Gwasanaeth Gwaed Cymru - Beth Sy'n Digwydd Wrth Roi Gwaed?

Gwasanaeth Gwaed Cymru - Rhowch waed arbedwch fywyd...

Syth i'r cynnwys

Llam Mordwyaeth

1 - Hafan, 4 - Chwiliad, 0 - Gosodiad Hygyrchedd

Options

Chwilio

Chwiliwch:
Dewiswch y map am fanylion sesiynau lleol sydd ar ddod.
Map of Wales

Newyddion

Fy Ail Gartref

A allech ddychmygu cael diagnosis o gyflwr anwelladwy a gorfod dibynnu'n llwyr ar drallwysiadau gwaed i gadw'n fyw?

Cofrestru Arlein

Ffoniwch 0800 252266 rhwng 9am a 9pm Ddydd Llun i Ddydd Iau neu 9am i 5pm Ddydd Gwener, neu gofrestrwch ar-lein.

Prif Gynnwys:

Beth Sy'n Digwydd Wrth Roi Gwaed?

Bob tro ewch chi i sesiwn rhoi gwaed gofynnwyd i chi ddarllen taflen 'Diogelwch Gwaed', ac i gwblhau holiadur iechyd. Bydd y derbynnydd yn gofyn cwestiynau penodol ynglyn â'ch iechyd i sicrhau eich bod chi'n digon iach i roi gwaed, ac i sicrhau bod eich gwaed yn ddiogel i roi i gleifion .

Rydym yn gofyn i chi lofnodi i ddangos eich bod chi'n deall goblygiadau rhoi gwaed, ac i roi caniatâd i ni brofi'ch gwaed, ac i'w ddefnyddio er lles cleifion. Os nad ydym yn gallu derbyn rhodd gennych, cewch wybod y rheswm pam.

Byddwn yn cymryd diferyn bach o waed o flaen eich bys i sicrhau nad ydych chi`n anemaidd (prin o haearn). Os ydyw'n dangos eich bod chi'n anemaidd, ni fyddwch yn gallu rhoi gwaed y tro hwn. Byddwn yn gofyn am ragor o waed o'ch braich i brofi'n bellach. Cewch wybod ymhen ychydig wythnosau beth yw'r canlyniadau, a beth i'w wneud nesaf

O ddydd Llun 11eg Chwefror 2008 byddwn yn cyflwyno gwelliant i'n gweithdrefnau ar gyfer casglu eich gwaed. Rydym oll yn cario bacteria ar ein croen ac er nad yw'r bacteria hyn yn niweidiol i ni o gwbl, gallent fod yn angheuol pe byddent yn cael eu trosglwyddo i glaf sāl iawn. Oherwydd hyn, defnyddiwn eitemau unigol i lanhau eich braich cyn dechrau tynnu eich gwaed ac i orchuddio'r man lle cafodd y gwaed ei dynnu. Y newid yr ydym yn ei wneud yw rhoi'r holl eitemau unigol hyn gyda'i gilydd mewn un pecyn di-haint i'w ddefnyddio unwaith yn unig a gaiff ei roi i chi pan fyddwch wedi cael eich prawf haemoglobin. Drwy wneud hyn, byddwn yn cryfhau'r gweithdrefnau trylwyr sydd ar waith gennym er mwyn sicrhau y caiff eich gwaed ei gasglu yn ddiogel a'i fod hefyd yn ddiogel i'r derbynnydd. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y mater hwn gofynnwch am gael siarad gyda Rheolwr y Tīm yn y clinig rhoi gwaed neu ffoniwch 01443 622132.

Bydd aelod o staff yn eich tywys at wely, gwneud yn siwr eich bod yn gyfforddus ac yn gwirio'ch manylion personol. I'w wneud yn haws i weld y gwythïen, bydd cyffsen bwysau'n cael ei roi o gwmpas eich braich, a bydd yr ardal yn cael ei lanhau gyda hylif antiseptig. Mae'r nodwydd yn glwm wrth fag gwaed, ac mae'ch gwaed yn llifo i hwn drwy'r nodwydd. Gofynnir i chi agor a chau eich dwrn i sicrhau bod y gwaed yn llifo'n esmwyth ac yn gyson. Bydd cynorthwy-ydd casglu yn gofalu amdanoch chi, ac yn sicrhau bod popeth yn iawn

Os yw llif y gwaed yn araf am unrhyw reswm, efallai y byddwn yn rhoi terfyn ar gasglu'r gwaed. Ar ddiwedd y sesiwn bydd y nodwydd yn cael ei chymryd o'ch braich yn ofalus, a bydd gorchudd yn cael ei roi ar eich braich. Gofynnir i chi wasgu'r gorchudd, a cadw eich braich yn syth - mae hwn yn helpu rhag cael clais.

Ar ôl i chi roi gwaed, dylech chi orffwys am ychydig, a chymryd diod a bisgedi i sicrhau eich bod chi'n holliach.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.

Mae taflen fanwl 'Beth sy'n digwydd wrth roi gwaed' ar gael ymhob sesiwn, neu drwy gysylltu gyda'r

Adran Wasanaeth Rhoddwyr Gwaed,Heol Cwm Elai,Tonysguboriau,Pontyclun,CF72 9WB

I drafod problemau sy'n codi o ganlyniad i roi gwaed, ffoniwch 0800 252266 rhwng 9am a 9pm Ddydd Llun i Ddydd Iau, neu 9am i 5pm Ddydd Gwener. Y tu allan i'r oriau hyn, ffoniwch (01443) 622000.