Y Nadolig hwn, mae rhaglen Casualty y BBC - y ddrama feddygol amser allweddol hiraf yn y byd - yn tynnu sylw at roi gwaed, gyda phennod arbennig yn cael ei darlledu ar ddydd Sadwrn 21 Rhagfyr ar iPlayer am 06:00 o'r gloch ac ar BBC 1 am 21:20 o'r gloch.
Mae’r bennod, sydd wedi cael ei hysbrydoli gan yr angen cyson am waed ar draws y GIG, yn canolbwyntio ar effaith achub bywyd rhoddwyr gwaed. Mae disgwyl eiddgar i'r bennod, o'r enw 'All I Want for Christmas', yn dilyn y bennod arbennig ‘How to Save a Life’i ddathlufed 75 mlynedd ers sefydlu'r GIG.
Mae 'All I Want for Christmas' yn cyfuno cyfres o straeon ffuglen â hanesion gwir gan bobl y mae rhoddion gwaed ar draws y DU wedi effeithio ar eu bywydau.
Bu Gwasanaeth Gwaed Cymru yn helpu cynhyrchwyr Casualty gyda'u hymchwil ar gyfer y bennod arbennig.
Cafodd ein pencadlys yn Nhonysguboriau ymweliad hefyd gan dîm cynhyrchu a chriw ffilmio Casualty, gan i un o’n cerbydau rhoddion gwaed symudol gael ei ddewis fel lleoliad ffilmio ar gyfer dilyniant agoriadol y bennod gyda’r actores arweiniol, Elinor Lawless.
Os nad ydych wedi gwneud hynny’n barod, gallwch gael rhagflas o bennod Nadolig Casualty isod.