Yn ystod yr Wythnos Genedlaethol Rhoddwyr Gwaed (Mehefin 12 - 18) eleni, mae mam i efeilliaid, sy’n 29 mlwydd oed, yn eirioli am fwy o roddwyr gwaed i ddod ymlaen, ar ôl i un o'i meibion newydd-anedig orfod cael trallwysiadau gwaed i achub ei fywyd.
Cafodd Jodie Lewis a'i phartner Niall Trew o Gilfach Goch wybod yn ystod sgan arferol 26 wythnos, bod un o'u babanod wedi cael problem gyda llif y gwaed, a arweiniodd at Jodie yn treulio cyfnod y Nadolig yn yr ysbyty.