Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Plant mewn clinig

Rydym eisiau darparu gwasanaeth lle rydych chi’n teimlo eich bod chi’n cael eich gwerthfawrogi ac yn ddiogel wrth roi rhodd achub bywyd. 

Oherwydd natur glinigol yr amgylchedd, gall clinigau rhoi gwaed gyflwyno peryglon, yn enwedig i blant sydd ddim yn cael eu goruchwylio’n ddigonol efallai tra bod eu rhiant neu ofalwr yn rhoi gwaed. Oherwydd y risgiau hyn, rydym yn annog rhoddwyr i beidio â dod â phlant gyda nhw i roi gwaed.

Rydym yn deall na ellir osgoi dod â phlant i glinig mewn amgylchiadau eithriadol. Oherwydd yr amrywiaeth o amgylcheddau rydym yn gweithio ynddynt a natur anrhagweladwy darpariaeth gofal iechyd, ni allwn greu ymateb safonol i bob rhoddwr a phob plentyn.

Yn hytrach, mae’n rhaid i ni seilio ein penderfyniadau ar asesiad risg, sydd yn cael ei gynnal gan y nyrs sy'n gyfrifol am y clinig ar y pryd, a allai arwain at fethu â rhoi gwaed gyda phlentyn neu blant yn bresennol. O ganlyniad, efallai y bydd yn rhaid i chi ail-drefnu eich apwyntiad ar gyfer dyddiad yn y dyfodol.

Ein cyngor.

  • Os ydych chi'n bwriadu rhoi gwaed, ceisiwch fynychu ar eich pen eich hun.
  • Dylai oedolion sy'n mynychu gyda phlant fod yn ymwybodol na fyddwch efallai yn gallu rhoi gwaed, yn seiliedig ar asesiad risg unigol y nyrs ar y diwrnod.
  • Er mwyn darparu'r tebygolrwydd gorau o gael eich derbyn mewn clinig, rydym yn annog oedolion yn gryf i gael cyswllt brys yn barod i gasglu'r plentyn yn y digwyddiad annhebygol y byddai angen hyn.

Byddwch yn ymwybodol, oherwydd nad oes llawer o le ar gerbydau rhoi gwaed (trelars), dim ond rhoddwyr gwaed sy'n cael eu caniatáu ar y trelar.