Mae pa mor aml y gallwch roi gwaed yn dibynnu ar ba fath o rodd rydych chi’n ei rhoi.
Rhoddion gwaed
Mae’n rhaid i roddwyr gwrywaidd aros o leiaf 12 wythnos lawn rhwng pob rhodd o waed, a gallant roi hyd at bedair rhodd mewn blwyddyn galendr.
Mae’n rhaid i roddwyr benywaidd aros o leiaf 16 wythnos lawn rhwng pob rhodd o waed, a gallant roi hyd at dair rhodd mewn blwyddyn galendr.
Rhoddwyr gyda Hemocromatosis Genetig
Gall pobl â Hemocromatosis Genetig (HG) roi gwaed yn amlach na'r amseroedd a amlinellir uchod, ar yr amod eu bod yn bodloni'r holl feini prawf dewis rhoddwyr ac yn teimlo'n dda.
Mae meddyg y claf yn gyfrifol am reoli'r cyflwr a chytuno ar ba mor aml maent yn rhoi gwaed. Mae'n bwysig iawn rhoi gwaed ar yr amlder y mae'r meddyg yn ei argymell.
Os oes gennych HG, siaradwch â'ch meddyg os hoffech gyfrannu trwy Wasanaeth Gwaed Cymru.