Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Kelly’s bone marrow story

Stori Kelly

Yn 25 oed, cafodd Kelly ddiagnosis o ganser yng nghelloedd gwyn y gwaed. Yn ffodus, aeth Kelly ymlaen i gael trawsblaniad bôn-gelloedd a achubodd ei bywyd gan roddwr mêr esgyrn.

Dim ond un o'r miloedd o bobl sydd wedi cael ei bywyd wedi’i achub diolch i wirfoddolwyr sydd ar y gofrestr mêr esgyrn ydy Kelly.

Dyma pam ei bod hi mor bwysig bod pobl ar draws Cymru yn ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru i achub bywyd rhywun yn union fel Kelly.

Gallech chi fod yn rhoi gobaith i rywun arall y gallai pethau fod yn iawn eto.

Darllenwch stori Kelly

Fe gafodd Kelly Coombes, mam 28 oed o Gaerffili, ei diagnosio gyda lewcemia myeloid acíwt, sef canser celloedd gwyn y gwaed.

Ar ôl dwy rownd o gemotherapi i helpu i leddfu’r salwch, dywedwyd wrth Kelly mai ei chyfle gorau o oroesi oedd dod o hyd i roddwr mêr esgyrn addas a chael trawsblaniad bôn-gelloedd.

Ar ôl misoedd o driniaeth, derbyniodd Kelly’r newyddion bod rhywun oedd â’i fêr esgyrn yn cydweddu â hi wedi caei ei ddarganfod.

“Yn sydyn, pan mae popeth yn ofnadwy, rydych chi’n cael dipyn bach o obaith, ac rydych chi’n teimlo’n gryf eto. Mae’n rhoi rheswm ychwanegol i chi ymladd.”

Diolch byth, fe wnaeth y trawsblaniad mêr esgyrn weithio, ac fe wnaeth Kelly wella.

Ers derbyn y rhodd a achubodd ei bywyd, mae Kelly wedi gallu priodi ei phartner, ac roedd hi yno i fynd â’i merch fach i’w diwrnod cyntaf yn yr ysgol – digwyddiadau bywyd roedd hi’n ofni na fuasai fyth yn eu gweld cyn i’w rhoddwr gael ei ddarganfod.

Ar ôl blynyddoedd o geisio dod o hyd i’r geiriau cywir i ddiolch i’w rhoddwr, ysgrifennodd Kelly gerdd o’r galon i fynegi ei diolch am y rhodd a achubodd ei bywyd.

Ychwanegodd Kelly: “Bedair wythnos ar ôl i mi gael fy nhrawsblaniad, cefais weld fy merch. Ni allaf esbonio’r diwrnod hwnnw. Oherwydd fy rhoddwr, byddaf yma i’w gweld hi’n tyfu fyny.

“Os ydych chi’n cofrestru i ymuno â chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru, gallech chi fod yn rhoi’r gobaith hwnnw y gallai pethau fod yn iawn eto i rywun arall.”

Pam bod ymuno â'r gofrestr mêr esgyrn yn bwysig

Ar hyn o bryd, mae mwy na 20,000 o bobl yn gobeithio dod o hyd i roddwyr mêr esgyrn addas.

Mae Emma Cook, Pennaeth Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru, yn galw am fwy o bobl i ymuno â’r gofrestr a rhoi gwaed yn un o’r canolfannau rhoi gwaed ar draws Cymru: “Mae derbyn rhodd gan ddieithryn, fel y gwnaeth Kelly, yn fwy cyffredin nag ydyn ni’n feddwl. Dim ond 30 y cant o’r unigolion hynny sydd yn derbyn mêr esgyrn fydd yn cael y mêr esgyrn hynny gan aelod o’u teulu.

"Er bod nifer y gwirfoddolwyr mêr esgyrn yng Nghymru yn parhau i dyfu, mae'r siawns y bydd rhywun yn dod o hyd i rywun a allai achub eu bywyd yn parhau'n isel, a dyma pam ein bod ni angen mwy o roddwyr bob amser i ymuno â'r gofrestr o wirfoddolwyr mêr esgyrn.

“Gall unrhyw un sy’n 17-30 oed yng Nghymru ac sydd eisiau dod yn achubwr bywyd fynychu sesiwn rhoi gwaed Gwasanaeth Gwaed Cymru a gofyn ynghylch ymuno â’r gofrestr mêr esgyrn.”

Wrth gyfeirio at gerdd Kelly i’w rhoddwr, ychwanegodd Emma: “Mae’r penderfyniad ynghylch p’un ai ydy rhoddwr a chleifion yn dewis cyfarfod yn un eithriadol o emosiynol; mae llawer yn dewis aros yn anhysbys ac mae’n rhaid inni barchu eu dymuniadau i wneud hynny. Ar Ddiwrnod Rhoddwyr Mêr Esgyrn y Byd, rydyn ni’n siŵr bod miloedd o bobl allan yno sydd wedi derbyn mêr esgyrn, ac sy’n gallu uniaethu â cherdd Kelly ac adleisio ei geiriau hyfryd o ddiolch.”

Aged between 17 and 30? Join the register today and become a #ChilledOutLifesaver!

Request a swab kit

Sut allwch chi helpu i achub bywydau

Mae llawer o bobl fel Kelly, sy'n dibynnu ar wirfoddolwyr mêr esgyrn i gael triniaeth a allai achub eu bywyd. Er y gall rhai cleifion ddod o hyd i rywun sy’n cydweddu â nhw o fewn eu teulu, mae'n fwy cyffredin derbyn rhodd gan ddieithryn llwyr.

Dyna pam ei bod hi’n bwysig cael cymaint o bobl â phosibl i ymuno â'r gofrestr mêr esgyrn.

Kelly's daughter looking after her

Os ydych chi rhwng 17 a 30 oed, gallwch helpu rhywun yn union fel Kelly. I ddarganfod sut i wneud hyn, cliciwch ar y ddolen isod.

Ymunwch heddiw