Os ydych chi wedi cael trallwysiad gwaed neu ddeunydd wedi’i drawsblannu, neu’n credu eich bod chi wedi cael un ohonynt ers 1 Ionawr 1980, ni fyddwch yn gallu rhoi gwaed.
Cyflwynwyd y mesur hwn yn 2004 gan Wasanaethau Trallwyso y DU. Mae’n un o blith nifer o fesurau a gynlluniwyd i leihau’r risg o drosglwyddo Clefyd Amrywiolyn Creutzfeldt Jakob (vCJD) drwy’r boblogaeth.
Er mai bach iawn yw’r posibilrwydd y bydd unrhyw unigolyn yn dal vCJD o drallwysiad gwaed neu ddeunyddiau wedi’u trawsblannu, y gobaith yw y bydd y mesurau diogelwch ychwanegol hyn yn helpu i ddileu vCJD o boblogaeth y DU.
Efallai eich bod chi’n gymwys i roi gwaed os ydych chi wedi derbyn trallwysiad gwaed cyn 1 Ionawr 1980..
Os ydych chi wedi cael gwaed mewn gwlad arall cyn 1980, cysylltwch â ni am gyngor.