Mae rhoi gwaed yn gyflym, yn syml ac yn ddiogel ac mae’n cymryd rhwng 45 a 60 munud.
Mae rhywun yn rhywle yn dibynnu arnoch i roi gwaed.
Gallai fod yn glaf sydd â chanser neu lewcemia, yn fam feichiog, yn faban newydd-anedig, yn glaf sydd ar fin cael llawdriniaeth ar y galon neu yn rywun sydd wedi bod mewn damwain ffordd.
Gallai fod angen gwaed ar unrhyw un yn ystod ei fywyd. Chi efallai. Neu eich teulu. Neu ffrind.
Cofrestrwch heddiw a helpwch i achub bywydau cleifion yng Nghymru!
Sylwer – os ydych chi’n rhoddwr gwaed yng Ngogledd Cymru sydd wedi rhoi gwaed cyn hynny gyda Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG, bydd eich manylion wedi cael eu trosglwyddo drosodd i ni, ac ni fydd rhaid i chi gofrestru.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys i roi gwaed drwy fynd i’r adran ‘Ydw i’n gymwys?’ ar y wefan.
Os ydych yn ferch rhwng 17 a 19 oed, ewch i’r adran Cwestiynau Cyffredin am ragor o wybodaeth.