Profi'n bositif am Covid-19
Os ydych chi wedi profi’n bositif am COVID-19, gallwch roi gwaed pan fydd o leiaf 7 diwrnod wedi mynd heibio ar ôl i chi wella o’ch symptomau. Efallai y cewch eich gadael gyda pheswch sych, ond cyn belled â’ch bod chi’n teimlo’n dda, gallwch roi gwaed wedyn.
symptomau Covid-19 ond heb gael prawf
Os ydych chi wedi cael symptomau Covid-19 ond heb gael prawf, gallwch roi gwaed pan fydd o leiaf 7 diwrnod wedi mynd heibio ar ôl i chi wella o’ch symptomau.
Os ydych chi’n profi symptomau ‘Covid Hir’, ar gyfer eich iechyd a’ch lles eich hun, peidiwch â rhoi gwaed nes eich bod chi’n heini ac iach.
Cysylltwch â ni i drafod unrhyw faterion cardiaidd rydych chi wedi’u profi o ganlyniad i Covid-19 cyn gwneud eich apwyntiad.
Ym mhob achos, os byddwch yn rhoi gwaed, mae’n bwysig eich bod chi’n rhoi gwybod am unrhyw afiechydon rydych chi’n eu datblygu yn y 14 diwrnod ar ôl rhoi gwaed.