o leiaf 2 awr ar ôl rhoi gwaed cyn cael sigarét. Y rheswm am hyn yw bod ysmygu yn achosi i'ch gwythiennau i gulhau a lleihau'r cyflenwad gwaed i'r ymennydd. Os byddwch yn teimlo'n ben ysgafn ar ôl gadael sesiwn, dylech orwedd i lawr tan y byddwch yn teimlo'n well. Ffoniwch Wasanaeth Gwaed Cymru i gael cyngor neu cysylltwch â'ch meddyg teulu os ydych yn parhau i deimlo'n anhwylus.

A fyddaf yn cleisio? - Weithiau mae cleisiau yn datblygu ond mae'r rhan fwyaf yn fach ac maent yn diflannu ymhen ychydig ddyddiau. Nid yw cleisiau fel arfer yn ddifrifol ac fe'u hachosir hwy wrth i waed o'r wythïen dreiddio i feinweoedd y fraich. Er mwyn atal cleisio, dylech osgoi codi pethau trwm a gwneud gwaith corfforol gyda'r fraich y tynnwyd y gwaed ohoni am o leiaf ddwy ar ôl i chi rhoi gwaed os dydd bosibl. Os yw'r gwaedu yn dechrau eto, dylech ei stopio gan bwyso'n gadarn ar y clwyf am ychydig funudau. Weithiau, gall y clais fod yn ddifrifol neu'n boenus. Os yw hyn yn digwydd, dylech gysylltu â Gwasanaeth Gwaed Cymru i gael cyngor neu weld eich meddyg teulu. Yn anaml iawn, gall y broses o osod y nodwydd achos braich lido neu achosi poen mewn nerf. Mae ein staff wedi eu hyfforddi i nodi'r cymhlethdodau anghyffredin hyn a byddwch yn cael triniaeth ar unwaith a/neu gyngor priodol. Os yw hyn yn digwydd wedi i chi adael y sesiwn, dylech gysylltu â'r Gwasanaeth Gwaed i gael cyngor neu gweld eich meddyg teulu.

Faint o waed yr ydych yn ei gymryd? - Rydym yn anelu at gymryd ychydig yn llai na pheint (470 mls).

Pa mor hir y mae'n cymryd i adfer fy mheint? - Mae'r rhan hylifol yn cael ei adfer o fewn oriau os cewch ddigon o ddwr i'w yfed. Os oes gennych ddigon o haearn yn eich corff, neu os oes gennych ddigon o haearn yn eich deiet, bydd y celloedd coch yn cael eu hadfer ymhen ychydig wythnosau.

Pa mor aml y gallaf roi gwaed? - Ni ddylid rhoi gwaed eto am o leiaf 12 wythnos ar ôl rhoi gwaed.

Dylid hysbysu merched sy'n rhoi gwaed yn rheolaidd yn amlach na phob 16 wythnos eu bod yn wynebu risg uwch o ddiffyg haearn. Dylent eu cynghori i leihau amlder eu rhoddion gwaed i 16 wythnos neu fwy ar gyfartaledd.

Profi Eich Gwaed

Rydym yn casglu samplau mewn tiwbiau wrth i chi roi gwaed er mwyn i ni allu eu profi a gwirio eich grwp gwaed yn y labordy. Byddwn yn dweud wrthych os na fyddwn yn gallu casglu digon o samplau ar gyfer y profion.

Pa brofion rydym yn eu gwneud? - Rydym yn profi pob rhodd gwaed, waeth faint o weithiau yr ydych wedi rhoi gwaed, am: HIV (firws AIDS), Hepatitis C, Hepatitis B, HTLV (Firws T-lymffotropig Dynol) a Siffilis. Mae pobl sydd â'r heintiau hyn yn parhau'n iach am lawer o flynyddoedd ond gallent gael eu trosglwyddo mewn trallwysiad gwaed a chael goblygiadau difrifol i iechyd y rhoddwr gwaed a'r claf.

A fyddaf yn cael gwybod os bydd fy mhrofion yn bositif? - Byddwch, a byddwn yn rhoi unrhyw wybodaeth neu gyngor y bydd ei angen arnoch.

Profion Ychwanegol - I ddiwallu anghenion arbennig rhai cleifion, megis babanod, gall profion ychwanegol, megis am Cytomegalovirus neu grwpio gwaed ychwanegol, gael eu cynnal ar rai rhoddion gwaed. Mae'r ystod o brofion gwaed yr ydym yn eu gwneud yn cael eu hadolygu'n rheolaidd a gellir cyflwyno profion eraill.

Adwaith Aneglur yn Ein Profion - Mewn rhai achosion, gall rhai rhoddion gwaed fod yn anaddas oherwydd bod gwaed y rhoddwr yn adweithio yn erbyn y cemegau rydym yn eu defnyddio i gynnal y profion. Nid oes unrhyw oblygiadau iechyd i’r rhoddwr ond bydd problemau profi yn ein hatal rhag defnyddio’r gwaed. Mae’r broblem hon fel arfer yn diflannu ymhen ychydig fisoedd. Byddwn yn anfon esboniad mwy manwl os bydd eich gwaed yn adweithio’n aneglur.

Lefelau Hemoglobin - Mae angen lefelau digon uchel o hemoglobin arnoch (rhan goch y gwaed sydd wedi ei wneud o haearn) yn eich gwaed cyn i ni allu derbyn rhodd gwaed gennych. Mae hyn er mwyn eich atal rhag mynd yn anemig. (Anemia yw pan fo gallu celloedd coch y gwaed i gludo ocsigen o amgylch y corff yn lleihau.) Rydym angen gwybod hefyd bod digon o hemoglobin yn y gwaed i fod o fudd i'r claf.

Mae’r prawf “pigiad bys” yn amcangyfrif eich lefelau hemoglobin. Caiff diferyn o’ch gwaed ei roi mewn toddiant Copr Sylffad. Os yw’n suddo mae hyn yn golygu bod eich lefelau hemoglobin yn ddigon uchel i roi gwaed. Os nad yw’n suddo mae eich lefelau hemoglobin yn rhy isel i ni gymryd gwaed gennych. Byddwn yn gofyn i chi wedyn am sampl gwaed er mwyn i ni allu gwirio eich “cyfrifiad gwaed llawn” yn ein labordy. Bydd hyn yn dangos a ydych yn anemig a’i pheidio. Mae lefelau hemoglobin rhai pobl yn naturiol is na’n lleiafswm sydd ei angen i roi gwaed. Weithiau bydd y prawf pigiad bys yn dangos bod lefelau hemoglobin person yn isel pan fydd yn iawn neu ar y ffin. Mae hyn yn digwydd yn amlach yn ystod misoedd yr haf pan fydd y gwaed yn deneuach.

Cymhwyster - A ydych yn cymryd unrhyw dabledi, meddyginiaethau neu’n cael unrhyw bigiadau? Efallai y bydd y rheswm y bydd angen i chi gymryd y meddyginiaethau yn ein rhwystro rhag cymryd gwaed gennych. Mae rhai cyffuriau wedi eu gwanhau cymaint yn y corff fel na fyddent yn gwneud unrhyw niwed i’r claf sy’n derbyn eich gwaed. Gall rhai cyffuriau effeithio ar y person sy’n derbyn eich gwaed neu, os ydynt yn feichiog, ar y plentyn yn y groth. Mae rhai meddyginiaethau megis aspirin a rhai tabledi lladd poen eraill yn gwneud y platennau’n llai effeithiol. Mae angen i ni wybod a ydych wedi cymryd unrhyw rai o’r rhain yn ystod y 5 diwrnod cyn rhoi gwaed er mwyn i ni beidio â defnyddio'r platennau o’ch gwaed chi.

Os ydych yn cymryd dôs sefydlog o feta-atalwyr neu ddiwretigion dylech allu cyfrannu. Nid yw hyn yn berthnasol i bob triniaeth ar gyfer pwysau gwaed felly holwch ni.

Mae gwybodaeth ychwanegol am gymhwysedd ar gael yn UK Bood Transfusion Services Donor Selection Guidelines (this link will open a new browser window)

Teithio Dramor

Canol a De America - Mae rheolau arbennig yn berthnasol i bobl a anwyd yng nghanolbarth neu dde America, neu y ganwyd eu mam yno neu sydd wedi treulio mwy na 28 diwrnod neu fwy mewn amodau cyntefig, gwledig yno. Mae angen i ni gynnal prawf am Glefyd Chagas, sy’n gallu cael ei drosglwyddo i bobl gan chwilen sy’n sugno gwaed yn y nos. Gall Glefyd Chagas hefyd gael ei basio drwy drallwysiad rhwng mam a’i phlentyn yn y groth. Os yw hyn yn berthnasol i chi byddwn yn gofyn i chi roi sampl gwaed yn gyntaf er mwyn cynnal prawf i sicrhau nad ydych yn cludo’r clefyd hwn.

Malaria - Gellir trosglwyddo malaria drwy drallwysiad gwaed. Erbyn hyn, mae gennym brawf sy’n dweud wrthym p’un a ddaethoch i gysylltiad â Malaria. A chymryd eich bod wedi dychwelyd o ardal lle ceir Malaria ers dros 6 mis, gallwn gynnal y prawf yr un pryd â’ch rhodd. Bydd canlyniad positif yn golygu na allwch roi gwaed am y tro, ac ni chaiff eich rhodd ei defnyddio. Bydd canlyniad negyddol yn golygu y gallwn ddefnyddio’ch rhodd a bydd yn ddilys tan y tro nesaf y byddwch yn ymweld ag ardal lle ceir Malaria nesaf.

Mae’r rheolau canlynol yn berthnasol:

Ymwelwyr (llai na 6 mis mewn ardal lle ceir Malaria). Os nad ydych wedi cael twymyn anesboniadwy yn ystod eich ymweliad neu o fewn 6 mis o ddychwelyd, byddwn yn cynnal y prawf. Os oedd eich ymweliad dros flwyddyn yn ôl, ni fydd angen i chi gael prawf.

Os cewch dwymyn anesboniadwy yn ystod eich ymweliad neu o fewn 6 mis o ddychwelyd, arhoswch 6 mis ers y symptomau diwethaf cyn cynnig rhoi gwaed eto. Yna byddwn yn cynnal y prawf.

Os ydych wedi cael malaria erioed, byddwn yn cynnal y prawf, ond dim ond os oes 6 mis o leiaf wedi mynd heibio ers eich symptomau diwethaf.

Os ydych wedi byw mewn ardal lle ceir Malaria am fwy na 6 mis ar unrhyw adeg yn ystod eich bywyd, byddwn yn cynnal y prawf os oes o leiaf 6 mis wedi mynd heibio ers i chi ymweld ag unrhyw ardal lle ceir Malaria.

Teithio i Ogledd America - Os byddwch yn ymweld ag unrhyw ran o Ganada neu’r UDA rhwng 1 Mai a 30 Tachwedd ni fyddwch yn gallu rhoi gwaed am gyfnod o 28 diwrnod wedi i chi ddychwelyd i’r DU.

Mae hyn er mwyn lleihau’r perygl o drosglwyddo Firws Gorllewin Nîl (West Nile Virus) i bobl sydd angen trallwysiad gwaed. Haint yw Firws Gorllewin Nîl a all gael ei drosglwyddo i bobl drwy frathiadau gan rywogaeth benodol o fosgito. Mae Firws Gorllewin Nîl wedi dod yn broblem gynyddol yng Ngogledd America yn ystod y tymor mosgitos. Gellir dod o hyd i’r firws yng ngwaed pobl sydd wedi eu heintio ac mae’r heintiadau i’w canfod yn yr UDA. Nid yw Gwasanaeth Gwaed Cymru yn profi rhoddion gwaed am y firws hwn.

Brechiadau ac Imiwneiddio - Mae’r rheolau ynglyn â brechiadau ac imiwneiddio yn amrywio yn dibynnu ai firysau actif, firysau anactif neu facteria a ddefnyddir, ac os rhoddwyd yr imiwneiddiad ar gyfer atal clefyd neu oherwydd amlygiad i’r clefyd. Gwiriwch gyda ni os ydych wedi cael imiwneiddiad ataliol yn ystod yr 8 wythnos cyn cynnig rhoi gwaed neu os ydych wedi cael eich imiwneiddio yn ystod y 12 mis diwethaf yn dilyn amlygiad i glefyd.

Trallwyso Gwaed ers Ionawr 1980 - Ni all pobl sydd wedi derbyn trallwysiad gwaed, neu bobl y mae posibilrwydd cryf iddynt fod wedi derbyn trallwysiad gwaed, ers mis Ionawr 1980 roi gwaed. Mesur rhagofalus yw hwn i leihau’r perygl o drosglwyddo’r clefyd amrywiolyn Creutzfeldt-Jakob (vCJD) drwy drallwysiad. Am fwy o wybodaeth am hyn cysylltwch â ni i gael taflen.

Cyswllt â Chlefydau Heintus - Mae cyswllt diweddar â chlefydau heintus e.e. brech yr ieir yn golygu y bydd rhaid i chi ddisgwyl hyd nes bod y cyfnod deori, o leiaf 4 wythnos gan amlaf, wedi mynd heibio. Os ydych yn deori clefyd heintus gallwch ei basio ymlaen i’r claf sy’n derbyn eich gwaed.

Aciwbigo a Rhoi Gwaed - Os ydych wedi cael aciwbigiad gan ymarferwyr meddygol sydd wedi’i gofrestru gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) neu gan nyrs sydd wedi cofrestru â’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC), gallwch roi gwaed yn syth. Mae hyn yn berthnasol os yw wedi cael ei wneud gan staff y GIG mewn adeilad y GIG. Mewn achosion eraill ni allwch roi gwaed am 12 mis oni allwch gyflwyno tystysgrif ddilys gan ymarferydd aciwbigo sydd wedi’i gofrestru â’r Cyngor Aciwbigo Prydeinig, Cymdeithas Aciwbigo o Ffisiotherapyddion Siartredig, Cyngor Cyffredinol y Ceiropartwyr neu’r Cyngor Cyffredinol i Osteopathig. Gellir cael samplau o dystysgrifau gennym ni.

Am waed a grwpiau gwaed

Ffeithiau Am Waed - Gwaed yw rhwng 7 - 10% o bwysau unigolyn. Mae pwysau yn ganllaw da ar gyfer cyfaint waed mewn pobl o gorffolaeth gyffredin. Dyma’r rheswm y mae angen i’n rhoddwyr fod yn fwy na 7st 12 pwys (50kg), oherwydd os cymerir mwy na 13% o’r gwaed mae’n fwy tebygol y bydd y rhoddwr yn teimlo’n benysgafn ar ôl rhoi’r gwaed. Efallai na fydd pobl sydd ymhell dros eu pwysau yn cael rhoi gwaed er lles eu hiechyd.

Amddiffyniad yn erbyn heintiau yw gwaed ac mae’n cludo gwastraff i’r arennau. Mae’n cludo ocsigen a charbon deuocsid i’r meinweoedd a’r ysgyfaint ac ohonynt. Mae’n rhoi bwyd i’r meinweoedd ac yn rheoli’r cemegau yn y corff yn ogystal â thymheredd y corff. Gall pob rhodd o “waed cyflawn” gael ei gwahanu’n gelloedd coch, platennau, plasma a chelloedd gwyn.

Gellir storio celloedd coch am 35 diwrnod ar dymheredd o 4°C. Fe’i defnyddir i ailgyflenwi’r gwaed yn dilyn damweiniau, llawdriniaethau neu afiechydon.

Dim ond am 5 diwrnod ar dymheredd o 22°C y gellir storio Platennau. Maent yn helpu i atal gwaedu mewn pobl sydd â lefel isel o blatennau oherwydd afiechyd neu o ganlyniad i driniaeth salwch megis canser neu lewcemia. Cesglir platennau o waed cyflawn gan ddefnyddio peiriant arbennig i’w casglu o’r enw Platenfferesis

Mae Plasma yn ailgyflenwi hylif mewn cleifion sydd wedi dioddef llosgiadau. Gellir stori Plasma Ffres wedi’i Rewi am flwyddyn ar dymheredd o finws 40°C. Mae’n adnewyddu ffactorau ceulo sydd ar goll. Mae ffactorau ceulo megis Ffactor VIII yn cael eu tynnu o’r plasma i drin cleifion sydd â hemoffilia ac i wneud imiwniadau megis tetanws.

Mae angen defnyddio’r celloedd gwyn o fewn 24 awr o’u casglu. Cânt eu defnyddio mewn amgylchiadau anghyffredin i helpu i drin heintiau difrifol na fydd yn adweithio i driniaeth wrthfiotig. Tynnir mwyafrif o’r celloedd gwyn o bob rhodd, heblaw'r rhai arbennig hyn - proses o’r enw lewcowacáu.

Beth yw'r prif grwpiau gwaed? - Y prif grwpiau gwaed yw O, A, B ac AB. Mae pob grwp hefyd yn cael ei ddosbarthu fel Rhesws D Negatif neu Resws D Positif.

Sut y cefais fy ngrwp gwaed? - Rydych yn etifeddu grwpiau gwaed gan eich rhieni. Mae’r pedwar grwp gwaed, A, B, AB ac O yn cael eu rheoli gan enynnau A, B ac O. Genynnau A a B yw’r rhai blaenllaw ac mae grwp O yn ddibynnol ar etifeddu’r genyn O gan y ddau riant. Mae etifeddu’r genyn Rhesws D (Rh D) gan naill ai un neu’r ddau riant yn rhoi “mynegiant” grwp gwaed Rh D positif. Mae absenoldeb y genyn Rh D yn arwain at y mynegiant grwp gwaed RH D negatif.

Pa rai yw'r grwpiau mwyaf cyffredin a pha rai yw'r grwpiau mwyaf anghyffredin? - Mae gan 44% o bobl yn y DU waed o grwp O; mae gan 42% waed grwp A. Y grwpiau lleiaf cyffredin yw B (10%) ac AB (4%). Mae 85% o’r boblogaeth yn Rh D positif a 15% yn Rh D negatif.

A oes yna un grwp sy'n arbennig iawn? - Does dim gwahaniaeth pa mor gyffredin neu pa mor anghyffredin yw grwp eich gwaed. Mae angen i ni gasglu digon er mwyn cael cyflenwad pan fydd claf ei angen. Gellir rhoi gwaed O Rh D negatif, grwp gwaed llai cyffredin, i unrhyw un men argyfwng ac mae’n aml yn cael ei ddefnyddio i’w trallwyso i fabanod.

Mêr esgyrn a bôn-gelloedd gwaed perifferol

Rhoi Mêr Esgyrn - Bydd angen i chi aros yn yr ysbyty am gyfnod rhwng 24 awr i 48 awr i wneud hyn, yng Nghaerdydd gan amlaf. Rhoddir Anesthetig Cyffredinol i chi. Mae'r mêr yn cael ei dynnu o sawl man ar gefn y pelfis gan ddefnyddio nodwydd a chwistrell. Nid oes angen gwneud toriad llawfeddygol.

Ar ôl rhoi mêr esgyrn efallai y cewch rai sgîl effeithiau megis blinder a phoen ac anesmwythder yn y man lle y tynnwyd y mêr esgyrn. Lleddfir yr anghysur hwn gyda thabledi lladd poen gwan a bydd yn diflannu dros yr wythnos ganlynol gan amlaf. Mae'n cymryd tuag wythnos i'r corff i ail gyflenwi'r mêr ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn dychwelyd i'r gwaith ar ôl wythnos.

Fel gyda phob anesthetig cyffredinol mae risg fach, ond risg bendant serch hynny, ond rhoddir archwiliad meddygol trwyadl cyn y broses i sicrhau bod y rhoddwr yn ddigon iach i barhau â'r weithdrefn.

Rhoi Bôn-gelloedd Gwaed Amgantol - Gellir gwneud hyn yn lle rhoi mêr esgyrn. Rhoddir ffactor tyfu o’r enw Granulocyte Colony Stimulating Factor (G-CSF) i’r rhoddwr. Mae’r cyffur hwn yn debyg i hormon sy’n cael ei gynhyrchu’n naturiol yn y corff. Mae meddyg neu nyrs yn rhoi pigiad o’r cyffur hwn am gyfnod o 4 neu 5 diwrnod cyn cymryd y bôn-gelloedd . Mae’r cyffur yn ysgogi’r mêr esgyrn i gynhyrchu mwy o fôn-gelloedd a’u gollwng i lif y gwaed.

Cesglir y bôn-gelloedd o’r gwaed mewn gweithred o’r enw afferesis. Yr un system a ddefnyddir yma ag a defnyddir yn y broses platenfferesis. Cesglir bôn-gelloedd y gwaed gan ddefnyddio dull tebyg. Mae’r peiriant yn gwahanu bôn-gelloedd y gwaed oddi wrth weddill gwaed y rhoddwr. Caiff y bôn-gelloedd eu casglu mewn bag ac mae gweddill y gwaed yn dychwelyd i’r rhoddwr. Mae’r weithred hon yn digwydd gan amlaf yn ein Clinig yn Llantrisant ac mae’n gallu cymryd hyd at bum awr.