Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Clefydau heintus

Nid yw llawer o glefydau'n heintus ac felly, nid ydynt fel arfer yn peri risg, ond gellir trosglwyddo rhai clefydau heintus drwy roddion gwaed, hyd yn oed cyn i roddwr posibl ddatblygu unrhyw symptomau o'r haint.

Gall hyn arwain at haint difrifol yn y person sy'n derbyn rhodd.

Clefydau heintus

  • Y Frech Goch
  • Clwy’r Pennau
  • Brech yr Ieir
  • Yr Eryr
  • Brech Goch yr Almaen

Gallwch roi gwaed cyhyd â’ch bod chi wedi gwella’n llwyr ers pythefnos neu fwy.

    Os ydych chi wedi dod i gysylltiad ag unrhyw un sydd â chlefyd heintus ac nad ydych erioed wedi cael y clefyd, mae’n rhaid i chi aros pedair wythnos cyn rhoi gwaed.

Brech y mwncïod

Os ydych chi wedi cael brech y mwncïod neu wedi dod i gysylltiad â brech y mwncïod, cysylltwch â ni i weld a ydych yn gymwys i roi gwaed cyn i chi wneud apwyntiad.

Dim yn gallu darganfod beth ydych chi’n edrych amdano ar-lein?

Cysylltwch heddiw