Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.
Ydych chi erioed wedi meddwl am yrfa yn gweithio yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru?
Pwy bynnag ydych chi, mae rôl i chi gyda ni.
Chwilio am swyddi sydd ar gael Gweithio yn y Tîm Casglu Gwaed Gweithio mewn Labordai Gweithio yn y Tîm TrawsblannuMae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn gyfrifol am gasglu, profi a dosbarthu gwaed, platennau a rhoddion mêr esgyrn i ysbytai ar draws y wlad. Ond nid dyna’r cyfan rydyn ni’n ei wneud; rydym yn cynnig cyngor arbenigol hefyd ar drallwysiadau a thrawsblaniadau, ac yn cefnogi ymchwil blaenllaw a mwy.
I wneud hyn i gyd, mae gennym dros 600 o staff ar draws y wlad mewn rolau amrywiol, sydd i gyd yn gweithio gyda'i gilydd i helpu i achub bywydau cleifion.
Swnio'n gyffrous? Rydyn ni eisiau clywed gennych chi os ydych chi'n angerddol am wneud gwahaniaeth.
Pwy bynnag ydych chi, a ble bynnag ydych chi yn eich gyrfa, mae rôl i chi yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru.
Trafod, rheoli a chyflawni pob rhaglen gyfalaf y cytunwyd arni ar draws Gwasanaeth Gwaed Cymru. Sicrhau bod yr effeithiau o weithgareddau'r rhaglenni cyfalaf yn cael eu cynnal o fewn yr amlen ariannol y cytunwyd arni a'r amserlenni cysylltiedig. Gwneir hyn drwy sicrhau bod arferion gorau rheoli prosiectau yn cael eu cymhwyso i bob cynllun cyfalaf i gefnogi’u cyflenwi a'u gweithredu i mewn i wasanaethau gweithredol.
Mae'r tîm Adnoddau a Chynllunio Canolog yn gweithio'n agos ac ar y cyd gyda’r amcan i greu'r capasiti a'r cyfle mwyaf posibl i roddwyr o fewn y cynllun casglu gwaed. Mae'r Adran Gynllunio yn cynllunio, archebu ac yn trefnu clinigau i roddwyr gwaed ar draws Cymru. Yna, mae'r clinigau hyn yn ffurfio'r cynllun casglu a grëwyd i ateb y galw gan ysbytai.
Mae'r tîm Darparu Adnoddau Canolog yn rheoli rotâu clinigau'r tîm casglu gwaed, gan sicrhau bod staff digonol yn gweithredu yn ystod pob clinig bob dydd. Mae hyn yn cynnwys cydlynu gwyliau blynyddol, salwch ac absenoldebau eraill. Maen nhw hefyd yn gyfrifol am gyflwyno cardiau cyflog staff casglu gwaed i'r Gyflogres.
Mae annog mwy o bobl ledled Cymru i ystyried rhoi gwaed, platennau neu fêr esgyrn am y tro cyntaf yn cael ei gyflawni gan:
Y tîm cyfathrebu sy'n defnyddio'r cyfryngau lleol a chenedlaethol i addysgu ac ysbrydoli rhoddion neu eiriolaeth ar gyfer y Gwasanaeth.
Partneriaethau cymunedol sy’n creu perthnasoedd gyda sefydliadau cenedlaethol y gellir eu defnyddio mewn cymunedau lleol, ar draws Cymru.
Y tîm ymgysylltu lleol sy'n hyrwyddo sesiynau rhoddwyr sydd ar y gweill gyda chymunedau lleol, gan ddefnyddio eiriolwyr a dylanwadwyr allweddol i wneud y mwyaf o gyhoeddusrwydd.
Mae'r Ganolfan Gyswllt Rhoddwyr yn adran aml-sianel, sy'n rhyngweithio â rhoddwyr gwaed drwy alwadau mewnol ac allanol, SMS, e-byst, llythyron a chyfryngau cymdeithasol.
Prif bwrpas y Ganolfan Gyswllt Rhoddwyr yw bod yn bwynt cyswllt cyntaf i roddwyr gwaed yng Nghymru. Mae swyddogaethau allweddol yn cynnwys, trefnu apwyntiadau, ateb cwestiynau, gofyn am adborth a chadw llinellau cyfathrebu cyson gyda'n rhoddwyr.
Ein prif nod yw darparu safon eithriadol o wasanaeth a gofal i'n rhoddwyr tra’n sicrhau bod cyflenwadau gwaed mewn ysbytai yn gyson ar y lefelau gorau posibl.
Mae'r adran yn darparu Cynnal Cyfleusterau i holl safleoedd Gwasanaeth Gwaed Cymru gan gynnwys glanhau, diogelwch, porthora a dyletswyddau derbynfa, rheoli gwastraff clinigol a chynnal a chadw tiroedd allanol y safleoedd gan gynnwys rheoli plâu.
Mae'r adran Gyfleusterau yn cynnwys tair ardal benodol: y Tîm Cyfleusterau, Porthorion a Storfeydd. Mae'r Tîm Cyfleusterau a Phorthorion yn gweithio i sicrhau bod Gwasanaeth Gwaed Cymru yn darparu amgylchedd addas ar gyfer rhoddwyr, defnyddwyr gwasanaethau a staff tra bod Storfeydd yn gweithio i gaffael a chyflenwi llawer o'r eitemau sy'n bwysig i fusnes sy'n cael eu defnyddio bob dydd ar draws y sefydliad.
Mae'r adran Gwasanaethau Cyffredinol yn darparu swyddogaeth cydlynu a chymorth busnes ar draws Gwasanaeth Gwaed Cymru. Mae'n cefnogi cynllunio a pherfformiad strategol Gwasanaeth Gwaed Cymru ac yn ymateb i anghenion busnes penodol adnabyddedig, gan arwain ar reoli prosiectau a Gwella Gwasanaethau, yn cynghori ar Iechyd a Diogelwch, a chefnogi anghenion busnes dydd i ddydd pob adran yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru a'r Uwch Dîm Rheoli.
Mae'r Ganolfan Gwella ac Arloesi yn cynnwys y meysydd canlynol:
Rhaglenni a Phrosiectau - Mae'r Ganolfan Gwella ac Arloesi yn gyfrifol am sicrhau bod ystod eang o raglenni a phrosiectau yn cael eu cyflawni yn llwyddiannus yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru. Mae hyn yn cynnwys cwmpasu a chynllunio rhaglenni/prosiectau newydd, cefnogi cyflawni rhaglenni/prosiectau, a darparu fframwaith llywodraethu a rheoli risg i sicrhau bod rhaglenni/prosiectau'n cael eu cwblhau'n llwyddiannus.
Gwella Gwasanaethau - Mae'r Ganolfan Gwella ac Arloesi yn gweithio ar y cyd â chydweithwyr ar draws Gwasanaeth Gwaed Cymru i ddarparu gwelliannau gyda'r nod o wella ansawdd ac effeithlonrwydd gwasanaethau i'n rhoddwyr a’n hysbytai fel cwsmeriaid. Mae'n gweithio gyda'n staff i ddefnyddio eu gwybodaeth a'u profiad i ddod o hyd i'r atebion gorau ar gyfer gwelliant a darparu'r canllawiau sydd eu hangen i wireddu'r rhain.
Mae staff Systemau Sicrhau Ansawdd yn gweithio mewn partneriaeth â phob adran ar draws Gwasanaeth Gwaed Cymru i sicrhau bod diogelwch cleifion yn cael ei gynnal drwy fodloni'r safonau ansawdd sy'n berthnasol i waed, cydrannau gwaed, meinweoedd a chelloedd yn barhaus. Mae'r timau hefyd yn monitro perfformiad yn erbyn y safonau hyn ac wedi ymrwymo i gefnogi cylch parhaus o ddysgu a gwella ansawdd o fewn Gwasanaeth Gwaed Cymru.
Mae'r tîm yn cwmpasu ystod eang o weithgareddau sy'n cael eu diffinio o fewn System Rheoli Ansawdd Gwasanaeth Gwaed Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys - Archwilio, Parhad Busnes, Rheoli Newid, Rheoli Dogfennau, Rheoli Digwyddiadau, Gwella Ansawdd, Materion Rheoleiddio, Rheoli Risg a Dilysu.
Mae’r tîm Ymchwil, Datblygu ac Arloesi yn cefnogi ymgorffori gweithgarwch Ymchwil, Datblygu ac Arloesi fel gweithgaredd craidd o fewn Gwasanaeth Gwaed Cymru. Maent yn annog diwylliant o arloesi, datblygu a hyrwyddo Gwasanaeth Gwaed Cymru fel canolfan o ddewis ar gyfer cydweithio academaidd a diwydiant. Maent yn arwain ar lywodraethu a rhoi cyngor ac arweiniad arbenigol ar bolisi a gweithdrefnau.
Mae'r Adran Drafnidiaeth a Logisteg yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau logistaidd craidd ar gyfer y sefydliad, gan gynnwys, darparu gwaed a chynhyrchion gwaed i ysbytai fel cwsmeriaid, casglu rhoddion gwaed o glinigau rhoi gwaed a chludo gwaed, cynhyrchion masnachol a stoc rhwng safle Tonysguboriau a'r Uned Dal Stoc a leolir yn Wrecsam. Lleoli a sefydlu ôl-gerbydau Clinigau Rhoi Gwaed Symudol, rheoli'r cerbydau yn y fflyd drafnidiaeth, gan gynnwys ymwneud â dylunio cerbydau newydd pwrpasol, rheoli cyflenwad tanwydd ar y safle ar gyfer cerbydau fflyd yr adran drafnidiaeth a darparu cefnogaeth drafnidiaeth i Sefydliadau GIG eraill, e.e., Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Y Profion Awtomataidd yw lle mae'r holl samplau gan roddwyr gwaed yn cael eu profi, gan ddefnyddio ystod o wahanol brofion microbioleg a seroleg, er mwyn sicrhau bod y gwaed sy'n cael ei brosesu yn ddi-glefyd ac yn ddiogel ar gyfer trallwyso i gleifion. Mae tair adran benodol yn canolbwyntio ar wahanol feysydd o brofi: a) Seroleg, sy'n gyfrifol am grwpio gwaed a sgrinio gwrthgyrff celloedd coch, b) Microbioleg, sgrinio ar gyfer marcwyr clefydau heintus a c) Bacterioleg, monitro platennau ar gyfer halogiad bacteriol. Mae'r labordy hefyd yn darparu cyfundrefnau sgrinio ar gyfer gwasanaethau cyn-geni, ar gyfer pob Bwrdd Iechyd ar draws de Cymru.
Rôl y Tîm Iechyd Gwaed yw cefnogi defnydd diogel a phriodol o waed yng Nghymru. Goruchwylir y gwaith gan y Grŵp Goruchwylio Iechyd Gwaed Cenedlaethol. Mae'r Tîm Iechyd Gwaed hefyd yn chwarae rhan allweddol yn cyfathrebu gydag Ymarferwyr Trallwyso mewn ysbytai, datblygu adnoddau addysgol a rhaglenni ar gyfer trallwyso ledled Cymru a datblygu dogfennaeth trallwyso safonedig cenedlaethol.
Mae'r Adran Gwasanaethau Clinigol yn cefnogi Gwasanaeth Gwaed Cymru a'r GIG ehangach i ddarparu gwasanaeth trallwyso sy'n canolbwyntio ar iechyd a gofal o ansawdd uchel. Mae'r adran yn gyfrifol am lywodraethu clinigol o fewn Gwasanaeth Gwaed Cymru ac yn goruchwylio pob agwedd glinigol ar roddwyr cydrannau gwaed, sy'n darparu gwaed ar gyfer Cymru gyfan, bôn-gelloedd yn rhyngwladol ac yn rheoli'r Tîm Iechyd Gwaed. Yn ogystal â darparu gwasanaethau arferol dan arweiniad clinigol, mae'r adran yn darparu arbenigedd clinigol i roddwyr unigol, ac i gleifion ar draws Cymru sydd â gofynion trallwyso anos ac anarferol. Mae'r tîm hefyd yn cyfrannu at grwpiau o'r DU, Ewrop a Rhyngwladol sy'n diweddaru ac yn datblygu canllawiau a datblygiad meddygaeth trallwyso gwaed a thrawsblannu.
Mae'r timau Casglu Gwaed yn gyfrifol am gasglu cydrannau gwaed a gwaed yn ddiogel ac effeithlon ar draws Cymru. Maen nhw'n gweithredu mewn lleoliadau ledled Cymru gyfan o neuaddau eglwysig, canolfannau cymunedol ac adeiladau swyddfeydd i archfarchnadoedd. Defnyddir faniau symudol casglu gwaed hefyd mewn rhai ardaloedd. Mae'n ofynnol i'r timau ar gyfartaledd gasglu tua 350 o unedau o waed cyfan y dydd ar y cyd er mwyn ateb y galw gan ysbytai. Mae 4 lleoliad amlwg ar gyfer y timau Casglu Gwaed ym Mangor, Wrecsam, Dafen a'r Pencadlys yn Nhonysguboriau.
Mae'r Adran Gweithgynhyrchu a Dosbarthu yn gyfrifol am brosesu gwaed cyfan a dderbyniwyd gan roddwyr, i'w gydrannau cyfansoddol (celloedd coch, platennau a phlasma wedi'i rewi'n ffres), gan eu storio o dan amodau priodol a'u dosbarthu i ysbytai fel cwsmeriaid fel y gofynnir amdanynt yn ddyddiol. Mae'r adran yn cynnwys labordy Gweithgynhyrchu a dau labordy Dosbarthu, un yn Nhonysguboriau, De Cymru ac un yn Wrecsam, Gogledd Cymru. Mae'r adran hon hefyd yn dosbarthu meddyginiaethau masnachol sy'n deillio o waed ledled Cymru.
Mae’r Labordy Sicrhau Ansawdd yn cadw ein rhoddwyr gwaed a'n cleifion yn ddiogel trwy gynnig cyngor a chanllawiau i Wasanaeth Gwaed Cymru gyfan. Mae'r timau symudol yn casglu gwaed gan roddwyr ledled Cymru sy'n cael ei gynhyrchu yn gydrannau gwaed ym Mhencadlys Tonysguboriau ar gyfer trallwyso i gleifion mewn ysbytai yng Nghymru. Mae’r Labordy Sicrhau Ansawdd yn cymryd samplau o’r holl gydrannau sy'n cael eu cynhyrchu, yn gwirio bod yr ansawdd yn bodloni'r safonau gofynnol fel bod cleifion yn derbyn trallwysiadau sy'n ddiogel ac yn effeithiol yn glinigol. Mae'r tîm yn gyfrifol am galibradu a dilysu o fewn y Labordy.
Y Labordy Imiwnohematoleg Cell Goch yw'r Ganolfan Gyfeirio ar gyfer profion seroleg grwpiau gwaed yng Nghymru lle caiff grwpio gwaed cymhleth ac adnabod gwrthgyrff eu cyflawni gan Wyddonwyr Biofeddygol arbenigol iawn. Mae hyn yn cynnwys adnabod gwrthgyrff a all achosi Clefyd Haemolytig y Ffetws a’r Newydd-anedig, asesiad o lefel y gwrthgyrff i gynorthwyo gyda rheoli'r beichiogrwydd yn ogystal ag amcangyfrif gwaedlif y ffetws yn y groth i sicrhau bod menywod beichiog yn cael gofal clinigol priodol. Mae'r Labordy hefyd yn gartref i Gynllun Asesiad Hyfedredd Serolegol Cymru, Cynllun Sicrhau Ansawdd achrededig sy'n cael ei ddefnyddio ledled y DU ar gyfer monitro, profi a chymhwysedd dehongli canlyniadau.
Y labordy Uned Dal Stoc yw cyfleuster dosbarthu Gwasanaeth Gwaed Cymru ar gyfer gogledd Cymru, sydd wedi'i leoli yn Wrecsam. Mae'n cyflenwi cydrannau gwaed a gwaed i'r ysbytai yng ngogledd Cymru ac yn anfon gwaed a gasglwyd yng ngogledd Cymru i'r cyfleuster gweithgynhyrchu yn ne Cymru. Mae danfoniadau'n cael eu gwneud yn rheolaidd gan drafnidiaeth Gwasanaeth Gwaed Cymru i bob ysbyty.
Mae Gwasanaeth Asesu Ansawdd Allanol Cenedlaethol y DU ar gyfer Histogydnawsedd a Imiwnogeneteg yn darparu gwasanaeth asesu ansawdd allanol arbenigol ar gyfer labordai ledled y byd sy'n cefnogi trawsblannu organau. Mae’r gwasanaeth asesu ansawdd allanol yn monitro perfformiad profion labordy gan ddefnyddio samplau 'dall' a ddadansoddwyd fel pe baent yn samplau cleifion i sicrhau bod modd cymharu profion, eu bod yn ddiogel ac yn glinigol ddefnyddiol i glaf waeth ble mae'r profion yn cael eu perfformio.
Mae Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru (WBMDR) yn goruchwylio recriwtio, profi cydnawsedd HLA, chwilio am roddwyr a chaffael bôn-gelloedd gwaedfagol i gleifion. Mae'r Gofrestrfa yn cynnwys rhoddwyr gwirfoddol sydd wedi’u profi am gydnawsedd HLA, y gellir chwilio amdanynt i ddod o hyd i roddwyr sy’n cyfateb i gleifion sydd angen trawsblaniad bôn-gelloedd. Mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn y DU ac yn rhyngwladol ar gyfer cleifion ledled y byd.
Mae Gwasanaeth Histogydnawsedd ac Imiwnogeneteg Cymru yn darparu profion labordy sydd eu hangen i gefnogi rhaglenni trawsblannu bôn-gelloedd gwaedfagol ac organau. Yn ogystal, mae'r labordy yn darparu profion genetig ar gyfer nifer o antigenau lewcosyt dynol (HLA) a genynnau sy'n gysylltiedig ag imiwnedd i gefnogi diagnosis a rheoli clefydau ac mae'n chwarae rhan wrth ymchwilio i adweithiau sy'n gysylltiedig â thrallwysiad.
Mae'r gwaith sy'n rhan o gefnogi rhaglenni trawsblannu yn cynnwys profi cydnawsedd HLA cleifion a rhoddwyr, asesu pa mor agos yw'r cydweddiad a helpu i ddewis y rhoddwr mwyaf priodol ar gyfer claf penodol. Mae'r labordy hefyd yn cyflawni sgrinio ar gyfer gwrthgyrff HLA a thraws-baru, er mwyn sicrhau nad oes gwrthgyrff gyda’r derbynnydd a allai wrthod y trawsblaniad.
Mae Labordy Trawsblannu ac Imiwnogeneteg Cymru yn darparu gwasanaethau i gefnogi profion trawsblannu ac imiwnogenetig. Mae Labordy Trawsblannu ac Imiwnogeneteg Cymru yn cynnwys:
Gwasanaeth Histogydnawsedd ac Imiwnogeneteg Cymru (WHAIS)
Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru
Gwasanaeth Asesu Ansawdd Allanol Cenedlaethol y DU ar gyfer Histogydnawsedd a Imiwnogeneteg