Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gymwys i roi gwaed ond byddwn yn sicrhau bob tro nad oes unrhyw resymau pam na ddylem gymryd gwaed gennych. Mae’n rhaid i ni ofalu amdanoch yn dda pan fyddwch yn rhoi gwaed er mwyn sicrhau eich diogelwch chi a diogelwch unrhyw gleifion a allai dderbyn eich gwaed.
Er mwyn dod yn rhoddwr gwaed rhaid eich bod
- Yn iach yn gyffredinol
- Dros 17 oed ac yn iau na 66 oed (pan fyddwch yn rhoi gwaed am y tro cyntaf)
- Yn pwyso o leiaf 50kg (7 stôn a 12 pwys)
Cliciwch yma i weld canllawiau dethol rhoddwyr cyfredol y DU
Os rhoddwch enw’r wlad rydych yn bwriadu ymweld â hi, neu wedi ymweld â hi yma, gallwch weld a ydych yn debygol o gael eich gohirio rhag rhoi gwaed neu beidio.