Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Mae rhieni bachgen pum mis oed a dderbyniodd drallwysiadau achub a achubodd ei fywyd, yn annog mwy o bobl i roi gwaed

Mae rhieni babi pum mis oed a dderbyniodd drallwysiadau gwaed a phlatennau yn ddiweddar a achubodd ei fywyd, yn galw ar fwy o bobl i ddod yn rhoddwyr gwaed, platennau a mêr esgyrn gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru, i helpu mwy o gleifion mewn angen.

Pan roedd bron yn dri mis oed, roedd angen dau drallwysiad gwaed ar Noah pan ostyngodd ei gyfrif gwaed, a pharhaodd i dderbyn sawl rhodd platennau tra bod ei gyflwr yn cael diagnosis.

Sylwodd Chris Gibbins a'i bartner, Leah Peachey o Bontypridd, bod Noah'n sâl am y tro cyntaf pan oedd bron yn dri mis oed, ac fe wnaethant ei ruthro'n syth i’r Uned Damweiniau ac Achosion Brys, gan amau ei fod yn dioddef llid yr ymennydd.

Ychydig ddyddiau'n ddiweddarach, cafodd Noah ei gyfeirio i Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru yng Nghaerdydd, lle cafodd ei ddiagnosio gyda dau anhwylder gwaed, sef y cyflwr awto-imiwn neutropenia a’r cyflwr ITP (Immune Thrombocytopenic Purpura).

 

Dewch o hyd i'ch sesiwn rhoi gwaed agosaf.

Gwnewch apwyntiad heddiw

Wrth restru triniaethau Noah hyd yn hyn, meddai Chris, "Yn 5 mis oed, mae Noah bellach wedi cael dau drallwysiad gwaed, o leiaf saith trallwysiad platennau, dau drwythiad imiwnoglobwlin mewnwythiennol, tair sesiwn imiwnotherapi ac mae wedi cael llawdriniaeth i gael llinell Hickman wedi'i gosod ar gyfer cael mynediad i’w wythiennau, yn ogystal â'i bigiad wythnosol ar gyfer ITP."

"Doedd gwaed Noah ddim yn gallu ceulo'n effeithlon, felly roedd mewn perygl o waedu’n fewnol, felly fe wnaeth y rhoddion platennau a dderbyniodd achub ei fywyd."

"Fel teulu, allwn ni ddim diolch digon i bob un rhoddwr ar draws Cymru. Mae'r arwyr hyn wedi rhoi o'u hamser yn anhunanol i gefnogi cleifion mewn angen, ac i'w roi yn syml, does dim cynnyrch arall yn gallu helpu pan fydd rhywun fel fy mhlentyn angen gwaed. Diolch byth, roedd y gwaed yno, yn barod iddo pan oedd ei angen fwyaf."

Chris Gibbins

Diolch i roddwyr gwaed, mae un uned o waed yn cael ei rhoi i ysbytai yng Nghymru bob chwe munud i drin cleifion, ond dim ond tri y cant o'r boblogaeth gymwys yng Nghymru sy'n rhoi gwaed yn weithredol, a dyna pam ei bod hi’n hanfodol bod rhoddwyr newydd yn parhau i ddod ymlaen.

Mae'r rhoddion hyn yn chwarae rhan hanfodol mewn achub bywydau bob dydd, drwy gefnogi amrywiaeth o driniaethau, o helpu i wella dioddefwyr damweiniau a chleifion â chanser y gwaed, i gefnogi mamau a babanod newydd-anedig yn ystod genedigaeth.

Cofrestrwch eich diddordeb mewn dod yn rhoddwr platennau ym Mhont-y-clun

Cofrestrwch heddiw

Dywedodd Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru: "Mae Noah a chleifion tebyg iddo yn dibynnu ar haelioni pobl sy'n byw yng Nghymru i roi rhoddion i gleifion. Gobeithio, drwy rannu ei stori, y bydd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r pwysigrwydd o roi gwaed, a'r canlyniad positif mae'n ei gael i rywun yn eu cyfnod mwyaf anghenus.

"Yn ystod yr adeg hon o'r flwyddyn, pan fydd pobl yn brysur yn mwynhau'r tywydd ac yn cymryd gwyliau haeddiannol, mae nifer y rhoddion yn gostwng o'i gymharu â gweddill y flwyddyn, ond mae'r galw am waed yn parhau. I rai pobl sy'n mynd ar wyliau i rai gwledydd, mae hyn yn golygu hefyd y bydd oedi cyn y gallant fynd yn ôl i roi gwaed, fel yr Eidal, rhannau o Sbaen a Ffrainc, gan fod yn rhaid i roddwyr ohirio rhag rhoi gwaed am o leiaf bedair wythnos. Os ydynt yn mynd i wledydd eraill, gall fod yn hirach, a dyna pam rydyn ni'n annog pobl i roi gwaed cyn iddyn nhw fynd.

"Os nad ydych chi wedi rhoi gwaed o'r blaen, beth am wneud rhywbeth anhygoel yr wythnos hon, a helpu rhywun fel Noah. Gallwch gofrestru i roi gwaed yn un o'r sesiynau yn eich ardal leol a dod yn achubwr bywyd. Os ydych chi'n 17-30 oed, gallwch ystyried cofrestru ar gyfer Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru hefyd."

Alan Prosser - Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gwaed Cymru

"Drwy roi dim ond awr o'ch amser, mae gennych gyfle unigryw i wneud gwahaniaeth i bobl yn eich cymuned a thu hwnt.

I'r rheini sydd ddim yn gallu rhoi gwaed, gallwch barhau i gefnogi Gwasanaeth Gwaed Cymru. Gallwch wneud hyn trwy rannu eu negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol a thrwy annog eich ffrindiau, eich teulu a'ch cydweithwyr i godi ymwybyddiaeth o’r pwysigrwydd o roi gwaed, platennau a mêr esgyrn.