Nid yw llawer o glefydau'n heintus ac felly, nid ydynt fel arfer yn peri risg, ond gellir trosglwyddo rhai clefydau heintus drwy roddion gwaed, hyd yn oed cyn i roddwr posibl ddatblygu unrhyw symptomau o'r haint.
Gall hyn arwain at haint difrifol yn y person sy'n derbyn rhodd.
Clefydau heintus
- Y Frech Goch
- Clwy’r Pennau
- Brech yr Ieir
- Yr Eryr
- Brech Goch yr Almaen
Gallwch roi gwaed cyhyd â’ch bod chi wedi gwella’n llwyr ers pythefnos neu fwy.
- Os ydych chi wedi dod i gysylltiad ag unrhyw un sydd â chlefyd heintus ac nad ydych erioed wedi cael y clefyd, mae’n rhaid i chi aros pedair wythnos cyn rhoi gwaed.
Brech y mwncïod
Os ydych chi wedi cael brech y mwncïod neu wedi dod i gysylltiad â brech y mwncïod, cysylltwch â ni i weld a ydych yn gymwys i roi gwaed cyn i chi wneud apwyntiad.