Meddai Marian: “’Wrth dyfu fyny, dwi wedi bod yn ymwybodol bob amser am y pwysigrwydd o roi gwaed, ar ôl i fy mam dderbyn trallwysiadau gwaed pan gefais fy ngeni. Blynyddoedd yn ddiweddarach, cafodd fy nhad ei ddiagnosio gyda Multiple Myeloma hefyd, sef math o ganser y gwaed, lle cafodd hyd at bedwar uned o waed bob wythnos.
"Petasai’r gwaed hwn heb fod ar gael a’r GIG heb fodoli, ni fuasai fy nhad wedi byw mor hir ag y gwnaeth.
“Rhoddais fy rhodd gyntaf un o waed yn Eglwys St. Hilary yn Cilá. Mae’n llawer haws rhoi gwaed heddiw. Yn amlwg, pan roddais waed am y tro cyntaf, doedd dim cyfrifiaduron, felly mae pethau’n llawer symlach nawr.
“Roeddent yn arfer casglu’r rhodd mewn potel wydr oedd yn cael ei golchi a’i hailddefnyddio!
“Er bod y broses wedi newid llawer dros y blynyddoedd, mae’n dal i fod mor bwysig ag erioed i gymryd yr amser i roi gwaed.
“Mae rhoi gwaed wedi bod yn rhywbeth ‘dwi wedi bod yn ei wneud yn rheolaidd drwy gydol fy mywyd a gobeithio, trwy rannu fy stori, bydd pobl eraill yn gweld yn union mor bwysig yw hi i wneud yr un peth.”