Gwasanaeth Gwaed Cymru - Rhoi Platenau / Mêr Esgyrn

Gwasanaeth Gwaed Cymru - Rhowch waed arbedwch fywyd...

Syth i'r cynnwys

Llam Mordwyaeth

1 - Hafan, 4 - Chwiliad, 0 - Gosodiad Hygyrchedd

Options

Chwilio

Chwiliwch:
Dewiswch y map am fanylion sesiynau lleol sydd ar ddod.
Map of Wales

Newyddion

Gwybodaeth Bwysig I Roddwyr Gwaed - Diddymu'r Terfyn Oedran Uchaf

O'r 5ed o Ionawr 2009 caiff rhoddwyr gwaed cyflawn barhau i roi gwaed ar ôl eu pen-blwydd yn 70 mlwydd oed.

Cofrestru Arlein

Ffoniwch 0800 252266 rhwng 9am a 9pm Ddydd Llun i Ddydd Iau neu 9am i 5pm Ddydd Gwener, neu gofrestrwch ar-lein.

Prif Gynnwys:

Rhoi Platenau / Mêr Esgyrn

Rhoi drwy Platenfferesis

Mae Platennau'n un o gyfansoddion gwaed. Maent yn atal gwaedu. Cesglir Platennau o waed cyfan gan beiriant o'r enw Wahanydd Celloedd Gwaed, sy'n gwahanu cyfansoddion gwaed rhoddwr ac yn casglu platennau gyda pheth plasma. Mae'r celloedd Coch, y celloedd Gwyn a'r rhan fwyaf o'r plasma'n cael eu dychwelyd i'r rhoddwr yn ystod y sesiwn rhoi. Dyma Platenfferesis.

Ewch i'r dudalen Platenfferesis am ragor o wybodaeth ar sut i roi.

Ymuno â'r Panel Mêr Esgyrn Cymru

Mae gan Gofrestrfa Mêr Esgyrn Cymru banel o roddwyr gwaed sydd wedi gwirfoddoli i roi sampl o gelloedd gwyn eu gwaed er mwyn pennu eu teipfeinwe. Archwilir y panel yn ddyddiol i geisio dod o hyd i roddwyr sydd â teipfeinwe sy'n cydweddu'n agos â'r cleifion y mae angen trawsblaniadau mêr esgyrn neu fôn-gelloedd gwaed perifferol arnynt er mwyn achub eu bywydau.

Ewch i dudalen Ymuno â'r Panel Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru am ragor o wybodaeth ar sut i roi.