Dyddiadur Rhoddwr (3) gan Dan Wagstaff

Cytunodd Dan yn garedig i gofnodi ei daith fel rhoddwr mêr esgyrn a byddwn yn rhannu ei brofiad drwy gydol yr wythnos hon.

9, 8, 7 diwrnod i fynd…

Galwad ffôn gan Walter…

“Dyma dy archwiliad 7 diwrnod cyn rhoi. Sut wyt ti’n teimlo?”

Ateb: Rwy’n teimlo’n wych ac yn barod amdani!

Yn y bôn: Cyffro Nerfus!

6, 5, 4 diwrnod i fynd…

Mae’r newyddion ar led! Mae fy nheulu a’m ffrindiau bellach yn ymwybodol o’r hyn rwy’n ei wneud a does dim cuddio ohono mwyach. Mae’r dymuniadau da gan bobl ar y stryd ac yn y gwaith yn drech na mi. Maen nhw’n dweud fy mod i’n ddewr. Dydw i ddim yn teimlo’n ddewr. Rwy’n dweud fy mod yn falch fy mod yn cydweddu ac yn gallu helpu rhywun. Dydw i ddim yn hoffi bod yn ganolbwynt y sylw, ond does gen i ddim dewis.

Tŷ mam am ginio dydd Sul!

Bob wythnos, mae pawb yn mynd i dŷ mam am ginio dydd Sul. Roedd y cinio hwn ychydig yn wahanol gan mai testun y drafodaeth unwaith eto oedd fi! Fy ymateb oedd…

“Sut allwn i ddisgwyl i rywun helpu un ohonon ni os nad ydw i’n barod i helpu rhywun sydd mewn angen fy hun!”

Tawelwch am y tro cyntaf erioed, daw deigryn i lygad Mam…‘Fy machgen dewr!”

Mae fy ngwraig, Mia, yn egluro’r driniaeth i Mam ac yn dweud wrthi am beidio â phoeni. Bydd hi gyda mi bob cam o’r ffordd. Bydd Mia yn cadw mewn cysylltiad â mam drwy gydol diwrnod y driniaeth.

3, 2, 1 diwrnod i fynd…

Rwyf wedi gorffen gwaith, wedi cael dymuniadau da gan bawb yn y swyddfa, mae’r bagiau wedi’u pacio, y gath wedi’i bwydo ac mae fy nhad yng nghyfraith y tu allan yn y car! Rwy’n credu bod Mia wedi pacio am wythnos, nid noson!

Rydym yn cyrraedd ein llety dros nos yng Nghwmbrân. Mae’n rhaid i mi gael noson gynnar, dim bwyd na diod o 10pm ymlaen. Hen dro! Dim gwasanaeth ystafell i mi!