Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Cymeradwyo tri brawd am helpu cannoedd o gleifion mewn angen

Mae tri dyn o’r Drenewydd, Powys yn annog mwy o bobl i roi gwaed. Gyda’i gilydd, maen nhw wedi rhoi 263 o roddion gwaed, ac wedi rhoi digon o waed i achub bywydau dros 700 o oedolion neu 1,500 o fabanod.

 

Mae Chris Reynolds, Mark Woodhouse a Dave Morris, sydd yn dod o dan y ffugenw “Powys blood brothers”, wedi ymrwymo degawdau i helpu cleifion mewn angen drwy roi gwaed gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru.

Ar ôl rhoi ei 101fed rhodd, taith sydd wedi cymryd bron i 50 mlynedd iddo, dywedodd Chris: “Rydyn ni gyd yn gwybod pa mor bwysig yw rhoi gwaed, a’r gwahaniaeth y bydd ein rhoddion wedi’i wneud i fywydau pobl eraill.

“Rwyf wedi mwynhau rhoi gwaed ers blynyddoedd bellach gyda Mark a Dave – mae’n ffordd wych o dreulio rhywfaint o amser gyda ffrindiau, ac rwy’n gobeithio y bydd hyn yn parhau am flynyddoedd i ddod. Mae fy nghyngor i bobl sy’n ystyried rhoi gwaed yn syml – ewch amdani.

“Mae’n gwneud i chi deimlo’n freintiedig i fod wedi gallu helpu rhywun pan maen nhw ei angen fwyaf.”

"Mae’r tri ohonom yn falch dros ben o fod wedi cyrraedd y garreg filltir hon, ac rydym yn edrych ymlaen at dorchi ein llewys am flynyddoedd i ddod"

Dave Morris

Bob dydd, mae angen tua 350 o roddion gwaed i gefnogi 20 o ysbytai ar draws Cymru. Mae rhoddion yn cael eu defnyddio i drin cleifion sydd ag amrywiaeth o gyflyrau, gan gynnwys mamau a babanod yn ystod genedigaeth, cleifion canser sy’n cael cemotherapi fel rhan o’u triniaeth, a chleifion yn ystod argyfyngau.

Rhoddodd Dave ei 73fed rhodd ar y diwrnod: “Mae’r tri ohonom yn falch dros ben o fod wedi cyrraedd y garreg filltir hon, ac rydym yn edrych ymlaen at dorchi ein llewys am flynyddoedd i ddod, gan ein bod ni wedi gosod targed i ni’n hunain o gyrraedd 300 o roddion gyda’n gilydd.”

Eglurodd Mark, rhoddwr ers dros 30 mlynedd, sut y daeth y triawd at ei gilydd ar ôl rhoi ei 89fed rhodd o waed: “Roedd Chris a finnau yn gweithio gyda’n gilydd yng Nghyngor Sir Powys, ac yn rhoi gwaed gyda’n gilydd yn rheolaidd. Ymunodd Dave â’r Cyngor wedyn ac yn ystod sgwrs, soniodd ei fod yn rhoddwr gwaed hefyd. Fe wnaethom ddarganfod ein bod ni wedi rhoi 180 o roddion gyda’n gilydd, felly penderfynodd y tri ohonom y buasem yn ceisio rhoi gwaed gyda’n gilydd.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru, Alan Prosser: “Mae rhoi gwaed yn gynnyrch na ellir ei gynhyrchu, sy’n golygu ein bod ni’n dibynnu ar bobl fel Chris, Mark a Dave i ddarparu gwasanaeth achub bywyd i gleifion ar draws Cymru.

“Mae rhoi gwaed gyda’ch gilydd yn ffordd wych o ddal fyny ag anwyliaid, ac mae’n cynnig cyfle unigryw i roi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned. Mae’r ffaith fod y tri dyn yma wedi rhoi gwaed cymaint o weithiau yn anhygoel. Rydym yn ddiolchgar dros ben am bob un o’u 263 o roddion cyfunol. Gyda’i gilydd, maen nhw o bosibl wedi achub cannoedd o fywydau drwy roi gwaed.

“P’un a yw’n well gennych roi gwaed ar eich pen eich hun neu gyda ffrindiau, ystyriwch ymuno â’n cymuned o achubwyr bywyd drwy ddod yn rhoddwr gwaed.”

Dewch o hyd i'ch sesiwn rhoi gwaed agosaf.

Gwnewch apwyntiad heddiw