Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Beichiogrwydd ac ar ôl beichiogrwydd

Beichiogrwydd diweddar

Os wnaeth eich beichiogrwydd bara llai na 12 wythnos, efallai y bydd yn bosibl i chi roi gwaed, felly cysylltwch â ni i drafod hyn

Os wnaeth eich beichiogrwydd bara mwy na 12 wythnos, dylech aros tan fod 6 mis wedi mynd heibio o ddiwedd eich beichiogrwydd cyn rhoi gwaed. Mae hyn yn rhoi amser i chi adfer yr haearn sydd yn cael ei golli fel arfer yn ystod beichiogrwydd.

Beichiogrwydd

Ni allwch roi gwaed os ydych chi’n feichiog.

Ceisio beichiogi

Nid ydym yn argymell bod unigolion sy'n ceisio beichiogi yn rhoi gwaed, gan y bydd angen eu holl storfeydd haearn arnynt pan fyddant yn beichiogi.

Bwydo ar y fron

Gallwch roi gwaed os ydych chi’n bwydo ar y fron, ond mae’n rhaid i chi aros tan fod o leiaf 6 mis wedi mynd heibio o ddiwedd eich beichiogrwydd cyn rhoi gwaed.

Trallwysiad Gwaed

Os ydych chi wedi cael trallwysiad gwaed yn ystod eich beichiogrwydd neu wrth roi genedigaeth, ni fyddwch yn gallu rhoi gwaed.

Rydym yma i chi. Os hoffech ofyn cwestiynau penodol, cysylltwch.

Cysylltwch â ni