Dyddiadur Rhoddwr (4) gan Dan Wagstaff

Cytunodd Dan yn garedig i gofnodi ei daith fel rhoddwr mêr esgyrn a byddwn yn rhannu ei brofiad drwy gydol yr wythnos hon.

Y Diwrnod Mawr!

Ar ôl noson ddigwsg i’r ddau ohonom, mae fy larwm yn canu am 5am. Rwy’n mynd am gawod yn dawel ac yn gwisgo amdanaf. Mae Mia wedi deffro. Rwy’n dweud wrthi y byddaf yn ei gweld yn hwyrach ac yn rhoi sws iddi. Rwy’n mynd i lawr y grisiau i aros am fy nhacsi.

Dim ond 5.30am yw hi ac nid yw’r tacsi’n cyrraedd tan 5.45am, mae’r porthor nos yn fy nghyfarch ac yn gofyn a wyf yn mynd i’r gwaith? Rwy’n egluro fy mod yn mynd i Ysbyty St. Joseph gan fy mod yn rhoi mêr esgyrn. Mae’n cynnig paned o de i mi, ond mae’n rhaid i mi ei wrthod yn anffodus. Dydw i ddim yn cael bwyta nac yfed dim, meddaf wrtho. Mae’n dymuno’n dda i mi, mae fy nhacsi’n cyrraedd, ac i ffwrdd â mi.

Ar ôl cyrraedd yr ysbyty, caf fy nghyfarch gan Caroline, y cydgysylltydd a fydd yn gofalu amdanaf yn ystod fy nghyfnod byr yno. Y peth cyntaf mae’n ei ddweud wrthyf yw, sut wyt ti? Sut mae dy wraig? Mae Caroline wedyn yn fy nhywys i’m hystafell lle rwy’n eistedd ac yn aros i gael fy nghlercio.

Rwy’n cael gŵn hynod ddeniadol i’w wisgo gan ei bod yn agosáu at amser y driniaeth. Rwy’n rhoi gwaed unwaith eto cyn i Helen ymddangos i ddweud helo. Mae’n braf gweld wyneb cyfarwydd ac mae gwybod ei bod yno yn rhoi tawelwch meddwl i mi. Rwy’n ymgartrefu yn fy ystafell ac yn gwylio ychydig o deledu boreol. Rwy’n cyfnewid nifer o negeseuon testun â Mia yn dymuno’n dda wrthyf gan ei bod bellach wedi codi ac yn paratoi i ddod i’r ysbyty.

Ydy popeth yn mynd yn iawn? Dwi’n dy garu di, wela i ti wedyn x

Ydy, popeth yn mynd yn dda! Dwi yn fy ngŵn, mae’r doctor newydd alw heibio a dwi wedi rhoi gwaed. Wyt ti’n iawn? x

Meddylia, pa mor ofnus bynnag rwyt ti’n ei deimlo nawr, dychmyga pa mor bryderus ac ofnus mae’r derbynnydd yn ei deimlo. Cofia, alli di wneud hyn a bydda i yno gyda ti bob cam o’r ffordd. Dwi’n edrych ‘mlaen at dy weld pan fyddi di wedi deffro x

Mae’n 7.30am ac mae’r nyrs wedi dod i gerdded gyda mi i’r theatr. Rwy’n cwrdd â’r tîm ac yn cael fy anesthetig.

Mae Mia yn cadw fy nyddiadur nes i mi ddeffro yn yr ystafell Adfer…

Mae’n 10.10am ac roedd y daith draw yn y tacsi yn teimlo fel pe bai’n cymryd oesoedd, y cyfan y gallwn feddwl amdano oedd a fyddai Dan yn iawn, a gobeithio y bydd y driniaeth yn mynd yn dda iddo ef a’r derbynnydd. Yn St. Josephs, caf fy nghroesawu yn y dderbynfa a’m tywys i ystafell breifat Dan, lle caf gynnig paned o de i leddfu’r nerfau a’r cyfle i wylio’r teledu, rwy’n credu y byddai unrhyw beth yn helpu ar hyn o bryd gan fod yr amser fel pe bai’n mynd heibio mor araf. Alla i ddim aros i weld Dan yn ôl yn ei ystafell.

11.20am Mae fy ngŵr cysglyd iawn yn cael ei dywys mewn cadair olwyn drwy’r drws, a’r peth cyntaf mae’n ei ddweud yw “Wnaethoch chi lwyddo i gael digon o fêr ersgyrn? Aeth popeth yn iawn?” “Do”, meddai’r nyrs, gan edrych arnaf â gwên gynnes. Mae fy nghalon yn codi gan fod hynny’n dweud y cyfan am fy ngŵr, bob amser yn meddwl am eraill. Rwyf i a’r teulu yn falch iawn ohono ac rwy’n gwybod ei fod yn gobeithio y bydd y trawsblaniad yn gweithio ac y bydd yn cael newyddion da am sut mae’r derbynnydd yn ei wneud.

Dwi nôl!

Dydw i ddim yn cofio llawer am ddychwelyd i’m hystafell, ond mae Mia wedi dweud wrthyf fy mod wedi gofyn i’r nyrs a oeddent wedi cymryd digon ac a oedd popeth yn iawn? Cawsom yr union ymateb yr oeddem ei eisiau. “Do, gawson ni popeth oedd ei angen.”

Rwy’n gorwedd yn y gwely gyda Mia’n eistedd wrth fy ochr yn cymryd llun ac yn ei bostio ar facebook er mwyn rhoi’r diweddaraf i ffrindiau a theulu. Mae’n braf cael bod nôl yn yr ystafell gyda Mia. Mae gen i rwymyn mawr gwyrdd ar fy llaw chwith heb unrhyw esboniad pam. Caf wybod wedyn eu bod wedi cymryd mwy o waed i’w brofi pan oeddwn yn y theatr.

Doedden ni ddim yn gwybod beth fyddai’n digwydd nesaf o ran y derbynnydd. Ond wrth i’r anesthetig dreulio, rwy’n cofio gweld Helen cyn y driniaeth gyda phecyn teithio arbennig ar gyfer fy mêr esgyrn. Byddai’n mynd ag ef yn ôl i Lantrisant. Gobeithio y cawn newyddion yn fuan.

Roedd yr holl bryder a nerfau cyn y driniaeth bellach wedi diflannu. Daeth y nyrsys i brofi fy mhwysedd gwaed a’m tymheredd drwy gydol y dydd. Dydw i ddim mewn poen a doedd y driniaeth ddim yn un boenus fel y byddai llawer o bobl yn ei dybio. Byddwn yn disgrifio’r teimlad sydd gennyf fel poen ysgafn bob ochr i’r pelfis. Paned o de a siocled ac rwy’n eistedd i fyny yn y gwely. Mae Mia’n dweud wrthyf fod gennyf ddau blastr gwyn ar fy nghefn.

Mae Mia wedi bod yn graig drwy’r broses gyfan ac roedd yn gysur mawr ei chael hi gyda mi. Dydw i ddim yn siŵr a allwn fod wedi ei wneud hebddi.

Wrth i’r diwrnod fynd heibio, darllenodd Mia sylwadau gan ffrindiau a theulu a oedd wedi gweld diweddariadau rheolaidd ar facebook, ac roedd yn braf eu clywed. Byddem, gobeithio, yn mynd adref gyda’r nos. Croesi bysedd.

Daw Caroline, cydgysylltydd yr ysbyty i mewn ac mae’n gofyn sut mae pethau ac a oes unrhyw beth sydd ei angen arnom ac a oes angen iddi drefnu cludiant adref ar ein cyfer. Mae’n dweud y bydd yn galw heibio eto mewn dwy awr i weld sut mae pethau, ac os bydd popeth yn dda, byddwn yn gallu mynd adref.

Ddwy awr yn ddiweddarach…rwyf wedi codi ac rwy’n teimlo’n barod i fynd adref. Daw’r nyrs i mewn i newid fy nresin ac mae Caroline yn galw heibio eto fel yr addawodd. Mae’n gofyn sut mae pethau ac yn dweud y gallaf fynd adref.

Diwrnod 1 ar ôl rhoi…

Rwy’n gwella’n dda gartref gyda Mia. Rwy’n teimlo ychydig yn stiff ac mae fy nghefn ychydig yn boenus. Dim byd na all poenladdwyr ysgafn ei reoli. Rwy’n synnu pa mor dda rwy’n ei deimlo. Roeddwn yn meddwl ar ôl cael triniaeth i roi mêr esgyrn y byddwn mewn tipyn o boen, ond roedd Helen yn iawn pan roddodd sicrwydd i mi. Dyma’r boen ysgafn arferol sydd i’w ddisgwyl. Rwy’n teimlo ychydig yn flinedig sydd unwaith eto i’w ddisgwyl felly rwy’n mwynhau gwella adref.

Daeth cnoc annisgwyl ar y drws y prynhawn yma. Roedd negesydd yno a gofynnodd Mia a oeddwn wedi archebu unrhyw beth ar-lein am fod ganddo focs hir mawr. Ar ôl agor y bocs dirgel, gwelsom focs mawr o siocledi. Gallwch ddychmygu ein syndod! Gan feddwl tybed gan bwy ydoedd, gwelsom sticer ar y bocs yn dweud wrthym am ei bilio’n ôl i weld y neges. Roedd y neges yn darllen…

“Diolch o galon oddi wrth holl staff Cofrestra Mêr Esgyrn Cymru”

Cawsom bwl o emosiwn wrth weld y neges. Roedd rhywbeth arbennig iawn am weld y geiriau syml hynny ar y nodyn, DIOLCH O GALON! Roeddwn wrth fy modd!

Wrth i’r dyddiau fynd heibio ar ôl rhoi, lleddfodd y boen yn fy nghefn. Roeddwn yn mynd o gwmpas fy mhethau yn fy nghar. Saith diwrnod ar ôl rhoi cefais alwad ffôn gan Helen yn gofyn sut oeddwn i. Roeddwn yn teimlo’n dda ac yn bwriadu dychwelyd i’r gwaith y dydd Llun canlynol. Dywedodd Helen y byddai’n ffonio eto ymhen wythnos i weld sut rwy’n teimlo.

Nawr fy mod yn ôl yn y gwaith, mae popeth yn dychwelyd i’r arfer. Mae’r ffrindiau a’r teulu hynny sy’n ymwybodol o’r hyn rwyf wedi ei wneud yn gofyn sut rwy’n teimlo ac yn fy llongyfarch. Dydw i ddim bob amser yn gwybod sut i ymateb ond rwyf bob amser yn dweud fy mod yn gobeithio y bydd popeth yn gweithio allan i’r derbynnydd, pwy bynnag ydyw. Y cyfan y gallwn ei wneud yw aros a gobeithio, mewn ychydig fisoedd, y caf wybod y diweddaraf gan y Tîm Rhoi.

Mae gallu rhoi ail gyfle i rywun mewn bywyd yn deimlad anhygoel. Mae tipyn o amser i fynd tan y Nadolig o hyd. Ond rwy’n bendant yn teimlo fel bod y Nadolig wedi cyrraedd yn gynnar ac fy mod wedi gallu rhoi ail gyfle i rywun, sef y rhodd fwyaf bosibl. Ni chostiodd y rhodd hon ddim i’w rhoi, ond mae’n rhodd amhrisiadwy.

I’r Derbynnydd

Gobeithio, rhyw ddydd yn y dyfodol, y caf y newyddion rydym wedi bod yn aros amdano, sef bod y rhodd hon wedi gweithio ac fy mod wedi gallu rhoi’r help yr oedd ei angen arnoch. Wn i ddim eich enw, na ble rydych chi’n byw, ond rwyf am i chi wybod eich bod wedi bod yn fy meddyliau bob dydd drwy’r broses hon ac fy mod wedi dymuno’n dda i chi bob cam o’r ffordd ac wedi gobeithio bod y rhodd hon wedi bod yn llwyddiannus. Gobeithio, un dydd, y gallwn gysylltu â chi, er mwyn i mi allu dweud hyn wrthych…

Pob lwc ar weddill eich taith!