Teulu o Bont-y-pŵl yn rhagori ar ddisgwyliadau i roi tri rhodd mêr esgyrn achub bywyd
Mae tair cenhedlaeth o deulu achub bywyd o Bont-y-pŵl wedi rhagori ar ddisgwyliadau, wrth i bob un gael eu dewis i roi eu mêr esgyrn achub bywyd i dri dieithryn llwyr filoedd o filltiroedd i ffwrdd.
Cafodd Allan (65), Chris (33) a Corey Taylor (25) eu dewis o Gofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru fel yr unig bobl addas yn y byd oedd yn cydweddu, oedd yn gallu achub cleifion o Affrica, America ac Ewrop yn y drefn honno.
I ddathlu Diwrnod Rhoddwyr Mêr Esgyrn y Byd (dydd Sadwrn 19 Medi), mae’r teulu Taylor yn galw ar bobl ifanc 17-30 oed ar draws Cymru i wirfoddoli eu mêr esgyrn achub bywyd, drwy ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru.
Meddai Chris Harvey, Pennaeth Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru:
“Bob dydd, mae cleifion canser y gwaed ar draws y byd yn gobeithio’n daer dod o hyd i roddwr mêr esgyrn addas sy’n cydweddu. Mae’r gofynion sydd eu hangen i baru claf â rhoddwr mêr esgyrn yn benodol iawn ac yn anffodus, mae hyn yn golygu na fydd tri o bob deg claf fyth yn dod o hyd i’r rhoddwr mêr esgyrn sydd ei angen arnynt a allai achub eu bywyd.
“Y llynedd, cafodd 50,000 o roddion eu gwneud gan tua 40 miliwn o wirfoddolwyr oedd wedi’u cofrestru’n rhyngwladol, sy’n dangos yn union pa mor brin ydyw i gydweddu â rhywun.