Mae canran yr holl roddwyr o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig wedi aros yn sefydlog ar 13 y cant yn 2019/20, ac yn tynnu sylw at y pwysigrwydd o godi ymwybyddiaeth o’u potensial i achub bywydau ymhlith y grŵp hwn. Mae gan gleifion o gefndiroedd Du, Asiaidd neu leiafrifol eraill siawns o 20 y cant o ddod o hyd i roddwr y mae eu bôn-gelloedd yn cydweddu orau â nhw sydd ddim yn perthyn iddynt, o’i gymharu â 69 y cant ar gyfer pobl sydd yn dod o ogledd Ewrop.
Meddai Christopher Harvey, Pennaeth Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru:
“Mae’n galonogol dros ben gwybod bod dwy filiwn o bobl yn y DU yn barod i roi bôn-gelloedd os ydynt yn cydweddu â rhywun sydd o bosib ei angen i achub eu bywydau.
“Yn ein rolau, rydym yn gweld y gwahaniaeth mae bôn-gelloedd yn ei wneud. I lawer o gleifion; derbyn bôn-gelloedd ydy’r opsiwn triniaeth terfynol.
“Er gwaethaf y newyddion gwych hwn, mae gennym fwy i’w wneud o hyd. Yn anffodus, mae rhai cleifion o hyd sydd ddim yn gallu dod o hyd i rywun sy’n cydweddu â nhw. Dyna pam rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bob claf y cyfle gorau posibl i ddod o hyd i’r un rhoddwr achub bywyd hwnnw.”
Meddai Guy Parkes, Pennaeth Rhoi Bôn-gelloedd a Thrawsblannu yng Ngwaed a Thrawsblaniadau’r GIG
“Rydym eisiau i bob claf sydd angen trawsblaniad allu dod o hyd i rywun sy’n cydweddu â nhw, a allai achub eu bywyd. Bob tro y bydd rhywun yn ymuno â’r gofrestr hon, mae’n dod â gobaith newydd i gleifion.
“Mae’r gofrestr hon yn cael ei defnyddio gan ysbytai ar draws y DU i ddod o hyd i bobl addas sy’n cydweddu â chleifion, ac mae’r gofrestr wedi helpu i achub a gwella bywydau miloedd o bobl ers iddi gael ei chreu 33 mlynedd yn ôl – mae’n rhyfeddol bod gennym dros 2 filiwn o bobl ar y gofrestr erbyn hyn, sy’n gosod y siawns o baru rhoddwyr â chleifion ar ei lefel uchaf erioed.
“Mae rhoi bôn-gelloedd yn rhywbeth anhunanol i’w wneud, sy’n gallu achub bywydau. Mae’n rhywbeth anhygoel i’w wneud. Byddwn yn parhau i ehangu cofrestr y DU i helpu cleifion mewn angen. Mae angen i fwy o ddynion ymuno â’r gofrestr.”
Meddai Jonathan Pearce, Prif Swyddog Gweithredol DKMS UK:
“Rydym yn falch iawn o fod wedi cyrraedd carreg filltir mor anhygoel, ac rydym yn ddiolchgar i’r ddwy filiwn o bobl hynny sydd wedi cofrestru, ac sy’n aros i helpu i roi ail gyfle mewn bywyd i rywun sy’n byw gyda chanser y gwaed neu anhwylder gwaed.
“Ar unrhyw un adeg, mae angen trawsblaniad bôn-gelloedd gwaed ar tua 2,000 o bobl yn y DU, felly er ein bod ni’n cydnabod y cyflawniad hwn, does dim rhaid dweud bod angen i ni barhau i annog pawb sy’n gallu cofrestru i wneud hynny. Bydd hyn yn helpu i gynyddu’r niferoedd ac amrywio’r gofrestr ymhellach, er mwyn gwella’r siawns i’r rheiny sydd â llai o siawns o ddod o hyd i roddwr sy’n cydweddu ar hyn o bryd.”