Dywedodd Ioan, 27 oed, sy'n wreiddiol o Gwmtwrch yng Nghwm Tawe: "Mae’n hawdd ymuno, ac rydw i mor falch fy mod i wedi gwneud hynny. Dwi wedi newid bywyd rhywun oherwydd hynny. Yr unig beth sy’n rhaid i chi ei wneud yw dod o hyd i glinig rhoi gwaed yn eich ardal, a rhoi gwybod iddynt eich bod chi eisiau ymuno â'r gofrestr mêr esgyrn. Dwi wedi bod ar y gofrestr ers i mi allu ymuno gyntaf yn 17 oed; flynyddoedd yn ddiweddarach, cefais fy mharu â'r bachgen bach hwn o'r diwedd.
"Mae 'na gamsyniad bod rhoi mêr esgyrn yn boenus iawn a bod nodwyddau enfawr yn cael eu defnyddio, ond roedd yn broses eithaf syml. Ar ôl y llawdriniaeth, fe wnes i ddeffro a gofyn os oeddwn i wedi cael y llawdriniaeth, am nad oeddwn i'n gallu teimlo unrhyw boen.
"Mae pawb wedi bod yn gefnogol iawn drwy gydol y broses - fy mhartner, fy ngwaith, ac aelodau eraill o’r tîm. Dwi’n chwarae i Glwb Rygbi Cymry Caerdydd, clwb rygbi Cymraeg yng Nghaerdydd, a dwi’n helpu i reoli tîm rygbi Merched y Gweilch. Ar ôl y rhodd, cymerais ychydig o amser i ffwrdd o chwarae, ond fe wnes i barhau i fynd i'r gemau i gefnogi'r timau!
"Dwi'n dal i feddwl am y bachgen ifanc, ei deulu a phopeth maen nhw wedi mynd trwyddo. Hoffwn eu cyfarfod nhw un diwrnod."
Cafodd yr athro Addysg Gorfforol Craig Simms, 26 oed, ei ysbrydoli i ymuno â'r gofrestr ar ôl i aelod o’i dîm yng Nghlwb Rygbi Tonyrefail dderbyn rhodd mêr esgyrn ac ar ôl gwella’n llwyr, mae'n dal i chwarae rygbi gydag ef heddiw.
"Mae llawer o fy ffrindiau a fy nheulu yn gweithio yn y GIG, felly roedden nhw'n arbennig o falch ohona i, gan eu bod nhw’n gweld pobl mewn angen bob dydd. Fe wnes i weld pa mor gyflym y gwnaeth fy ffrind wella ar ôl cael trawsblaniad mêr esgyrn, ac fe wnaeth hyn fy ysbrydoli i roi mêr esgyrn.
"Dwi’n teimlo'n lwcus dros ben fy mod i wedi cael fy newis, ac wedi cael y cyfle i ddod yn achubwr bywyd."