Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.
"Ni fydd unrhyw beth yn gallu dod â fy nhad-cu yn ôl, ond roeddem yn gallu creu llawer o atgofion difyr, diolch i’r rhoddion a dderbyniodd."
Dywedodd Holly Davies, 19, bod ei thad-cu, David Rees, wedi derbyn mwy na 60 o roddion gwaed a pedwar o roddion platennau dros gyfnod o 18 mis, ar ôl iddo gael ei ddiagnosio gyda lewcemia myeloid aciwt – math o ganser y gwaed sydd yn cael ei ddarganfod yng nghelloedd gwyn y gwaed.
Mae Dave, cyn ddirprwy bennaeth yn Ysgol Iau Croesyceiliog, yn cael ei adnabod fel ‘Dave the Lamp ‘, oherwydd ei fod wrth ei fodd yn casglu lampiau llosgi.
Meddai Holly, myfyrwraig ym Mhrifysgol Abertawe: “Cafodd fy nhad- 6-12 mis i fyw ar 18 Gorffennaf 2018 –ei ben-blwydd yn 87 mlwydd oed. Fel teulu, dechreuom fynd ar dripiau diwrnod mor aml ag y gallem, i greu cymaint o atgofion â phosibl.
“Un diwrnod, dwi’n cofio ei wthio yn ei gadair olwyn i fyny’r bryn mwyaf serth yn Ross-on-Wye, a dwi’n cofio’r llawenydd ar ei wyneb pan wnaethon ni gyrraedd y top, ac yntau’n byrstio allan yn chwerthin pan welodd gymaint oeddwn i’n chwysu!
“Tua adeg ei ddiagnosis, dechreuais roi gwaed hefyd. Roeddwn i’n gwybod ei fod yn beth pwysig i’w wneud bob amser, ond mae gweld y gwahaniaeth mae’n ei wneud i rywun rydych chi’n ei garu yn gwneud i chi fod eisiau helpu pobl eraill mewn sefyllfaoedd tebyg.”
Mae rhoddion gwaed yn cael eu defnyddio i helpu cleifion gyda chyflyrau amrywiol, o famau a babanod newydd-anedig yn ystod eu genedigaeth, i helpu cleifion sy’n cael triniaeth ar gyfer canserau’r gwaed.
“Roedd gallu treulio’r amser ychwanegol hwnnw gyda fy nhad-cu yn anrheg na fydda i fyth yn gallu diolch digon amdano – rwy’n gobeithio y galla i chwarae rhan fach mewn rhoi ail gyfle i fwy o bobl mewn bywyd, neu i roi mwy o amser iddynt gyda’u hanwyliaid.” meddai Holly.
Er bod rhoddion gwaed a phlatennau’n cael eu defnyddio i helpu i reoli’r symptomau ar ôl cael triniaeth cemotherapi, un o’r unig ffyrdd o wella canser y gwaed yw drwy drawsblaniad mêr esgyrn.
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn cynnal Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru, sef panel o roddwyr gwaed rhwng 17 a 30 oed, sydd wedi gwirfoddoli i ddod yn rhoddwyr mêr esgyrn. Mae’r panel yn un o gannoedd ar draws y byd y mae meddygon yn chwilio drwyddo bob dydd i ddod o hyd i unigolion addas sy’n cydweddu, ac a allai achub bywyd cleifion mewn angen.
Mae’r ymchwil ryngwladol ddiweddaraf yn dangos na fydd pedwar o bob deg o gleifion yn derbyn y trawsblaniad achub bywyd sydd ei angen arnynt, a dyna pam mae cofrestrfeydd ar draws y byd yn parhau â’u hymdrechion i gynyddu nifer y gwirfoddolwyr sy’n ymuno â’r panel, er mwyn gwella’r siawns o ddod o hyd i roddwr addas.
Meddai Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru, Alan Prosser: “Dim ond 30 y cant o gleifion sydd angen organau mêr esgyrn a allai newid eu bywydau, sy’n gallu dod o hyd i rywun addas o fewn y teulu sy’n cydweddu â nhw, sy’n golygu ei bod yn fwy cyffredin mewn gwirionedd i ddibynnu ar garedigrwydd dieithriaid.
"Mae trawsblaniad mêr esgyrn/bôn-gelloedd fel arfer yn dilyn triniaeth cemotherapi sydd wedi bod yn aflwyddiannus, felly mewn llawer o achosion, gall fod yn gyfle olaf i glaf wella’n llwyr. Dyma pam ei bod hi mor bwysig sicrhau bod gennym bobl ar y gofrestr sy’n barod i roi gwaed.
“Bob tro mae rhywun yn rhoi gwaed, rydych chi’n helpu’r claf ond hefyd, rydych chi’n helpu eu hanwyliaid fel Holly a’i theulu. Un enghraifft yn unig yw David o’r gwahaniaeth mae rhoddwyr yn ei wneud bob dydd.
“Rhoddwyr 17-30 oed sy’n cynnig y tebygolrwydd gorau posibl y bydd rhodd mêr esgyrn yn llwyddiannus, a dyna pam rydym yn annog pobl ifanc i fwcio sesiwn rhoi gwaed, ac i ofyn am gael ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru.”
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn derbyn tua 100,000 o roddion bob blwyddyn, er mwyn sicrhau ei fod yn gallu cyflenwi ei gynnyrch gwaed i 19 o ysbytai sydd mewn angen, i ddarparu triniaethau i gleifion.
Parhaodd Holly: “Ni fydd unrhyw beth yn gallu dod â fy nhad-cu yn ôl, ond roeddem yn gallu creu llawer o atgofion difyr, diolch i’r rhoddion a dderbyniodd, a alluogodd iddo adael yr ysbyty, a byw ei fywyd go iawn.”