Sut i wneud cwyn am unrhyw agwedd ar ein gwasanaeth
The Welsh Blood Service aims to provide a quality service to everyone who uses our services. This includes blood donors, donors who are also registered on the Welsh Bone Marrow Donor Register and the Hospitals to whom we supply blood and blood products.
Mae gennych hawl i gwyno am unrhyw agwedd ar unrhyw rai o’r gwasanaethau y byddwch yn eu derbyn gennym. Rydym yn croesawu cwynion gan y byddwn yn defnyddio’r adborth i’n helpu i wella ein Gwasanaeth.
Ni fydd gwneud cwyn yn cael effaith wael ar y gofal neu’r gwasanaeth y byddwch yn ei dderbyn. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddelio gydag unrhyw feirniadaeth o’n gwasanaeth yn unol â’ch disgwyliadau, drwy sicrhau y bydd ein staff yn ymateb ar unwaith gan ddarparu esboniad ac ymddiheuriad. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu nad oes gennych yr hawl i wneud cwyn ffurfiol.
Sut i wneud cwyn ffurfiol am ein gwasanaeth
Y Cyfarwyddwr yw’r Rheolwr Cwynion ar gyfer Gwasanaeth Gwaed Cymru. Gellir gwneud cwynion ar lafar i unrhyw aelod o staff neu’n ysgrifenedig (mae cyflwyno cwynion ar ffurf neges e-bost yn dderbyniol). Dylid cyfeirio cwynion ysgrifenedig at:
Y Cyfarwyddwr
Gwasanaeth Gwaed Cymru
Heol Cwm Elái
Tonysguboriau
Pontyclun CF72 9WB
neu drwy e-bost: donor.care@wales.nhs.uk