Mae dyn o Gaerdydd sy'n dibynnu ar roddion gwaed yn ei rôl fel meddyg i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, yn dweud 'diolch' mawr i roddwyr ar draws y wlad am eu hymrwymiad parhaus i helpu cleifion mewn angen.
Mae Dr Kosta Morley a'i gydweithwyr yn yr Elusen yn defnyddio dros 50 o drallwysiadau gwaed sy'n achub bywydau bob blwyddyn. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu rhoi i gleifion yn dilyn anafiadau trawmatig.
Dywedodd Kosta, sydd yn wreiddiol o Dubai: “Mae pob ambiwlans awyr yn cario rhoddion achub bywyd sy’n barod i’w rhoi i’r rheiny sydd eu hangen yn ystod sefyllfaoedd brys. Mae’n bwysig dros ben ein bod ni’n gallu rhoi trallwysiad gwaed yn gyflym, i roi mwy o amser i’n tîm pan maen nhw’n rhoi triniaeth arbenigol.