Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Hysbysiad preifatrwydd ategol

Hysbysiad Preifatrwydd Ategol i Gleifion yn ystod Covid-19

Mae’r hysbysiad hwn yn disgrifio sut y gall Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ddefnyddio gwybodaeth amdanoch chi ac eraill yn ystod y brigiad yn yr achosion o Covid-19. Mae’n ychwanegu at ein prif Hysbysiad Preifatrwydd sydd ar gael yma.

Mae GIG Cymru’n wynebu pwysau sylweddol o ganlyniad i’r pandemig Covid-19, ac mae camau wedi’u rhoi ar waith i reoli a lleihau lledaeniad ac effaith y brigiad. Er mwyn gwneud hyn, rydyn ni’n gweithio’n agos â sefydliadau iechyd a gofal eraill i ddarparu’r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl, mor gyflym ac mor ddidrafferth â phosibl. Yn yr argyfwng presennol, mae wedi dod yn bwysicach fyth rhannu gwybodaeth iechyd a gofal ledled y sefydliadau perthnasol fel y gallan nhw eich cefnogi’n well yn ystod y brigiad hwn.

Mae’r gyfraith bresennol sy’n caniatáu i wybodaeth bersonol gael ei defnyddio a’i rhannu’n briodol ac yn gyfreithlon mewn argyfwng iechyd cyhoeddus yn cael ei defnyddio yn ystod y brigiad hwn. Mae prosesau diogelu data ar waith i’n galluogi i ddarparu’r wybodaeth iawn i’r sefydliadau iawn er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau priodol yn cael eu rhoi ar waith wrth i’r brigiad hwn ddatblygu. Byddwn ni’n sicrhau bod unrhyw wybodaeth sy’n cael ei chasglu, ei defnyddio a’i rhannu’n cael ei thrin â’r dulliau diogelu priodol ar waith, a’i bod yn ddarostyngedig i reolau llym sy’n bodloni gofynion deddfwriaeth diogelu data.

Mae’r sefydliadau y gallwn ni rannu’ch gwybodaeth â nhw’n gallu cynnwys rhai o fewn GIG Cymru, Llywodraeth Cymru, gwasanaethau gofal cymdeithasol, awdurdodau lleol a’r rheini yn y sectorau gwirfoddol a phreifat sy’n cyflenwi gwasanaethau hanfodol i gefnogi iechyd a gofal. Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd angen i ni ddweud wrth y sefydliadau hyn os ydych chi’n un o’r bobl hynny a fydd angen cefnogaeth ychwanegol e.e. rydych chi yn y grŵp o bobl y nodwyd eu bod nhw’n fwy agored i niwed yn sgil y feirws oherwydd bod gennych chi gyflwr iechyd sydd eisoes yn bodoli.

Rydyn ni am eich sicrhau na fydd unrhyw wybodaeth sy’n rhan o’ch cofnod meddygol yn cael ei rhannu oni bai bod hynny’n hollol angenrheidiol er mwyn sicrhau’r gofal gorau ar eich cyfer. Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd angen i ni rannu’ch gwybodaeth â Phractisau Meddygon Teulu, Ysbytai a Fferyllfeydd Cymunedol cyfagos i’w galluogi i roi triniaeth ichi.

Mewn amgylchiadau pan fyddwch chi’n dweud wrthyn ni bod gennych chi symptomau Covid-19, mae’n bosibl y bydd angen i ni gasglu gwybodaeth benodol am eich iechyd. Pan fydd angen i ni wneud hynny, ni fyddwn ni’n casglu mwy o wybodaeth nag sydd ei hangen arnon ni. Bydd gofyn i ni rannu gwybodaeth gyfyngedig at ddibenion diogelu iechyd y cyhoedd a monitro a rheoli’r brigiad mewn achosion.

Bydd unrhyw wybodaeth y byddwn ni’n ei defnyddio neu’n ei rhannu yn ystod y brigiad mewn achosion o Covid-19 wedi’i chyfyngu i gyfnod y brigiad. Dim ond oherwydd y brigiad presennol mewn achosion o Covid19 y mae’r cam chwim hwn yn cael ei gymryd.

Sylwch: Mae’n bosibl hefyd y byddwn ni’n cymryd hirach i ymateb i Geisiadau Hawliau Unigol tra’n bod ni’n canolbwyntio ein hymdrechion ar ymateb i’r brigiad mewn achosion. Rydyn ni’n gofyn yn barchus, os nad yw’ch cais am wybodaeth yn un brys, a fyddech cystal ag ystyried a oes modd y gellid gohirio’ch cais am wybodaeth.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau pellach / neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni yn http://www.velindre-tr.wales.nhs.uk/polisi-preifatrwydd-1. Gellir gweld manylion pellach ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth am Ddeddf Diogelu Data 2018 (DPA) a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016 (GDPR) neu ewch i hyb gwybodaeth am ddiogelu data a’r coronafeirws Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Mae’n bosibl y byddwn ni’n diwygio’r hysbysiad preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg felly tarwch lygad drosto’n aml – Fersiwn 1 – 25ain Ebrill 2020