Nawr, mae’r cwpl priod Carl a Martin o Newbridge yn gymwys i roi gwaed, yn dilyn y newid hwn.
Meddai Carl, sy’n Reolwr Ansawdd: “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi gallu gwneud apwyntiad i roi gwaed o dan y newidiadau hyn. Rwy’n ddiolchgar am ymdrechion ymgyrchwyr, academyddion a chlinigwyr sydd wedi gwneud i hyn ddigwydd. Nid yw ond yn deg yn y gymdeithas heddiw, y dylai ymddygiadau pawb gael eu trin yr un fath, ac nid yn ôl rhyw eu partner”.
Ychwanegodd y Rheolwr Gwerthiannau, Martin: “Mae heddiw’n ddiwrnod arbennig iawn i Carl a fi. Gyda’n gilydd, gallwn nawr roi rhoddion o waed a allai achub bywydau i helpu cleifion mewn angen. Cafodd fy nhad nifer o drallwysiadau gwaed, a byddaf yn ddiolchgar am byth i’r rhoddwyr hynny am eu cefnogaeth. Cafodd fy nith lawer o drallwysiadau gwaed hefyd yn ystod ei thriniaeth ar gyfer lewcemia. Mae hi wedi gwella erbyn hyn diolch byth, ac rwy’n falch iawn o fedru helpu rhywun fel hi gobeithio, i wella ar ôl salwch mor ddifrifol.”
Mae Shane Andrews MBE, wedi gwneud apwyntiad i roi gwaed am y tro cyntaf hefyd, ar 14 Mehefin.
Meddai Shane: “Fel Cadeirydd Archway (rhwydwaith gweithwyr LHDT+ Network Rail), rwyf wedi bod yn ymwneud yn helaeth â gwella amrywiaeth a chynwysoldeb yn y diwydiant rheilffordd, ac rwy’n falch iawn fy mod i nawr yn rhan o’r newidiadau hyn a gyflwynwyd heddiw.
“Heddiw yw fy rhodd gyntaf ond yn bendant, nid yr olaf. Rwy’n bwriadu rhoi gwaed yn rheolaidd nawr, ac rwy’n teimlo anrhydedd o fod yn dechrau ar fy nhaith achub bywydau ar Ddiwrnod Rhoddwyr Gwaed y Byd ond hefyd, yn ystod mis Pride.”
Heddiw, fe roddodd y Prif Weinidog waed am yr hanner canfed tro, a gwnaeth hynny ochr yn ochr â rhoddwyr gwaed a oedd yn gymwys am y tro cyntaf.