Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney, yn ymuno â'n cymuned o achubwyr bywyd

Prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC), Noel Mooney, oedd y cefnogwr pêl-droed diweddaraf i ymuno â byddin o achubwyr bywyd lleol, ar ôl rhoi gwaed am y tro cyntaf yng Nghymru.

Roedd rhodd Noel yn un o bron i 1,000 a gafodd ei gwneud drwy'r ymgyrch 'Gwaed, Chwys ac Iechyd Da’, a lansiwyd yn wreiddiol yn 2020.

Yr ymgyrch oedd partneriaeth gymunedol gyntaf erioed Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a gynlluniwyd i annog cefnogwyr pêl-droed o Gynghreiriau JD Cymru a Chynghreiriau Adran Genero i gefnogi eu cymunedau lleol drwy roi gwaed.

Mae'r ymgyrch eisoes wedi achub bron i 3,000 o fywydau ar draws Cymru, ac mae'n parhau i dyfu yn sgil cyflwyno’r 64 tîm ar draws Cynghreiriau'r Ardal, ac ail dymor cwpan cynghrair GGC.

Mae angen i Wasanaeth Gwaed Cymru gasglu hyd at 100,000 o roddion gwaed bob blwyddyn, ac mae'r ymgyrch wedi cefnogi'r nod o gofrestru rhoddwyr gwaed newydd ar draws y wlad. Gyda thua 1,400 o sesiynau rhoi gwaed mewn dros 200 o leoliadau ar draws Cymru, mae digon o gyfleoedd i gefnogwyr ddod o hyd i'w sesiwn rhoi gwaed agosaf. Gall cefnogwyr rhwng 17 a 30 oed ystyried ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru hefyd, i helpu cleifion yn eu brwydr yn erbyn canser y gwaed.

Wrth fyfyrio ar y bartneriaeth, dywedodd Noel, "Rwy'n falch iawn o weld bod yr ymgyrch yn parhau i fynd o nerth i nerth."

"Roeddwn i'n hapus i roi gwaed, ac ymuno â'n cefnogwyr a'n clybiau ar draws Cynghreiriau JD Cymru a Chynghreiriau Adran Genero sy'n dod at ei gilydd i wneud gwahaniaeth i gleifion mewn angen ar draws Cymru."

Noel Mooney - Prif Gweithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Mae'r broses o roi gwaed yn cymryd llai nag awr, o’r dechrau i’r diwedd, gyda'r broses o roi gwaed ei hun ond yn para pump i ddeg munud ond i rywun mewn angen, gall yr un rhodd honno bara am oes, gan nad oes dim byd arall yn gallu cymryd lle gwaed.

Ar ôl rhoi gwaed, aeth Noel ar daith o amgylch ein cyfleuster yn Nhonysguboriau, a siaradodd â Chyfarwyddwr GGC, Alan, a estynnodd ddiolch i Noel ac i bawb sydd wedi bod yn rhan o wneud yr ymgyrch yn llwyddiant ysgubol.

Cyn ymuno â Chymdeithas Bêl-droed Cymru ym mis Awst 2021, treuliodd cyn-golwr Cynghrair Iwerddon, Mooney, y deng mlynedd diwethaf gydag UEFA, yn fwyaf diweddar fel Pennaeth Datblygu Strategol, ar ôl gweithio mewn dwy rôl farchnata yn flaenorol ar ôl ymuno â Chymdeithas Bêl-droed Iwerddon.