Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Accessibility statement

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:  www.gwaed-cymru.org.uk/

Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Wasanaeth Gwaed Cymru. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:

  • chwyddo hyd at 200% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver).

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall. Mae gan AbilityNet  gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Adborth a chysylltu

Os ydych angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille, yn y lle cyntaf, cysylltwch â wbs.communications@wales.nhs.uk a byddwn yn trosglwyddo eich cais i'r tîm perthnasol. Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysyllt â chi mewn 10 diwrnod.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon, neu’n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â’r tîm Cyfathrebu wbs.communications@wales.nhs.uk

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cydraddoldeb, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid testun i bobl sy'n fyddar, â nam ar eu clyw neu sydd â nam ar eu lleferydd trwy RelayUK www.relayuk.bt.comOs oes angen i chi gysylltu ag un o'n swyddfeydd gan ddefnyddio'r gwasanaeth cyfnewid testun hwn, deialwch 18001 cyn y rhif ffôn yr ydych am gysylltu ag ef.

Mae gan rai o'n hysbytai / swyddfeydd ddolenni sefydlu sain, ac os byddwch chi'n cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Os nad yw'ch ymweliad wedi’i drefnu ymlaen llaw, gallwn drefnu Dehonglydd BSL ar-lein.

Cysylltwch â’r Tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a

Chynhwysiant ar: Rhif ffôn: 18001 (os yn defnyddio Relay UK) ac yna 01554 899055

E-bost: Inclusion.hdd@wales.nhs.uk

Yn y post: Tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Partneriaethau Strategol, Bloc 6, Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli SA14 8QF

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon 2.2 AA o Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys ar y We, oherwydd y diffyg cydymffurfio a'r eithriadau a restrir isod.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

Fersiwn 2 cyhoeddwyd 21/05/2024

Er ein bod yn ymdrechu i fodloni 'WCAG 2.2 AA', mae gennym y materion canlynol nad ydynt yn cydymffurfio ar hyn o bryd:

  • Mae rhai dewislenni, a rhannau o rai tudalennau, wedi’u marcio mewn ffordd a allai eu gwneud yn ddryslyd wrth gael atynt trwy Dechnolegau Cynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 4.2.1 WCAG 2.2, Enw, Rôl, Gwerth (Lefel A)
  • Nid yw penawdau ar rai tudalennau mewn trefn nythu resymegol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.2, Gwybodaeth a Pherthnasoedd (Lefel A)
  • Mae gan rai elfennau drefn afresymegol o ran ffocws. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.3 WCAG 2.2, Trefn Ffocws Lefel A

Llywio a chael gafael ar wybodaeth

  • Nid yw'n bosibl i ddefnyddwyr newid maint y testun heb i rywfaint o'r cynnwys orgyffwrdd.
  • Efallai na fydd rhai dyfeisiau fel tabledi yn perfformio'n llawn yn ôl y disgwyl.

PDFs a dogfennau eraill

Mae ein gwefan yn cynnwys gwybodaeth sy’n seiliedig ar ddwy gynulleidfa wahanol:

  1. 1. Gwybodaeth gwasanaeth cyffredinol i'n rhoddwyr a'r cyhoedd;
  2. Gwybodaeth gorfforaethol neu dechnegol sydd ar gael fel dogfen gyhoeddus, er mwyn bod yn agored ac yn dryloyw. Fodd bynnag, nid yw'r dogfennau hyn wedi'u cynllunio gyda'r cyhoedd mewn golwg.

Lle mae gwybodaeth wedi'i hanelu at ddefnyddwyr gwasanaeth a'r cyhoedd yn ehangach, er enghraifft taflenni rhoddwyr, mae'r rhain wedi'u trosi'n dudalennau gwe HTML. O bryd i'w gilydd, efallai y byddwn yn darparu'r rhain fel dogfennau PDF neu mewn fformatau eraill (fel Microsoft Word), ond at ddibenion llwytho i lawr yn unig.

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Felly, nid ydym yn bwriadu trwsio unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018. Fodd bynnag, byddwn yn ymdrechu i wneud unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd yn hygyrch lle bynnag y bo modd.

O bryd i’w gilydd byddwn yn cyhoeddi PDFs sy’n cynnwys ‘trawsgrifiadau/llawysgrifau wedi’u sganio neu nodiadau mewn llawysgrifen’ er enghraifft mewn ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Mae'r rhain y tu allan i'r cwmpas ac ni fyddant yn sefydlog.

Fideo byw

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau sain neu fideo byw, oherwydd bod fideo byw wedi'i eithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd. Fodd bynnag, byddwn bob amser yn ceisio darparu fersiynau wedi’u hisdeitlo o fideos a recordiwyd ymlaen llaw.

Rydym yn gwneud ein gorau glas i wneud cynnwys newydd mor hygyrch â phosibl.

Fel sefydliad, rydym yn:

  • gweithio gyda chydweithwyr i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o hygyrchedd digidol;
  • annog y defnydd o iaith glir ac ysgrifennu cynhwysol;
  • annog y defnydd o gynnwys HTML hygyrch lle bynnag y bo modd;
  • cynorthwyo staff i greu fideos hygyrch, sy’n cynnwys isdeitlau, trawsgrifiadau gyda disgrifiadau sain;
  • gweithio gyda datblygwyr y wefan i nodi problemau pan fyddant yn codi, er mwyn ceisio eu hatgyweirio neu ddod o hyd i ddatrysiad amgen hygyrch
  • cynnal 'gwiriadau ar hap' ar dudalennau a dogfennau cyhoeddedig, i sicrhau eu bod mor hygyrch â phosibl yn ddigidol.

Paratowyd y datganiad hwn ym mis Rhagfyr 2024.