Drwy ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru, rydych yn cynyddu'r siawns y bydd rhywun sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn yn dod o hyd i rywun sy’n cydweddu â nhw, a chael ail gyfle mewn bywyd.
Beth yw Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru?
Panel o roddwyr ydy Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru, sydd wedi gwirfoddoli i fod yn rhoddwyr mêr esgyrn neu fôn-gelloedd gwaed perifferol. Rydym yn pori drwy’r panel bob dydd i geisio dod o hyd i roddwyr y mae eu math o feinwe yn cydweddu’n agos â chleifion sydd angen mêr esgyrn neu drawsblaniadau bôn-gelloedd gwaed perifferol sy'n achub bywydau.
Beth yw trawsblaniad mêr esgyrn?
Triniaeth feddygol ydy trawsblaniad mêr esgyrn, sy'n disodli celloedd gwaed sydd wedi'u difrodi gyda rhai iach. Mae trawsblaniadau mêr esgyrn yn cael eu galw’n drawsblaniadau bôn-gelloedd hefyd, ac maen nhw’n cael eu defnyddio i drin mathau penodol o ganserau a chlefydau gwaed a’r system imiwnedd eraill sy'n effeithio ar y mêr esgyrn.
Pwy sydd angen trawsblaniad bôn-gelloedd?
Fel arfer, trawsblaniadau bôn-gelloedd yw cyfle olaf person i fyw. Maen nhw’n cael eu perfformio pan nad yw unrhyw driniaeth arall wedi helpu. Mae trawsblaniad mêr esgyrn yn gallu trin cleifion â chlefydau a chyflyrau yn llwyddiannus ym mêr yr esgyrn sy'n effeithio ar y celloedd gwaed, fel:
- Lewcemia
- Lymffoma
- Myeloma
- Anemia aplastig difrifol (methiant y mêr esgyrn)
- Anhwylderau’r gwaed, system imiwnedd a metabolig penodol.