Roddwr gwaed yn ddiolch ei wraig am gychwyn ei daith achub bywydau, wrth iddo gyrraedd 100 roddion.

Mae dyn o Aberystwyth, sy’n un o’r rhoddwyr gwaed sydd wedi gwasanaethu hiraf yng Nghymru, yn annog trigolion lleol i “wneud gwahaniaeth” ar ôl iddo gael ei gydnabod am gyrraedd y garreg filltir o roi gwaed 100 o weithiau.

Mewn seremoni wedi’i threfnu gan Wasanaeth Gwaed Cymru yn Llanbedr Pont Steffan, yn dathlu ei gyfraniad achub bywyd rhagorol i bobl Cymru, ymunodd dau roddwr arall â Paul Lawlor, sydd wedi cyrraedd y garreg filltir o roi gwaed 100 o weithiau. Roedd yn un o’r 34 o roddwyr a gafodd eu dathlu mewn seremoni wobrwyo wedi’i threfnu gan Wasanaeth Gwaed Cymru.

Yn siarad yn y seremoni wobrwyo, dywedodd Paul, Cynorthwyydd Gofal 54 oed o Aberystwyth:

“Un diwrnod gofynnodd fy ngwraig, Tina – sydd hefyd yn rhoi gwaed – a wnawn ni gymryd ei lle pan oedd hi’n methu rhoi. Wnes i ddim petruso – roedd hynny nôl yn y 1980 au ac rydw i wedi bod yn rhoi yn rheolaidd byth ers hynny.

“Gallai’r weithred syml hon fod wedi achub 300 o fywydau dros y blynyddoedd ac rydw i am achub ar y cyfle hwn i ddiolch yn bersonol i Tina am fy ngosod i ar fy siwrnai i achub bywydau.

“Mae staff Gwasanaeth Gwaed Cymru mor gyfeillgar ac wastad yno i’ch helpu. Os ydych chi’n ystyried dechrau rhoi gwaed, mae yna gyfleoedd ar hyd a lled Cymru i chi ddechrau rhoi.

“Nid yw’n cymryd yn hir, gallwch fod i mewn ac allan mewn llai nag awr, gan wybod y gallech chi fod wedi achub bywyd tri o gleifion. Does dim curo ar y teimlad da rydych chi’n ei gael ar ôl rhoi, o wybod y gallech fod wedi helpu pobl sydd mewn angen.

“Os nad ydych chi eich hun yn gallu rhoi gwaed, mae’n dal yn bosib i chi wneud gwahaniaeth drwy annog eraill i gamu ymlaen a dod yn rhoddwr, fel y gwnaeth fy ngwraig gyda fi.”

Mae trallwysiadau gwaed yn hanfodol i gynorthwyo cleifion mewn angen ar draws y wlad, o sefyllfaoedd brys fel damweiniau difrifol a chymhlethdodau genedigaeth, i gynorthwyo cleifion canser yn ystod triniaeth cemotherapi.

Roedd y nosweithiau’n cydnabod rhoddion gwaed a mêr esgyrn carreg filltir. Gyda’i gilydd, roedd y rheiny oedd yn bresennol wedi rhoi 1,800 rhodd a allai fod wedi achub hyd at 5,400 o fywydau.

Cafodd y rhoddwr mêr esgyrn 21 oed o’r Ferwig, y tu allan i Aberteifi, Awen Davies, sy’n fyfyriwr mewn coleg amaethyddol, ei chydnabod hefyd am ei rhodd mêr esgyrn ar ôl cael ei dewis o gronfa ddata o dros 35 miliwn o roddwyr ledled y byd fel y sawl a oedd yn cydweddu orau â chlaf yr oedd angen trawsblaniad arno.

Wrth gael ei gwobr, dywedodd Awen:

“Mae fy nheulu i wastad wedi rhoi gwaed felly fe ddilynais i’r patrwm hwnnw cyn gynted ag y medrwn i, ychydig ar ôl fy mhen-blwydd yn 17 oed. Ar ôl dod yn rhoddwr cafodd fy nghefnder ei ddiagnosio â thiwmor ar yr ymennydd a gwnaeth hynny fi’n fwy penderfynol byth o wneud rhywbeth i helpu pobl sydd mewn angen. Nid dim ond mewn argyfwng y mae angen rhoddion gwaed; maen nhw’n cael eu defnyddio hefyd i drin canser ac mewn llawdriniaethau.

“Fe ymunais i â’r gofrestr mêr esgyrn pan es i i roi gwaed ac yn fuan wedyn cefais fy mharu â mam 37 oed i ddau o Awstralia. Roedd rhoi’r mêr yn haws nag oeddwn i’n disgwyl ac roedd yn anhygoel meddwl mod i’n helpu rhywun gymaint.

“Ers hynny rydw i wedi cael llythyr gan y fam yn dweud i’r trawsblaniad fod yn llwyddiant ac yn diolch i fi am roi’r cyfle iddi i weld ei phlant yn tyfu i fyny. Roedd yn emosiynol iawn, ac roeddwn i mor falch.

“Alla i ddim dweud wrthych mor anhygoel o deimlad yw gwybod eich bod chi wedi rhoi’r cyfle i rywun dreulio mwy o amser gyda’i blant.”

“Rwy’n gobeithio bod hyn yn annog mwy o bobl rhwng 17-30 oed i roi gwaed, ac i ofyn am gael ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru.  Gallech fod yr unig berson yn y byd sy’n gallu helpu rhywun mewn angen.”

Mae angen i Wasanaeth Gwaed Cymru gasglu 350 o roddion gwaed bob dydd er mwyn cyflenwi gwaed i ysbytai i gleifion sy’n byw ledled Cymru sydd mewn angen. Mae’r gwasanaeth yn dibynnu’n llwyr ar haelioni rhoddwyr sy’n dod ymlaen i newid bywydau.

Nawr, mae gwneud apwyntiad yn hawsach nag erioed.  I ddechrau ar eich taith achub bywyd, ewch i cliciwch yma.