Gallwch wirfoddoli i roi gwaed os ydych rhwng 17 a 66 mlwydd oed. Oedran ymddeol yw 70. Dylech fod yn iach ac yn pwyso o leiaf 50Kg (7stôn 12 pwys).
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn iawn i roi gwaed ond rydym yn gwirio bob tro nad oes unrhyw reswm na ddylem gymryd gwaed gennych. Y rheswm am hyn yw bod yn rhaid i ni gymryd gofal da ohonoch pan fyddwch yn rhoi gwaed a sicrhau na chaiff haint ei drosglwyddo i unrhyw glaf a all dderbyn eich gwaed.
Efallai na fyddwch yn gymwys i roi gwaed:
- Os ydych yn feichiog neu wedi bod yn feichiog yn ddiweddar. Arhoswch un wythnos ar gyfer pob wythnos gyfan o'ch beichiogrwydd cyn cynnig rhoi gwaed eto.
- Os ydych yn dioddef neu wedi dioddef o salwch, megis canser, clefyd y galon, strôc, colitis briwiol, clefyd Crohn neu glefyd siwgr sy'n cael ei drin gan dabledi neu inswlin.
- Os ydych yn cymryd meddyginiaeth benodol neu os ydych ar restr aros ysbyty neu yn y broses o gael profion meddygol neu wedi cael llawdriniaeth neu brofion meddygol yn ystod y 6 mis diwethaf - trafodwch hyn gyda ni yn gyntaf.
- Os oes gennych swydd megis gyrru Cerbyd Nwyddau Trwm (dros 7,500 kgs), Cerbydau Cyhoeddus neu gerbydau i'r gwasanaethau brys, ni ddylech gynnig rhoi gwaed cyn mynd i weithio neu tra'n gweithio.
- Yn y 6 mis diwethaf a ydych wedi cael unrhyw lawdriniaeth neu archwiliad gan ddefnyddio endosgop hyblyg (llygad hud)?
Ni ddylech roi gwaed os gallai drosglwyddo haint i unrhyw un a all ei dderbyn, megis:
- Os ydych erioed wedi chwistrellu cyffuriau anghyfreithlon neu gyffuriau na rhagnodwyd, yn cynnwys cyffuriau magu cyhyrau, hyd yn oed os oedd hynny amser maith yn ôl neu ddim ond unwaith.
- Os yw eich ffordd chi o fyw yn eich rhoi mewn perygl o heintiad HIV, hepatitis B neu C, neu os ydych yn HIV positif neu'n cludo firws Hepatitis B neu C. Pam ein bod yn gofyn i ddynion sy'n cael rhyw â dynion eraill beidio â rhoi Cliciwch yma am mwy o wybodaeth.
- Os ydych wedi cael unrhyw fath o dyllau yn eich corff yn ystod yn 12 mis diwethaf, yn cynnwys eich clustiau a'ch wyneb, new datw neu driniaeth gosmetig a oedd yn cynnwys tyllu'r croen.
- Os ydych wedi cael trallwysiad ers 1af Ionawr 1980, neu wedi cael trawsblaniad meinwe neu organ ac wedi gorfod cymryd cyffuriau i atal eich system imiwnedd.
West Nile Virus - Hysbysiad pwysig i roddwyr gwaed - A fyddech cystal â nodi os byddwch yn ymweld ag unrhyw ran o Ganada neu'r UDA rhwng 1 Mai a 30 Rhagfyr bydd canllawiau ychwanegol a fydd yn berthnasol i chi. Ni fyddwch yn gallu rhoi gwaed am o leiaf bedair wythnos o'r amser y byddwch yn dychwelyd ac o bosibl ddim am chwe mis. Cliciwch yma am mwy o wybodaeth.
Malaria - Mae rheolau arbennig i ymwelwyr sy'n mynd i ardaloedd lle ceir malaria ac i bobl sydd wedi cael malaria neu bobl sydd wedi byw mewn ardal o'r fath am gyfnod parhaus o chwe mis neu fwy ar unrhyw adeg yn eu bywyd. Gweler Cwestiynau a Cyffredin (FAQ) am. Cliciwch yma am mwy o wybodaeth.
Am fwy o wybodaeth am bwy all roi gwaed ewch i Cwestiynau Cyffredin
Os byddwch yn bodloni ein meini prawf cwblhewch ein Ffurflen Gofrestru Ar-lein
Os hoffech wneud Ymholiad Meddygol cwblhewch ein Ffurflen Ymholiad Meddygol
Os ydych yn dymuno gwirio eich cymhwyster gyda ni cyn i chi gofrestru neu cyn i chi fynychu sesiwn rhoi gwaed yna ffoniwch ni ar 0800 252266. Mae'r llinellau ar agor rhwng 9am a 9pm o Ddydd Llun i Ddydd Iau a rhwng 9am to 5pm ar Ddydd Gwener.
Mae gwybodaeth gynhwysfawr ychwanegol yn 'UK Blood Transfusion Services Donor Selection Guidelines (this link will open in a new browser)