Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.
Ydych chi rhwng 17 a 66 oed neu’n rhoddwr presennol o dan 72 oed?
Ydych chi rhwng 17 a 66 oed neu'n rhoddwr ar hyn o bryd? Os ydych chi'n 72 oed neu'n hŷn, ydych chi wedi rhoi gwaed yn llwyddiannus yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf?
Ydych chi’n pwyso dros 50kg (7stôn 12pwys)?
Os ydych chi’n rhoddwr benywaidd dan 20 oed, os ydych chi o dan 5 troedfedd 6 modfedd neu o dan 10 stôn 3lb (65kg), cliciwch yma.
Os ydych chi’n wryw, ydych chi wedi rhoi gwaed yn ystod y 12 wythnos diwethaf (dim ond 4 rhodd y flwyddyn mae dynion yn gallu eu rhoi)?
Os ydych chi’n fenyw, ydych chi wedi rhoi gwaed yn ystod yr 16 wythnos diwethaf (dim ond 3 rhodd y flwyddyn mae menywod yn gallu eu rhoi)?
A gawsoch chi eich geni, neu ydych chi wedi byw tu allan i’r DU am 6 mis neu fwy?
Ydych chi wedi cael brechiad Covid yn y 48 awr ddiwethaf neu unrhyw frechiad arall (ac eithrio brechiadau ffliw) yn yr 8 wythnos diwethaf?
Ydych chi wedi cael trallwysiad gwaed neu ddeunydd wedi'i drawsblannu (gwaed cyflawn, platennau neu blasma) ers 1 Ionawr 1980?
Yn ystod y 4 mis diwethaf, ydych chi wedi cael anaf gyda nodwydd neu anaf arall neu unrhyw driniaeth a oedd yn cynnwys tyllu'r croen?
e.e. tatŵ, tyllu, aciwbigo, therapi cyflenwol.
Ydych chi wedi bod yn feichiog yn ystod y 6 mis diwethaf neu ydych chi'n feichiog nawr?
Ydych chi wedi cael triniaeth ddeintyddol yn y saith diwrnod diwethaf?
Ydych chi erioed wedi cael eich diagnosio gyda salwch difrifol? e.e. canser, HIV, cyflwr y galon, strôc, neu epilepsi.
Ydych chi'n aros i weld meddyg, deintydd, neu unrhyw fath o berson gofal iechyd, neu'n aros am ganlyniadau ymchwiliadau?
Ydych chi wedi cael endosgopi (llygad hud) yn ystod y 4 mis diwethaf?
Os nad ydych chi wedi rhoi gwaed yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, ydych chi'n cymryd unrhyw feddyginiaeth*?
Os ydych chi wedi rhoi gwaed yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, oes unrhyw newidiadau o ran meddyginiaeth newydd* neu newidiadau mewn dos nad ydych wedi dweud wrthym amdanynt?
*Ac eithrio HRT neu atal cenhedlu
Ydych chi wedi bod mewn cysylltiad ag unrhyw un sydd â chlefyd heintus yn ystod y 4 wythnos diwethaf?
Os ydych chi wedi bod mewn cysylltiad gyda rhywun sydd â Hepatitis yn ystod y 12 mis diwethaf, ffoniwch am gyngor.
A fyddwch chi wedi teithio y tu allan i'r DU yn y 12 mis cyn y dyddiad ar gyfer eich apwyntiad i roi gwaed?
Ydych chi erioed wedi cael syffilis?
Yn ystod y 3 mis diwethaf, ydych chi wedi cael:
a) partner rhywiol newydd?
b) clefyd sydd wedi’i drosglwyddo’n rhywiol?
c) Rhyw sy'n defnyddio cyffuriau adfywiol i wella'r profiad rhywiol (ac eithrio canabis, alcohol a viagra)?
1/17