Isafswm terfyn pwysau
Mae’n rhaid i chi fod dros 7 stôn 12 pwys (50kg) i roi gwaed.
Os ydych chi’n ferch o dan 20 oed, darllenwch yr adran wybodaeth isod.
Uchafswm terfyn pwysau
Mae’r uchafswm pwysau yn dibynnu ar y cadeiriau rhoi gwaed yn ein clinigau.
- Clinigau rhoi gwaed symudol – 35stôn (225kg)
- Sesiynau rhoi gwaed yn y gymuned – 25stôn (160kg)
- Clinig rhoi gwaed symudol tri gwely – 25stôn (160kg)
- Pencadlys Gwasanaeth Gwaed Cymru – 23stôn (146kg)
Rhoddwyr benywaidd dan 20 mlwydd oed
Os ydych chi dan 5 troedfedd 6" (168cm) neu'n pwyso llai na 10 stôn 3 pwys (65kg), defnyddiwch yr wybodaeth ar daldra a phwysau isod i wirio eich cymhwysedd.
Os yw eich pwysau a'ch taldra yn cwrdd mewn bocs gwyn, rydych chi’n gymwys i roi gwaed.
Os yw eich pwysau a'ch taldra yn cwrdd mewn bocs llwyd, bydd angen i chi aros nes bod eich taldra a'ch pwysau yn bodloni'r meini prawf, neu tan eich pen-blwydd yn 20 oed i roi gwaed.