Sut allwch chi helpu cleifion mewn angen
Mae angen i ni sicrhau bod digon o gyflenwadau gwaed a chydrannau gwaed ar gael i bobl ar draws Cymru sydd eu hangen, a dyma sut y gallwch helpu cleifion mewn angen, heb roi gwaed!
Nid rhoi gwaed yw'r unig ffordd o helpu. Gallwch wneud gwahaniaeth sy’n gallu achub bywydau mewn sawl ffordd arall.
Allwch chi ein helpu ni i annog pobl i roi gwaed? Rydym yn chwilio am gefnogwyr a allai ein helpu drwy ledaenu'r gair a gweiddi am y pwysigrwydd o roi gwaed, platennau, plasma neu fêr esgyrn.
Dyma rywfaint o'r ffyrdd y gallwch ein helpu i gyfleu'r neges a chefnogi pobl yng Nghymru sydd angen rhoddion gwaed:
- Arddangos poster yn y gwaith neu yn eich ardal leol
- Hyrwyddo ein clinigau rhoi gwaed gyda theulu, ffrindiau a chydweithwyr
- Rhannu adnoddau am y gwahaniaeth mae rhoi gwaed yn gallu ei wneud sy’n gallu achub bywydau
Cliciwch ar yr ymgyrchoedd isod i gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch ddod yn gefnogwr.