Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Beth i’w ddisgwyl pan rydych chi’n rhoi gwaed

Mae rhoi gwaed yn rhywbeth syml i’w wneud, ac yn wobrwyol.

Drwy roi ychydig bach o'ch amser i roi gwaed, rydych yn achub bywydau pobl ar draws Cymru. P'un a ydych yn rhoi gwaed am y tro cyntaf neu eisiau gwybod mwy am y broses, gallwch ddarganfod mwy drwy ddarllen y camau isod.

Cyn rhoi gwaed

Cyn i chi drefnu apwyntiad, bydd angen i chi wirio os ydych chi’n gymwys i roi gwaedGallwch wneud hyn drwy gwblhau ein cwis cymhwysedd neu drwy ein ffonio ni ar 0800 252 266. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am bopeth sydd angen i chi wybod am roi gwaed, ac yn gwirio eich cymhwysedd i fod yn rhoddwr gwaed.

Once you have checked your eligibility, you are ready to book an appointment to give blood at your nearest donor centre.

Ar y diwrnod

Byddwn yn cofrestru eich manylion pan rydych chi’n cyrraedd y ganolfan rhoi gwaed. Yna, bydd aelod o'r tîm yn dangos i chi sut i ddefnyddio'r tablet sgrîn gyffwrdd i gwblhau'r Holiadur Gwirio Iechyd Rhoddwyr, a fydd yn rhoi gwybod i ni am eich iechyd cyffredinol, eich hanes teithio a’ch ffordd o fyw. Rydym eisiau sicrhau eich bod chi’n ddigon ffit ac iach i roi gwaed, a bod eich gwaed yn ddiogel i'w roi i glaf. Bydd aelod o staff ein tîm yn trafod yr holiadur iechyd gyda chi yn gwbl gyfrinachol, i asesu eich addasrwydd.

Yna, byddwn yn cymryd diferyn o waed o ben eich bys i fesur eich hemoglobin (haearn) ac i wirio ei fod o fewn yr ystod dderbyniol.

Byddwn yn rhoi 500ml o hylif i chi ei yfed hefyd cyn i chi roi gwaed - bydd hyn yn helpu i sicrhau eich bod chi wedi’ch hydradu, a dim yn teimlo'n benysgafn ar ôl rhoi gwaed. Rydym yn argymell eich bod chi’n cael byrbryd hefyd cyn mynd i'r ganolfan rhoi gwaed, i sicrhau bod lefelau’r siwgr yn eich gwaed yn sefydlog.

Pan rydych chi’n rhoi gwaed

Unwaith y byddwn wedi cynnal y gwiriadau iechyd angenrheidiol, mae'n amser rhoi gwaed! Mae'r broses rhoi gwaed ei hun yn cymryd tua phump i ddeg munud i'w chwblhau. Byddwn yn gosod nodwydd yn eich braich ac yn casglu eich gwaed mewn bag gyda'ch rhif rhoddwr gwaed arno. Ein nod yw cymryd 475ml (ychydig o dan beint) o waed gyda samplau ychwanegol i'w profi. Yna, byddwn yn tynnu'r nodwydd o'ch braich ac yn defnyddio dresin di-haint.

Ni ddylech deimlo unrhyw boen neu anghysurdeb. Bydd ein staff yn cadw llygad barcud arnoch i sicrhau bod popeth yn iawn, felly does dim i boeni amdano.

Wedi gwneud apwyntiad yn barod?

Os ydych chi wedi trefnu eich apwyntiad yn barod, darllenwch hwn cyn i chi roi gwaed. Mae'n cynnwys popeth sydd angen i chi wybod i'ch helpu i roi gwaed yn llwyddiannus.

Darllen mwy

Ar ôl i chi roi gwaed

Nawr mae'n amser gorffwys, a chael diod a bisgedi cyn i chi adael y ganolfan. Mae'n bwysig sicrhau bod lefelau’r siwgr yn eich gwaed yn sefydlog ac nad ydych chi wedi’ch dadhydradu, a’ch bod chi ddim yn teimlo’n wan neu’n sâl.

Rydym yn argymell hefyd, eich bod chi’n parhau i wisgo’r dresin ar eich braich am 30 munud ar ôl rhoi gwaed, a chadw'r plastr ymlaen am o leiaf chwe awr wedyn. Gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n defnyddio'ch braich ar gyfer unrhyw beth sy'n rhy lafurus, fel codi pethau trwm. Os oes materion sy'n ymwneud â digwyddiad o'r fath yn digwydd ar ôl i chi adael y sesiwn, dylech gysylltu â llinell gymorth GGC ar 0800 252 266, eich Meddyg Teulu, neu ffonio 999 neu linell gymorth 111 y GIG am gyngor.

Ar ôl gwneud eich rhodd gyntaf a phan fyddwch yn cyrraedd cerrig milltir allweddol - byddwn yn anfon cerdyn rhoddwr atoch yn y post (gall hyn gymryd hyd at wyth wythnos). Mae'r cerdyn hwn yn rhywbeth bach gennym ni i ddiolch i chi, a bydd yn eich helpu hefyd i gofrestru'n gyflymach pan fyddwch yn cyrraedd ar gyfer eich apwyntiad nesaf.

Darganfyddwch fwy am Ymchwil, arloesi a datblygu yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru.

Eich rhodd nesaf

Unwaith y byddwch wedi rhoi gwaed a bod popeth yn iawn, gallwch orffwys ac aros am eich cyfle nesaf i roi gwaed. Mae’n rhaid i roddwyr gwrywaidd aros am o leiaf 12 wythnos rhwng pob rhodd o waed, ac mae’n rhaid i roddwyr benywaidd aros am o leiaf 16 wythnos cyn rhoi gwaed eto.

Yn barod i roi gwaed? Trefnwch apwyntiad i roi gwaed sy'n achub bywydau yn eich ardal chi.

Dechreuwch yma