Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Stori Rhydian

Derbyniodd mam dyn o Gaerdydd waed ar ôl rhoi genedigaeth, ac mae’r dyn yn defnyddio Diwrnod Rhoddwyr Gwaed y Byd (Mehefin 14) i ddweud ‘diolch’ i roddwyr gwaed ar draws Cymru.

Mae Rhydian Bowen-Phillips, 41 o Grangetown, yn diolch i roddwyr ar ôl i’w fam gael gwaed yn Ysbyty Aberdâr i gefnogi ei hadferiad yn dilyn cymhlethdodau wrth roi genedigaeth i Rhydian.

Meddai Rhydian: “Heb y gwaed a gafodd fy mam y diwrnod hwnnw, mae’n annhebygol y byddai pethau wedi troi allan mor bositif ag y gwnaethant.

“Rwy’n ddiolchgar dros ben i’r miloedd o roddwyr sy’n cymryd yr amser i roi gwaed yng Nghymru bob blwyddyn, i rywun y byddant siŵr o fod fyth yn cwrdd â nhw."

Rhydian Bowen-Phillips

“Rwy’n ddiolchgar dros ben i’r miloedd o roddwyr sy’n cymryd yr amser i roi gwaed yng Nghymru bob blwyddyn, i rywun y byddant siŵr o fod fyth yn cwrdd â nhw.

“Does neb byth yn disgwyl bod yr un sydd angen trallwysiad, ond yn ffodus, roedd y gwaed yno i fy nheulu pan oedd ei angen arnynt. Rydw i wedi gweld y gwahaniaeth y gall gwaed ei wneud i fywydau pobl o lygaid y ffynnon, a dyna pam yr wyf yn parhau i roi gwaed ar ran fy mam.

“Drwy rannu fy stori, dwi’n gobeithio y byddaf yn annog rhywun arall i ddechrau rhoi gwaed hefyd.”

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn rhedeg mwy na 1600 o sesiynau rhoi gwaed ar draws Cymru bob blwyddyn, ac yn casglu bron i 100,000 o unedau o waed. Mae gwaed sydd yn cael ei gasglu yng Nghymru yn cael ei gyflenwi i 19 o ysbytai ar draws y wlad.

Dywedodd Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru: "I ni, mae pob rhoddwr gwaed yn arwr a diolch i roddwyr ar draws Cymru, roedd y gwaed yno i deulu Rhydian pan oedd ei angen.

“Mae tua 90,000 o roddwyr gwaed ar draws Cymru wedi rhoi gwaed o leiaf unwaith yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae llawer o’n rhoddwyr yn rhoi gwaed ar bob cyfle posib, ac mae rhai wedi cyrraedd 50, 75 neu hyd yn oed 100 o roddion!

“Mae gan un uned o waed y potensial i helpu hyd at dri o gleifion, felly mae’r rhoddwyr hyn yn cael effaith fawr ar fywydau pobl. Heb roddwyr gwaed, byddai’r byd yn le gwahanol iawn i gleifion.”

Dewch o hyd i'ch sesiwn rhoi gwaed agosaf.

Gwnewch apwyntiad heddiw