- Diogelwch Gwaed – yn dechrau gyda chi!
- Canlyniadau/risgiau posibl o roi gwaed, plasma a phlatennau
- I’w ddarllen gan RODDWYR GWAED CYFLAWN
- I’w ddarllen gan RODDWYR PLASMA PLATENNAU YN UNIG
- Y broses rhoi gwaed
- Profi eich rhodd
- Defnyddio eich rhodd
- Swyddi a hobïau
- Canmoliaethau a phryderon
Darllenwch yr holl wybodaeth a ddarperir yma yn ofalus cyn rhoi gwaed, plasma a phlatennau:
Mae dau reswm am hyn:
- i'ch atgoffa chi ein bod ni’n dibynnu ar eich gonestrwydd i gadw'r cyflenwad gwaed yn ddiogel.
- i roi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch ynghylch y risgiau o roi gwaed, er mwyn i chi allu gwneud penderfyniad gwybodus ynghylch rhoi gwaed, plasma a phlatennau.
I'r mwyafrif helaeth o bobl, mae rhoi gwaed, platennau neu blasma yn brofiad syml a didrafferth. Ond mae rhai risgiau y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt. Isod, ceir disgrifiad o ganlyniadau anffafriol rhoi gwaed, a'r achosion a gofnodwyd yn GGC:
Problemau’n ymwneud â gosod y nodwydd
Symptomau byrhoedlog sy'n awgrymu problemau gyda’r nerfau ar ôl rhoi gwaed (1 o bob 35,176)1
Anesmwythder yn y fraich sydd dal yno blwyddyn neu fwy ar ôl rhoi gwaed, sydd yn cael ei achosi gan - anaf i'r nerfau (1 mewn 386,939 o bobl)1, anaf nerfol (1 mewn 193,470 o bobl)1 Twll yn y rhydweli (1 mewn 20,365 o bobl)1
Cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â thwll yn y rhydweli: ffistwla rhydweli-gwythïen (dim wedi'u cofnodi ar gyfer GGC)1 syndrom ‘compartment’ (dim wedi'u cofnodi ar gyfer GGC)1, ffug-anewrysm y rhydweli breichiol (dim wedi'u cofnodi ar gyfer GGC)1
"Ail-waedu" (gwaedu o'r safle y rhoddwyd y nodwydd ynddo ar ôl rhoi gwaed) (1 mewn 9,213 o bobl)1
Haint neu lid lleoledig (thrombofflebitis neu lid yr is-groen) (1 mewn 96,735 o bobl)1
Thrombosis gwythiennau dwfn (1 mewn 386,939)1
Cardiofasgwlaidd
Gofynnir i roddwyr ddatgan pob problem feddygol yn ystod y broses sgrinio iechyd. Mae rhoddwyr sydd â hanes hysbys o broblemau’r galon (cardiofasgwlaidd) sylweddol yn cael eu gohirio rhag rhoi gwaed. Er gwaethaf hyn, mae yna siawns fach iawn o hyd y gall rhoddwyr ddioddef digwyddiad cardiofasgwlaidd anffafriol annisgwyl yn ystod, neu ar ôl rhoi gwaed. Mae'r rhain yn cynnwys:Symptomau cardiaidd acíwt fel poen yn y frest (dim wedi'u cofnodi yn GGC)1
Trawiad ar y galon/ataliad y galon (dim wedi'u cofnodi yn GGC)1
Strôc fach neu strôc (1 mewn 437,663 o bobl)1
Arall
Adweithiau alergaidd cyfyngedig e.e. adwaith i'r toddiant glanhau braich (1 mewn 9,922 o bobl)1
Adweithiau alergaidd cyffredinol (1 mewn 437,663 o bobl)1
Marwolaeth (dim wedi’u cofnodi yn GGC)1
Mae ein staff wedi'u hyfforddi i adnabod y cymhlethdodau prin hyn, a byddwch yn cael triniaeth a chyngor priodol ar unwaith. Os oes materion sy'n ymwneud â digwyddiad o'r fath yn digwydd ar ôl i chi adael y sesiwn, dylech gysylltu â llinell gymorth GGC ar 0800 252266, eich Meddyg Teulu, neu ffonio 999 neu linell gymorth 111 y GIG am gyngor.
Rhowch wybod
Er mwyn i ni fedru sicrhau cyflenwad gwaed diogel i gleifion, rhowch wybod i ni os byddwch chi’n mynd yn sâl o fewn pythefnos ar ôl rhoi gwaed, neu os ydych chi’n credu na ddylai eich gwaed gael ei roi i glaf.
1 – Data perfformio GGC 01/04/2016 – 31/03/2020
Diffyg Haearn
Mae pob rhodd o waed yn cynnwys tua 240mg o haearn, ac mae’n gallu cymryd tua 4-6 mis i hwn gael ei roi yn ôl yn y corff, trwy fwyta deiet llawn haearn. Mae rhoddwyr ifainc, rhoddwyr benywaidd cyn mislif, rhoddwyr sy'n rhoi gwaed yn rheolaidd iawn, a iawn, a rhoddwyr sydd â deiet sydd ddim yn cynnwys llawer o haearn, mewn mwy o berygl o ddioddef diffyg haearn. Gellir lleihau'r amser a gymerir i ddychwelyd yr haearn a gollir yn ôl i’r gwaed drwy gymryd tabledi neu
foddion haearn dros y cownter, sy'n cynnwys pethau fel fitaminau sy'n cynnwys haearn.
Pan fyddwch chi’n cofrestru i roi platennau/plasma (fel rhan o'r ymarfer caniatâd gwybodus), bydd un o'r nyrsys yn treulio amser gyda chi yn trafod y broses rhoi platennau, gan gynnwys y risgiau posibl o roi platennau. Bydd taflenni sy’n rhoi mwy o fanylion ar gael. Ar gyfer y mwyafrif helaeth, mae rhoi platennau yn brofiad syml a didrafferth. Ond mae rhai risgiau y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt:
Diffyg haearn
Gall rhoddwyr platennau rheolaidd ddioddef o ddiffyg haearn. Bob tro y byddwch yn rhoi afferesis, byddwch yn colli hyd at 100ml o waed yn yr harnais a'r bag sampl. Felly, os byddwch yn cyfrannu ar yr amledd uchaf, sef 24 gwaith y flwyddyn, gallech golli hyd at 2400ml o waed, sy'n cyfateb i 4-5 o roddion gwaed. Pwrpas y prawf pricio bysedd rydym yn ei wneud cyn eich rhodd yw gwirio eich lefel haemoglobin, ond nid yw'n nodi a yw eich storfeydd haearn yn iach neu wedi'u disbyddu. Ni allwch roi gwaed cyfan a rhoi platennau hefyd.Emboledd aer
Mae hyn yn golygu aer yn mynd i mewn i’ch cylchrediad gwaed yn anfwriadol. Mae gwiriadau diogelwch ar waith i sicrhau bod y risgiau o hyn yn digwydd mor isel â phosibl. Nid yw hyn wedi digwydd yn GGC hyd yn hyn1.Colli celloedd coch
Weithiau, ni allwn ddychwelyd eich gwaed i chi. Mae hyn yn golygu eich bod chi’n colli 200mls o’ch gwaed. Mae hyn yn gallu digwydd os ydych chi'n profi sgil-effaith wrth roi gwaed e.e. teimlo'n benysgafn, datblygu clais/haematoma neu'n fwy anaml, os oes problemau gyda'r celloedd gwaed coch a roesoch (haemolysis) yn ystod eich proses afferesis, ac ni fyddwn yn dychweld eich gwaed yn ol i chi os fydd hyn yn digwydd (nid yw hyn wedi digwydd yn GGC hyn yn hyn)1.Rhowch wybod i ni
Er mwyn i ni allu sicrhau cyflenwad gwaed diogel i gleifion, rhowch wybod i ni os byddwch yn mynd yn sâl o fewn pythefnos ar ôl rhoi gwaed neu os ydych
chi’n credu na ddylid trallwyso eich gwaed i glaf.
1- Data perfformio GGC 01/04/2016 – 31/03/2020
Eich bod chi wedi darllen a deall y daflen hon a'r wybodaeth arall a ddarparwyd
Eich bod chi wedi darllen, deall a chwblhau'r Holiadur Hanes Iechyd.
Eich bod chi’n deall natur y broses rhoi gwaed a'r peryglon posibl sy'n gysylltiedig â rhoi gwaed, plasma neu phlatennau fel yr eglurir yn y daflen hon.
Eich bod chi wedi cael atebion boddhaol i unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.
Eich bod chi, hyd eithaf eich gwybodaeth, ddim mewn perygl o drosglwyddo HIV, hepatitis neu heintiau eraill.
Bod yr holl wybodaeth a ddarperir yn wir ac yn gywir hyd eithaf eich gwybodaeth
Ac rydych chi’n rhoi caniatâd i’r canlynol:I GGC gadw eich manylion ar eu cronfa ddata yn unol â thelerau Deddfwriaeth Diogelu Data berthnasol. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein taflen ‘Your information rights: collecting data and access to your Welsh Blood Service Record’ a'r hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan. At ddiben diogelwch gwaed, ar ôl ei gofnodi ar ein cronfa ddata rhoddwyr, mae'n ofynnol i ni yn ôl y gyfraith i gadw, ac o bosibl prosesu, eich gwybodaeth am gyfnod amhenodol.
I’ch gwaed gael ei brofi am HIV a chyflyrau eraill fel y rhestrir yn y daflen hon, ac i gael gwybod os bydd unrhyw un o'r profion hyn yn bositif.
I’ch gwaed gael ei ddefnyddio er budd cleifion (naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol).
I GGC sefydlu eich grŵp gwaed ac, os oes angen, teip eich celloedd gwyn ac/neu blatennau.
I GGC storio sampl fach o'ch rhoedd i'w phrofi ymhellach, os oes angen.
I GGC gysylltu â chi yn uniongyrchol neu drwy drydydd parti er mwyn cynnal arolygon boddhad rhoddwyr neu waith arall sy'n gysylltiedig â gwella gwasanaethau.
I GGC gysylltu â chi yn ystod y prinder stociau gwaed/plasma/platennau i ofyn am eich cefnogaeth.
Efallai y gofynnir i chi roi caniatâd hefyd i brofion ychwanegol gael eu gwneud, neu ganiatáu i'ch rhodd gael ei defnyddio at ddiben penodol.
Mae eich grŵp gwaed yn cael ei archwilio bob tro y byddwch yn rhoi gwaed. Rydym yn profi eich gwaed am HIV, hepatitis B, hepatitis C, hepatitis E, siffilis a HTLV2 hefyd. Os byddwch yn cael canlyniad positif i unrhyw un o'r profion hyn, byddwn yn cysylltu â chi, ac yn cynnig cyngor pellach i chi, a bydd yn rhaid i'ch rhodd gael ei dinistrio.
Bydd profion ychwanegol yn cael eu gwneud ar rai rhoddion, naill ai oherwydd gwybodaeth a ddarparwyd gennych chi e.e. hanes teithio neu i fodloni anghenion arbennig cleifion penodol e.e. babanod. Gall y profion hyn gynnwys profion malaria a grwpio gwaed manylach.
Mae cyfrif gwaed llawn yn cael ei wneud ar bob rhodd platennau
2 Mae’r Feirws “Human T Lymphotropi” yn gallu achosi afiechyd difrifol i’r gwaed a’r system nerfol. Mae HTLV yn gallu cael ei drosglwyddo drwy drallwysiad.
Mae’r mwyafrif helaeth o roddion yn cael eu defnyddio ar gyfer cleifion e.e. ar ôl colli gwaed neu i drin canser.
Hoffem i roddwyr wybod y gall eu gwaed gael ei ddefnyddio at ddibenion eraill hefyd, nid ar gyfer trallwysiad uniongyrchol i gleifion. Gall hyn fod ar gyfer sicrhau ansawdd, addysg, hyfforddiant, datblygu prosesau neu ymchwil awdurdodedig, sydd wedi'i gymeradwyo gan bwyllgor moeseg. Gallwn ddefnyddio'r rhodd hefyd wrth baratoi cynhyrchion sy'n ymwneud â gofal iechyd yn fasnachol o fewn GGC, neu gan sefydliadau eraill.
Bydd GGC yn sicrhau bob amser nad oes unrhyw oblygiad i'ch iechyd na'ch lles, na fydd modd eich adnabod, ac y bydd unrhyw incwm a dderbynnir gennym yn cael ei ddefnyddio i wrthbwyso costau GGC ac felly, cynrychioli budd i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.
Mae rhai swyddi/hobïau, rhestir esiamplau isod, yn gallu cynyddu'r risg o anaf petasech chi’n mynd yn sâl ar ôl rhoi gwaed; felly, ni ddylech chi roi gwaed heddiw os ydych chi’n bwriadu cymryd rhan mewn unrhyw rai o'r canlynol yn ystod y 12 awr nesaf:
• Gyrru HGV, craen, bws mini, bws neu drên
• Gyrrwr cerbyd ymateb brys
• Criw tân
• Dringo ysgolion neu sgaffaldiau
• Criw awyr (peilot) neu Reolwr Trafnidiaeth Awyr
• Gweithio dan ddaear
• Deifio
• Parasiwtio
• Chwaraeon modur
• Dringo
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i'n rhoddwyr ac i werthfawrogi eich adborth. Gallwch ein helpu i wella ein gwasanaeth drwy gwblhau taflen Canmoliaethau a Phryderon, sydd ar gael yn yr ardal luniaeth.
Os ydych chi’n anhapus gyda'n gwasanaeth, yn aml, mae’n well codi'r mater cyn gynted ag y bo modd. Gofynnwch am gael siarad â'r unigolyn sy'n gyfrifol am y clinig rhoi gwaed, a fydd yn ceisio datrys y broblem gyda chi.
Fel arall, gallwch gael gwybodaeth ynghylch cyflwyno pryder yn gwaedcymru.org.uk , neu gallwch ein ffonio ni ar 0800 252 266.
Gallwch anfon e-bost atom hefyd yn donors@wales.nhs.uk, neu ysgrifennu atom i’r cyfeiriad Gwasanaeth Gwaed Cymru, Heol Taf Elái, Tonysguboriau, Pontyclun CF72 9WB
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw wybodaeth yn y daflen hon, gofynnwch i aelod o staff, a fydd yn fodlon helpu.
I lawrlwytho fersiwn y gellid ei argraffu o’r wybodaeth uchod, cliciwch YMA