Cleifion Covid-19 yn cael eu hannog i roi plasma drwy broses newydd arloesol

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn galw ar ddynion sydd wedi cael prawf Covid-19 positif ac sydd wedi gwella o’r feirws, i helpu’r GIG gyda’r posibilrwydd o achub bywydau drwy roi eu plasma.

Ar hyn o bryd, mae dau dreial clinigol mawr yn y Deyrnas Unedig, sef RECOVERY a REMAP-CAP, wrthi’n archwilio p’un a ellir defnyddio plasma llawn gwrthgyrff o gleifion Covid-19 sydd wedi gwella, i drin cleifion sy’n ymladd yn erbyn y feirws.

Mae plasma gan gleifion sydd wedi gwella o COVID-19 yn gallu cynnwys gwrthgyrff a gynhyrchwyd pan oedd system imiwnedd y claf yn ymladd y feirws. Mae’r treialon clinigol yn archwilio effaith trosglwyddo’r plasma hwn i gleifion ysbyty sydd fwyaf sâl gyda Covid-19.

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi bod yn casglu plasma o roddion gwaed ers mis Mai. Nawr, mae’n bosibl casglu plasma yng Nghymru hefyd yn defnyddio proses plasmafferesis arbenigol, sy’n dychwelyd y gwaed yn ôl i’r rhoddwyr ar ôl tynnu’r plasma.

Dywedodd Alan Prosser, cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru: “Drwy roi eu plasma, mae cleifion yng Nghymru yn cael cyfle i gyfrannu at ymchwil a allai helpu i ddod o hyd i driniaeth ar gyfer Covid-19.

“Rydym yn gyffrous iawn o fod yn casglu plasma nawr drwy broses o’r enw plasmafferesis, gan y bydd yn ein galluogi i dderbyn mwy o roddion gan bob unigolyn drwy’r dull hwn. Ein hamcan ar hyn o bryd ydy casglu cymaint ag y gallwn i roi popeth sydd ei angen ar yr ymchwilwyr i ddatblygu’r gwaith hynod bwysig hwn.

“Dim ond rhoddwyr sydd wedi derbyn llythyr gwahoddiad neu SMS gan Iechyd Cyhoeddus Cymru y gallwn eu derbyn, ond buasem yn gofyn i unrhyw un sy’n cael gwahoddiad i gysylltu â ni i gael gwybod sut y gallent ymuno yn y frwydr yn erbyn Covid-19.”

I gefnogi’r treialon, mae pob dyn 17-70* oed sy’n profi’n bositif am Covid-19 yng Nghymru yn cael gwahoddiad i roi eu plasma. Yng Nghymru, dim ond gan ddynion mae rhoddion plasma yn cael eu cymryd ar hyn o bryd, gan fod ymchwil yn awgrymu bod gan ddynion lefelau gwrthgyrff llawer uwch na menywod.

Mae rhoddwyr sy’n rhoi plasma drwy roi gwaed yn gallu rhoi un uned o blasma bob 12 wythnos, ac mae’r rhan fwyaf o roddwyr yn gallu rhoi un uned o blasma ymadfer fel arfer, cyn i’w lefelau gwrthgyrff ddisgyn o dan y lefel ofynnol. Gallai rhoddwyr sy’n rhoi plasma drwy blasmafferesis allu rhoi hyd at ddwy uned bob pythefnos, os yw lefel eu gwrthgyrff yn caniatáu.

Daeth Karl Jones, perchennog busnes lleol o Fro Morgannwg yn un o’r rhoddwyr cyntaf yng Nghymru i roi plasma yng nghlinig plasmafferesis Gwasanaeth Gwaed Cymru yn Nhonysguboriau. Dywedodd:

“Dwi’n gwybod o lygaid y ffynnon pa mor bwysig ydy rhoi plasma, gan fy mod i wedi cael Covid-19 fy hun. Er fy mod i wedi cael cur pen difrifol, tymheredd uchel a bod fy nghorff yn brifo drosto – rwy’n ystyried fy hun yn lwcus iawn.

“Dwi yma heddiw oherwydd fy mod i eisiau helpu cleifion Covid-19. Roeddwn ychydig yn bryderus pan gyrhaeddais, ond mae’r staff wedi bod yn ardderchog, ac wedi gwneud i mi deimlo’n gyfforddus. Dwi wedi cael cynnig paned o de a bisged hyd yn oed!

“Ar ôl i mi wella, cysylltodd Iechyd Cyhoeddus Cymru i ofyn a fuaswn yn fodlon rhoi fy ngwrthgyrff i helpu cleifion yn yr ysbyty sy’n dioddef go iawn. Doeddwn i ddim yn gallu dweud na.

“Roedd y broses yn hawdd ac yn syml iawn. Fe wnes i apwyntiad i gael fy sgrinio yn Nhonysguboriau, a chefais fy ngwirio i wneud yn siŵr fy mod i’n ddigon iach i roi gwaed, a dyma fi heddiw.

Roedd y broses o roi gwaed ei hun yn iawn ac o fewn awr, roeddwn wedi gadael ac yn barod i gario ‘mlaen gyda fy niwrnod.

Os fyddwch chi’n cael yr alwad, gwnewch rhywbeth gwych i geisio ymladd yn erbyn covid-19; rhowch waed a chefnogi’r fenter achub bywyd hon.”

Ar hyn o bryd, mae’n bosibl casglu plasma drwy blasmafferesis yn Llantrisant a Wrecsam, ond bydd y broses yn cael ei chynnig yn Dafen cyn bo hir hefyd (Llanelli).  Gellir casglu gwaed drwy waed cyflawn ar draws Cymru.

* Mae’n rhaid i roddwyr sydd erioed wedi rhoi gwaed o’r blaen ond sydd eisiau rhoi plasma, fod rhwng 17-65 oed i fedru gwneud hyn.

 

Beth ydy Plasmafferesis?
Mae plasma yn cael ei ddarganfod yn y llif gwaed, a gellir ei gasglu naill ai drwy roi gwaed neu drwy broses o’r enw plasmafferesis.

Mae rhoddion plasmafferesis yn cymryd gwaed gan roddwr ac yna, yn trosglwyddo’r gwaed drwy beiriant arbenigol sy’n gwahanu’r plasma, cyn dychwelyd y cydrannau gwaed eraill yn ddiogel i’r rhoddwr. Mae hyn yn caniatáu i gleifion COVID-19 sydd wedi gwella roi hyd at ddwy uned o blasma ymadfer yn ddiogel bob pythefnos.

 

Beth ydy plasma ymadfer?
Plasma ymadfer ydy plasma sydd yn cael ei gasglu gan gleifion sydd wedi gwella o COVID-19 (yn yr achos hwn). Bydd plasma gan gleifion sydd wedi gwella o COVID-19 yn cynnwys gwrthgyrff sydd wedi cael eu cynhyrchu gan eu system imiwnedd i ymladd y feirws. Gellir trallwyso’r plasma hwnnw i gleifion gwael iawn, y mae eu systemau imiwnedd eu hunain yn cael trafferth datblygu eu gwrthgyrff eu hunain. Felly, pwrpas y trallwysiad plasma ydy trallwyso gwrthgyrff i’r claf gwael gan y claf sydd wedi gwella, i helpu eu corff i ymladd y feirws COVID-19.

Er bod rhywfaint o dystiolaeth sydd yn dangos bod defnyddio plasma ymadfer yn cyflwyno budd i gleifion, mae angen cadarnhau diogelwch ac effeithiolrwydd tralllwysiadau plasma ymadfer drwy dreialon clinigol cadarn.

Bydd y treialon yn ymchwilio i weld p’un a allai trallwysiadau wella cyflymder gwella claf a siawns y claf o oroesi.  Gellir casglu a rhewi plasma hefyd cyn unrhyw ail don o COVID-19.

 

Treialon clinigol plasma ymadfer
Bydd y treialon yn ymchwilio i weld p’un a allai trallwysiadau plasma wella cyflymder gwella claf COVID-19 a siawns y claf o oroesi. Mae’r rhoddion cyntaf wedi cael eu casglu erbyn hyn, ac mae’r trallwysiadau cyntaf wedi digwydd yn barod. Bydd y trallwysiadau yn cael eu gwneud drwy dreial presennol REMAP-CAP a thrwy dreial newydd o’r enw RECOVERY, sydd yn cael eu harwain gan Brifysgol Rhydychen.

Ochr yn ochr â’r treialon hyn, mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn brysur yn adeiladu’r capasiti i gasglu plasma, fel ei fod yn gallu cyflawni ar raddfa fawr, os dangosir bod trallwysiadau’n helpu cleifion.