Tatŵs, tyllu’r croen a cholur lled-barhaol
Mae’n rhaid i chi aros am 120 diwrnod cyn rhoi gwaed.
Aciwbigo a botox
Os ydych chi wedi cael triniaeth a roddwyd ar safleoedd y GIG, neu gan staff y GIG, neu gan aelod o’r cyrff statudol cofrestredig canlynol (gweler isod), gallwch roi gwaed ar unwaith ar yr amod nad yw’r rheswm dros y driniaeth yn eich atal chi rhag gwneud hynny. Ar gyfer pob achos arall, ni chewch chi roi gwaed am 120 diwrnod ar ôl cael triniaeth. Os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â ni ar 08008 25 22 66.
- Y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC)
- Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC)
- Y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC)
- Y Cyngor Ceiropractig Cyffredinol (GCC)
- Y Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC)
- Y Cyngor Osteopathig Cyffredinol (GOsC)
- Y Cyngor Iechyd Proffesiynau Gofal (HCPC)