Cam 2: Beth ddylech chi wneud ar y diwrnod y byddwch chi’n rhoi gwaed
Mae’n rhaid i chi ddilyn rhywfaint o gamau cyn gwirfoddoli i roi gwaed.
Cofrestru eich manylion
Ar ôl i chi gyrraedd y clinig, bydd angen i ni gofrestru eich manylion. Bydd aelod o'n tîm yn rhoi’r Holiadur Gwirio Iechyd Rhoddwyr i chi i'w gwblhau, a fydd yn rhoi mwy o wybodaeth i ni am eich iechyd cyffredinol, eich hanes teithio a’ch ffordd o fyw, ac a fydd yn ein helpu i wneud yn siŵr eich bod chi’n ffit ac yn iach i roi gwaed.
Gwirio lefelau eich haearn
Byddwn yn cymryd diferyn o waed o ben eich bys i fesur eich lefel hemoglobin (haearn), ac yn gwirio ei fod o fewn yr ystod dderbyniol.
Rhoi gwaed
Nawr mae'n amser rhoi gwaed! Fel arfer, mae’n cymryd rhwng pump a deng munud i roi gwaed.
Cam 3: Gorffwys
Ar ôl i chi orffen rhoi gwaed, mae'n amser gorffwys gyda diod a bisged (neu ddau!), sef hoff ran pawb, gan wybod eich bod chi wedi gwneud rhywbeth anhygoel.
Pa mor aml allwch chi roi gwaed?
Mae amseroedd aros gwahanol ar gyfer menywod a dynion sy'n rhoi gwaed. Mae’n rhaid i roddwyr gwrywaidd aros am o leiaf 12 wythnos rhwng rhoi gwaed, a gallant roi gwaed hyd at bedair gwaith mewn blwyddyn galendr.
Mae’n rhaid i fenywod aros am o leiaf 16 wythnos lawn rhwng rhoi gwaed, a gallant roi gwaed hyd at dair gwaith mewn blwyddyn galendr.