Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Rhoi gwaed

Rhoi gwaed yng Nghymru

Oeddech chi'n gwybod bod angen 350 o roddion y dydd ar ysbytai yng Nghymru i gefnogi cleifion mewn angen? Allwn ni ddim cyflenwi ein hysbytai yng Nghymru hebddoch chi!

Mae rhoi gwaed yn gyflym, yn syml ac yn gwbl ddiogel. Ac, y rhan orau? Rydych chi'n achub bywydau.

Donor before giving blood
Welsh flag

Rydym eich angen chi

Rydym angen rhoddwyr gwaed o bob cefndir i roi gwaed i ateb y galw dyddiol, ac i sicrhau bod gennym ddigon ar gyfer cleifion mewn ysbyty. Mae dim ond un rhodd o waed yn gallu helpu hyd at dri chlaf, gan y gellir ei rannu'n wahanol gydrannau a'i defnyddio mewn gwahanol ffyrdd i helpu cleifion i wella.

Boed yn rhoi gwaed am y tro cyntaf neu'n rhoddwr gwaed yn barod, yma, gallwch ddod o hyd i bopeth rydych chi angen ei wybod am roi gwaed.

Y manteision o roi gwaed

Rydych chi’n achub bywydau

Mae rhoi gwaed yn un o'r rhoddion mwyaf anhunanol y gallwch ei roi i berson arall. Drwy roi gwaed, mae'n bosibl eich bod chi’n achub bywydau ac yn helpu cleifion sydd â chyflyrau penodol i wella ac arwain bywyd normal.

Rydych wedi helpu i achub bywydau llawer o bobl ers degawdau, drwy roi gwaed. Darllenwch rai o'r straeon ysbrydoledig gan bobl ar draws Cymru sydd wedi cael ail gyfle mewn bywyd.

Rydych chi’n teimlo’n dda!

Does dim byd tebyg i'r teimlad o roi gwaed; a gwybod eich bod chi’n helpu cleifion sydd angen eich rhodd hael o waed. Hefyd, wnaethon ni sôn bod dewis o ddiodydd a danteithion llawn siwgr ar gael ar ôl i chi roi gwaed, i helpu eich corff i adfer?
Dysgwch fwy am y manteision o roi gwaed ar ein tudalen pam rhoi gwaed.

Pwy sy’n cael rhoi gwaed?

Rydym yn annog ac yn croesawu'r rhan fwyaf o oedolion i roi gwaed. Mae rhywfaint o resymau pam nad ydy pobl yn gallu rhoi gwaed, ond nid cymaint ag y mae pobl yn ei feddwl! Gallai unrhyw un sy'n cyd-fynd â'r meini prawf isod roi gwaed:
Os ydych chi:

  • Rhwng 17 a 66 oed (ar gyfer eich rhodd gyntaf)
  • Yn pwyso dros 7 stôn 12 pwys (50kg)
  • Yn iach a dim yn destun eithriadau meddygol

Ewch i'n tudalen: A gaf i roi gwaed? i wirio os ydych chi’n gymwys i ymuno â’n tîm achub bywyd!

Gwybodaeth i roddwyr gwaed

Rydym eisiau i'r profiad o roi gwaed fod mor hawdd, diogel a dymunol â phosib i chi. Dilynwch y camau isod i gael rhagor o arweiniad, cyngor a gwybodaeth am roi gwaed.

Cam 1: Dechrau ar eich taith achub bywyd

Dewch o hyd i’ch sesiwn rhoi gwaed agosaf

Cliciwch ar y ddolen i wirio eich cymhwysedd, ac i ddod o hyd i'ch sesiwn rhoi gwaed agosaf.

A gaf i ddod â rhywun gyda fi pan dwi’n rhoi gwaed?

Am resymau diogelwch rydym yn gofyn, ble’n bosibl, mai dim ond y rheiny sy’n rhoi gwaed sy’n dod i mewn i’r sesiwn rhoi gwaed

Rydym yn deall na ellir osgoi dod â phlant i glinig mewn amgylchiadau eithriadol. Oherwydd yr amrywiaeth o amgylcheddau rydym yn gweithio ynddynt a natur anrhagweladwy darpariaeth gofal iechyd, ni allwn greu ymateb safonol i bob rhoddwr a phob plentyn....darllen mwy.

Alla i ddim dod o hyd i apwyntiad yn agos ataf i.

Rydym yn gwneud ein gorau glas i ymweld â phob ardal ar draws Cymru, ac rydym yn diweddaru'r wefan yn aml gydag apwyntiadau newydd. Gwiriwch eto mewn 30 diwrnod neu cliciwch yma i gofrestru a derbyn gwahoddiad y tro nesaf y byddwn yn eich hardal.

Pa mor hir mae'n ei gymryd i roi gwaed?

Mae'r broses gyfan yn cymryd tua 45-60 munud, o'r amser y byddwch yn cyrraedd y ganolfan i'r amser y byddwch yn gadael. Mae'n cymryd rhwng 5 a 10 munud i roi gwaed.

Beth ddylwn i ei fwyta a'i yfed cyn rhoi gwaed?

Rydym yn eich cynghori i fwyta ac yfed yn rheolaidd cyn rhoi gwaed, i gadw eich lefelau siwgr gwaed yn sefydlog. Dylech gael byrbryd ac yfed dŵr yn syth ar ôl rhoi gwaed hefyd, er mwyn osgoi teimlo fel llewygu neu deimlo pendro.

Ydy hi'n iawn i mi wneud ymarfer corff cyn rhoi gwaed?

Rydym yn awgrymu eich bod chi’n osgoi gwneud gormod o ymarfer corff cyn ac ar ôl rhoi gwaed. Mae gwneud rhywfaint o ymarfer corff ysgafn fel cerdded yn iawn – cofiwch yfed digon.

Beth ddylwn i ei wisgo i roi gwaed?

Wrth roi gwaed, mae angen i ni gael mynediad hawdd i'r gwythiennau, felly rydym yn argymell eich bod chi’n gwisgo rhywbeth cyfforddus gyda llewys rhydd, fel ei bod hi’n hawdd rholio'ch llewys heibio eich penelin.

Faint o waed ydw i’n rhoi?

Fel arfer, rydym yn cymryd ychydig o dan beint o waed (475ml), gyda samplau ychwanegol i'w profi.

Dim yn barod i wneud apwyntiad?, Cofrestrwch yma os nad ydych chi wedi gwneud hynny’n barod, i gael gwahoddiad y tro nesaf y byddwn yn eich ardal.

Cliciwch yma.

Cam 2: Beth ddylech chi wneud ar y diwrnod y byddwch chi’n rhoi gwaed

Mae’n rhaid i chi ddilyn rhywfaint o gamau cyn gwirfoddoli i roi gwaed.

Cofrestru eich manylion

Ar ôl i chi gyrraedd y clinig, bydd angen i ni gofrestru eich manylion. Bydd aelod o'n tîm yn rhoi’r Holiadur Gwirio Iechyd Rhoddwyr i chi i'w gwblhau, a fydd yn rhoi mwy o wybodaeth i ni am eich iechyd cyffredinol, eich hanes teithio a’ch ffordd o fyw, ac a fydd yn ein helpu i wneud yn siŵr eich bod chi’n ffit ac yn iach i roi gwaed.

Gwirio lefelau eich haearn

Byddwn yn cymryd diferyn o waed o ben eich bys i fesur eich lefel hemoglobin (haearn), ac yn gwirio ei fod o fewn yr ystod dderbyniol.

Rhoi gwaed

Nawr mae'n amser rhoi gwaed! Fel arfer, mae’n cymryd rhwng pump a deng munud i roi gwaed.

Cam 3: Gorffwys

Ar ôl i chi orffen rhoi gwaed, mae'n amser gorffwys gyda diod a bisged (neu ddau!), sef hoff ran pawb, gan wybod eich bod chi wedi gwneud rhywbeth anhygoel.

Pa mor aml allwch chi roi gwaed?

Mae amseroedd aros gwahanol ar gyfer menywod a dynion sy'n rhoi gwaed. Mae’n rhaid i roddwyr gwrywaidd aros am o leiaf 12 wythnos rhwng rhoi gwaed, a gallant roi gwaed hyd at bedair gwaith mewn blwyddyn galendr.

Mae’n rhaid i fenywod aros am o leiaf 16 wythnos lawn rhwng rhoi gwaed, a gallant roi gwaed hyd at dair gwaith mewn blwyddyn galendr.

Donor before giving blood

Yn barod i roi gwaed? Trefnwch apwyntiad i roi gwaed sy'n achub bywydau yn eich ardal chi.

Dechreuwch yma

Achubwch fywydau.

Gwnewch apwyntiad i roi gwaed.

Gwnewch apwyntiad i roi gwaed.