FFLIW MOCH - GWYBODAETH I RODDWYR GWAED

Gwasanaeth Gwaed Cymru - Rhowch waed arbedwch fywyd...

Syth i'r cynnwys

Llam Mordwyaeth

1 - Hafan, 4 - Chwiliad, 0 - Gosodiad Hygyrchedd

Options

Chwilio

Chwiliwch:
Dewiswch y map am fanylion sesiynau lleol sydd ar ddod.
Map of Wales

Newyddion

Aciwbigiad a Therapi Cyflenwol

Ar 8fed Chwefror 2010, byddwn yn newid ein canllawiau ar dderbyn rhoddwyr gwaed a phlatennau sy'n cael aciwbigiad neu therapi cyflenwol lle y defnyddir nodwyddau.

Cofrestru Arlein

Ffoniwch 0800 252266 rhwng 9am a 9pm Ddydd Llun i Ddydd Iau neu 9am i 5pm Ddydd Gwener, neu gofrestrwch ar-lein.

Prif Gynnwys:

FFLIW MOCH - GWYBODAETH I RODDWYR GWAED

Mae angen i ni gasglu gwaed o hyd yn ystod yr achos hwn o Ffliw Moch. Gofynnwn felly i bob rhoddwr gwaed barhau i roi gwaed fel arfer.

Fodd bynnag, os ydych yn teimlo'n sâl â symptomau sy'n debyg i symptomau'r ffliw, yna ni ddylech roi gwaed. Arhoswch gartref a ffoniwch Galw Iechyd Cymru neu eich meddyg teulu i gael cyngor pellach.

Os ydych yn teimlo'n iach ac yn bodloni'n rheolau dethol rhoddwyr gwaed arferol gallwch roi gwaed o hyd.

Cofiwch fod angen gwaed ar gleifion o hyd ar gyfer triniaethau hanfodol bob dydd, felly mae'n bwysig iawn bod rhoddwyr gwaed yn parhau i roi gwaed drwy gydol y cyfnod hwn.

Fel arfer, os ydych wedi rhoi gwaed ac wedi mynd yn sâl yn y pythefnos ar ôl hynny ffoniwch ein llinell gymorth cyn gynted â phosibl ar 0800 252 266.

Diolch am eich cefnogaeth

I gael gwybodaeth gyffredinol am Ffliw Moch ewch i wefan Galw Iechyd Cymru yn www.nhsdirect.wales.nhs.uk/small/cy neu ffoniwch hwy ar 0845 46 47.

Mae'r Llinell Wybodaeth Genedlaethol am Ffliw Moch – 0800 1 513 513 – yn darparu gwybodaeth wedi'i recordio.

Mae Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru hefyd yn darparu gwybodaeth ar ei wefan www.nphs.wales.nhs.uk.