Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Rhod Gilbert yn annog pobl ifanc 17-30 oed i helpu cleifion â chanser y gwaed ar Ddiwrnod Canser y Byd

Mae trysor, digrifwr, cyflwynydd teledu a Noddwr balch Felindre, Rhod Gilbert, yn galw ar bobl ifanc 17-30 oed i helpu cleifion â chanser y gwaed drwy gefnogi ymgyrch 'Achubwr Bywyd Cŵl' Gwasanaeth Gwaed Cymru i recriwtio 4,000 o roddwyr gwirfoddol i gofrestru ar gyfer Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru dros y flwyddyn nesaf.

Mae'r ymgyrch 'Achubwr Bywyd Cŵl' yn gobeithio recriwtio 4,000 o wirfoddolwyr newydd i ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru eleni. Mae'r ymgyrch yn tynnu sylw at ba mor syml yw hi i ymuno â'r Gofrestr a rhoi mêr esgyrn, os ydych chi’n cael eich galw.

Allwch chi gefnogi ein brwydr yn erbyn canser y gwaed?

Darllen mwy

Ar hyn o bryd, mae Rhod yn gwella o ganser y pen a'r gwddf, ar ôl derbyn triniaeth radiotherapi a chemotherapi yng Nghanolfan Ganser Felindre.

Wrth siarad am yr ymgyrch, dywedodd y dyn 54 oed o Gaerfyrddin, "Mae Felindre wedi bod yn rhan fawr o fy mywyd; Rwyf wedi bod yn noddwr am y 10 mlynedd diwethaf, felly dychmygwch fy syndod pan gefais ddiagnosis o ganser fy hun! Roeddwn i'n meddwl y byddai bod yn rhan o’r gwaith o godi arian i Felindre wedi rhoi imiwnedd gydol oes i mi!" meddai.

"Y gwir amdani yw y bydd un o bob dau ohonom yn cael canser ar ryw adeg yn ystod ein hoes, felly buaswn yn annog pawb i wneud beth bynnag y gallwn, pryd bynnag y gallwn, i helpu. Mae ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru yn rhoi cyfle i rywun, rhywle yn y byd sydd â chanser y gwaed, i wella'n llawn a threulio mwy o amser gwerthfawr gyda'u ffrindiau a'u hanwyliaid."

Buaswn yn annog pawb i edrych ar wefan Gwasanaeth Gwaed Cymru i ddarganfod mwy ac i gefnogi'r achos gwerth chweil hwn.

Rhod Gilbert

Bob blwyddyn, mae dros 50,000 o gleifion ar draws y byd yn gobeithio dod o hyd i rywun addas y mae eu mêr esgyrn yn cydweddu â nhw gan roddwr sydd ddim yn perthyn. Mae clinigwyr yn chwilio drwy gofrestri rhoddwyr mêr esgyrn ar draws y byd bob dydd am roddwyr addas sy’n cydweddu ar gyfer eu cleifion sy’n dioddef o ganser y gwaed.

Ar hyn o bryd, ni fydd tri o bob deg claf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn yn dod o hyd i roddwr addas, ac os yw'r claf yn dod o gefndir du, Asiaidd neu o ethnigrwydd cymysg, mae dod o hyd i roddwr sy’n cydweddu yn gallu bod mor isel â 30 y cant.

Meddai Christopher Harvey, Pennaeth Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru: "Dim ond un o bob pedwar claf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn fydd yn dod o hyd i roddwr addas o fewn eu teulu, a dyna pam rydym yn dibynnu ar haelioni ac ymroddiad rhoddwyr gwirfoddol sydd ddim yn perthyn."

 

For patients all over the world in need of a transplant, finding a matched donor on the Registry is priceless. Unfortunately, not everyone is lucky in this search which is why we need more volunteers aged 17 to 30.

Christopher Harvey - Pennaeth Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru

"Os gwelwch yn dda, ystyriwch gofrestru i’r Gofrestr ar Ddiwrnod Canser y Byd eleni os allwch chi - nid yw erioed wedi bod mor hawdd. Gallwch ofyn am becyn swab heb adael eich cartref drwy fynd i wefan Gwasanaeth Gwaed Cymru, neu gallwch drefnu apwyntiad i roi gwaed a holi am ymuno pan fyddwch chi’n rhoi gwaed."

"Gall unrhyw un gymryd rhan yn yr ymgyrch, a dyna pam mae cael cefnogaeth pobl fel Rhod mor bwysig. Gallwch gefnogi'r Gofrestr drwy rannu ein straeon neu ein cynnwys cyfryngau cymdeithasol, neu drwy annog pobl ifanc 17-30 oed i ymuno â'n cymuned anhygoel o roddwyr gwirfoddol."

Os ydych chi rhwng 17 a 30 oed, ddechrau ar eich taith yn y frwydr yn erbyn canser y gwaed.