Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Perthnasau rhywiol

Ni ddylech fyth rhoi gwaed:

a) Os ydych chi’n HIV positif neu’n derbyn triniaeth am HIV.
b) Os ydych chi’n HTLV positif.
c) Os ydych chi’n cario’r feirws hepatitis B.
d) Os ydych chi’n cario’r feirws hepatitis C.
e) Os ydych chi erioed wedi cael eich diagnosio gyda siffilis, hyd yn oed os ydyw wedi cael ei drin.
f) Os ydych chi erioed wedi chwistrellu, neu wedi cael eich chwistrellu, a chyffuriau heb eu rhagnodi, hyd yn oed os oedd hynny amser maith yn ôl neu dim ond unwaith. Mae hyn yn cynnwys cyffuriau magu cyhyrau, cynhyrchion melynu’r croen y gellir eu chwistrellu a chyffuriau chemesex, y gellir eu chwistrellu. Efallai y byddwch yn gallu rhoi gwaed os ydy meddyg wedi rhagnodi’r cyffuriau. Gofynnwch.

 

Running club

Dim yn gallu rhoi gwaed? Rydym eich angen chi o hyd.

Rhagor o wybodaeth

Ni ddylech roi gwaed am o leiaf tri mis:

Os ydych chi’n gweithio fel gweithiwr rhyw. Efallai y byddwch yn cael rhoi gwaed os oes mwy na tri mis wedi mynd heibio ers y tro diwethaf i chi dderbyn arian neu gyffuriau ar gyfer cyfathrach refrol, eneuol neu drwy’r geg.

Meini prawf ar gyfer risg unigol

a) Ni ddylech roi gwaed am o leiaf tri mis os ydych chi wedi cymryd cyffuriau chemsex, gan gynnwys cyffuriau adfywio. Mae'r risg hon yn berthnasol i bob cyswllt rhywiol.

b) Ni ddylech roi gwaed os ydych chi wedi cael eich diagnosio gyda gonorea, tan o leiaf tri mis ar ôl cwblhau triniaeth a chael eich rhyddhau o unrhyw apwyntiadau pellach.

c) Ni ddylech roi gwaed os eich bod chi, yn y tri mis diwethaf:

  • wedi cael mwy nag un partner rhywiol, ac
  • wedi cael cyfathrach refrol gydag unrhyw rai o’ch partneriaid.

d) Ni ddylech roi gwaed os ydych chi wedi cael cyfathrach refrol gyda phartner rhywiol yn y tri mis diwethaf. At ddibenion dewis rhoddwr, mae partner newydd yn rhywun nad ydych wedi cael rhyw gyda nhw o’r blaen, neu bartner blaenorol rydych chi wedi ailddechrau perthynas rywiol â nhw.

Os ydych chi mewn perthynas rywiol ag un partner yn unig, a’ch bod chi’n cael cyfathrach rywiol, gallwch roi gwaed tri mis o ddyddiad eich cyswllt rhywiol cyntaf, hyd yn oed os ydych chi’n cael cyfathrach refrol.

Meini prawf ar gyfer partneriaid

Ni ddylech roi gwaed am o leiaf tri mis ar ôl cael cyswllt rhywiol gyda phartner sydd, neu a allai fod:

a) yn HIV neu’n HTLV positif.
b) yn cario’r feirws hepatitis B.
c) yn cario’r feirws hepatitis C.
d) yn bartner sydd erioed wedi derbyn arian am gyffuriau neu ryw.
e) yn bartner sydd erioed wedi chwistrellu, neu wedi cael ei chwistrellu, â chyffuriau; hyd yn oed os oedd hynny amser maith yn ôl neu dim ond unwaith. Mae hyn yn cynnwys cyffuriau magu cyhyrau, cynhyrchion melynu’r croen y gellir eu chwistrellu a chyffuriau chemesex, y gellir eu chwistrellu. Efallai y byddwch yn gallu rhoi gwaed os ydy meddyg wedi rhagnodi’r cyffuriau.

Pecyn profi gartref (Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Gallwch nawr ofyn am becyn profi gartref am ddim ar gyfer HIV, Syffilis, Hepatitis B a Hepatitis C drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru. Os hoffech fwy o wybodaeth neu i archebu pecyn profi, cliciwch yma.

Donor before giving blood

Dim yn gallu darganfod beth ydych chi’n edrych amdano ar-lein?

Cysylltwch heddiw