Mae angen gwaed o hyd
Mae rhywun yn rhywle yn dibynnu arnoch i roi gwaed
Mae rhoi gwaed yn broses pedwar cam syml

Cam 1
Yn gyntaf, mae angen i ni eich cofrestru. Yna bydd aelod o’n tîm yn dangos sut i ddefnyddio’r ddyfais sgrîn gyffwrdd er mwyn cwblhau Holiadur Iechyd Rhoddwyr, sy’n dweud wrthym am eich iechyd cyffredinol a’ch ffordd o fyw. Rydym eisiau gwneud yn siŵr eich bod yn ffit ac yn ddigon iach i roi gwaed a bod eich gwaed yn ddiogel i’w roi i glaf. Bydd aelod o staff yn trafod yr holiadur iechyd gyda chi yn gwbl gyfrinachol er mwyn asesu a ydych yn addas.

Cam 2
Bydd diferyn o waed yn cael ei gymryd o flaen eich bys er mwyn mesur eich lefelau hemoglobin (haearn) a gwneud yn siŵr eu bod yn dderbyniol.

Cam 3
Yna cymerir eich rhodd gwaed, sy’n para rhwng 5 a 10 munud. Ein nod yw cymryd 475ml (ychydig o dan beint) ac ychydig o samplau ychwanegol i’w profi. Bydd ein staff yn cadw llygad barcud arnoch i wneud yn siŵr bod popeth yn iawn.

Cam 4
Nawr, mae’n amser gorffwys a chael diod a bisged. Mae rhoi gwaed yn gyflym, yn syml ac yn ddiogel. Mae’r broses gyfan, o’r amser y byddwch yn cyrraedd nes byddwch yn gadael, yn cymryd rhwng 45 a 60 munud.
Cofrestrwch heddiw
Nid ydych chi fyth yn gwybod bywyd pwy y gallech fod yn ei achub drwy roi gwaed. Mae’n braf gwybod, bob tro rydych yn rhoi gwaed, y gall un rhodd gael ei rhannu ac y gallech o bosibl achub bywyd tri o bobl!